Thursday, September 18, 2014

Beth ddigwyddith heno?

Mae Blogmenai yn darogan etholiadau fel rheol, ond dwi'n cael hon yn uffernol o anodd.  Mi fydd pawb sy'n darllen Blogmenai yn rheolaidd yn gwybod fy mod efo gwendid bach am fetio gwleidyddol.

Mi'r oeddwn yn betio ar bethau eraill fel rygbi ers talwm, ond mi'r oeddwn yn anobeithiol o wael an wneud hynny - felly mi roddais y gorau iddi.  Ond ar wleidyddiaeth y byddaf yn betio y dyddiau hyn. Dwi wedi cael ychydig mwy o lwyddiant efo betio gwleidyddol, ond mae yna resymau am hynny.

Y peth i'w gofio efo betio ydi eich bod yn betio yn erbyn betwyr eraill yn y bon - felly os oes gennych well gwybodaeth na'r rhan fwyaf o bobl, mi fyddwch - at ei gilydd - yn ennill.  Y tair bet wleidyddol fwyaf proffidiol i mi oedd un ar Leanne Wood i ennill arweinyddiaeth y Blaid, un ar i Lyn Boylan ddod ar ben y pol yn etholiad Ewrop yn Nulyn eleni, ac un ar gynnydd ym mhleidlais y Blaid yn etholiad Cynulliad 2007.  

Roeddwn mewn sefyllfa llawer cryfach na'r rhan fwyaf o fetwyr yn etholiad Leanne - dwi'n'nabod llawer iawn o Bleidwyr Arfon.  Mae mwy o aelodau gan y Blaid yn Arfon na'r unman arall, ac mae Arfon ymhell iawn o'r Rhondda.  Roedd y ffaith bod tua hanner aelodau'r Blaid roeddwn yn eu hadnabod yn Arfon yn bwriadu pleidleisio i Leanne yn ei gwneud yn weddol sicr ei bod am ennill. 

Yn achos etholiad 2007 roedd gen i fynediad i'r fanylion y ganfas yn Arfon, ac roedd yn well na chanfas 2003.  Doedd honno ddim mor saff a'r bet ar Leanne - efallai bod rhywbeth rhyfedd yn digwydd yn Arfon - ond roedd yn rhoi syniad go lew o'r hyn oedd am ddigwydd.

Doedd gen i ddim gwybodaeth mewnol yn etholiad Euro 2014 yn Nulyn, ond roedd gen i ychydig o wybodaeth hanesyddol.  Roedd y polau yn rhoi ymgeisydd Fine Gael, Brian Hayes yn gyntaf a Boylan yn ail.  Roedd hi'n bell y tu ol i Hayes, ond roedd yn ail clir.  Mae gan Fine Gael hen hanes o dan berfformio yn Nulyn, ac mae gan y polau hanes o amcangyfrif gormod o gefnogaeth i wleidyddion adain Dde, dyfeisgar yn y ddinas.  Doedd hon ddim yn fet saff o bell ffordd - ond mae 4/1 yn bris da.

Daw hyn a ni at refferendwm heddiw.  Mae yna dri rheswm gweddol gryf i feddwl mai Na fydd yr ateb - y polau, y marchnadoedd betio a'r ffaith bod y cyfryngau yn unfrydol elyniaethus i annibyniaeth i'r Alban - o'r Bib i Sky. O'r Guardian i'r Mail.  Mi gymerwn ni nhw un fesul un.  

Mae yna rai sy 'n dweud bod edrych ar brisiau betio'n ffordd cystal a'r un i ddarogan etholiadau.  Mae'r marchnadoedd yn awgrymu'n gryfach na'r polau mai Na fydd yn mynd a hi. Adlewyrchu faint o bres sy'n cael ei fetio (a barn y bwci i raddau) mae prisiau marchnadoedd betio.  Mae yna fetio trwm wedi bod ar Na - ond yn Lloegr.  Mae'r rhan fwyaf o'r betio yn yr Alban wedi bod ar Ia.  Mae pobl sy'n betio yn Lloegr yn cael eu gwybodaeth i gyd bron o'r cyfryngau prif lif Seisnig.  Mae'r bobl sy'n betio yn yr Alban hefyd yn cael y cyfryngau prif lif - ond mae'n nhw'n cael gwybodaeth o'r ymgyrch llawr gwlad a gwefannau cymdeithasol.  O ganlyniad mae eu canfyddiad o'r hyn sy'n digwydd yn wahanol. Dydi'r marchnadoedd betio ddim yn arbennig o ddibynadwy yn yr amgylchiadau sydd ohonynt.

Mae'r polau bron i gyd yn dweud mai Na fydd y canlyniad - er bod pethau'n weddol agos erbyn hyn.  Dwi wedi trafod eisoes pam bod lle cryf i beidio rhoi gormod o goel ar y polau y tro hwn.  Mae yna amheuaeth am addasrwydd y fethedoleg - ac mae yna hanes o pob pol yn cael pethau'n anghywir yn y gorffennol - 1992 ydi'r esiampl enwocaf.  Yn fwy perthnasol mi dan gyfrifodd pob pol - fwy neu lai - bleidlais yr SNP yn etholiadau Hollyrood yn 2011 - a than gyfrifo o lawer iawn yn yr etholiadau rhanbarthol.  Mae tan gyfrifiad bach am wneud y gwahaniaeth yma.

Ceir cred bod y sawl sy'n dweud nad ydynt yn gwybod yn fwy tebygol o gadw at y status quo ar ddiwrnod pleidleisio - ac efallai bod gwirionedd yn hynny.  Ond mae yna ddadl mai pobl sydd eisiau cael eu perswadio i bleidleisio Ia ydi'r bobl hyn yn yr achos yma - ac mae yna fymryn o dystiolaeth anecdotaidd i gefnogi hynny - Andy Murray heddiw, Newsnight neithiwr - yn ogystal a phatrwm tros yr wythnos neu ddwy diwethaf o symudiad at Ia gan y sawl nad oeddynt yn siwr.

Ac wedyn dyna 'ni 'r ymdriniaeth gyfryngol.  Mae'n anodd gwadu bod llifeiriant di baid o bropoganda yn rhywbeth anodd iawn i fynd i'r afael efo fo - a go brin i unrhyw etholiad gael ei hennill yn wyneb pwysau felly yn y gorffennol.  Ond mae dau ffactor yn milwrio o blaid Ia y tro hwn - yr ymgyrch llawr gwlad enfawr sydd wedi mynd ati yn systematig i berswadio pobl a'u darparu efo ffeithiau a gwefannau cymdeithasol - mae'r ochr Ia wedi dominyddu yn y fan honno.  Yn wir mae celwydd ar y teledu a'r radio yn aml yn cael ei gywiro ar y We o fewn eiliadau i gael ei wyntyllu.  Dydi hyn ddim yn unioni'r anghydbwysedd - ond mae'n helpu.

Ychwanegwch at hynny drefn etholiadol yr SNP, yr ynni rhyfeddol sydd wedi ei ryddhau ar lawr gwlad a'r fyddin o weithwyr sydd gan yr ochr Ia - ac mae pethau'n edrych yn bosibl.  Yn fwy na phosibl efallai.

Dwi heb fod yn ddigon hyderus i fetio'n drwm y tro hwn ddim o bell ffordd - ond  mae gen i fet fach neu ddwy yn agored.  Mi gefais fet wythnosau'n ol ar i Ia gael mwy na 43% - honno ydi fy met fwyaf.  Mae gen i fet hefyd ar i Glasgow bleidleisio Ia - wedi ei gwneud ar sail ymweliad a'r ddinas honno.  Dwi hefyd wedi rhoi bet ar yr ochr Ia i ennill, ac un fach iawn ar yr ochr Ia i gael mwy na 55%. 

Betio efo'r galon yn bennaf efallai - ond dwi 'n meddwl bod yna rhywfaint o sail rhesymegol hefyd.


2 comments:

Anonymous said...

Ipsos-Mori wedi cyhoeddi heno eu bod yn tybio y bydd eu pol yn annibynadwy os ydi'r turn-out yn cyrraedd 80%( pob argoel mai felly bydd hi). A ydyn nhw'n dechrau paratoi eu hesgusodion?

Anonymous said...

O wel, mi gest ti ddwy o bedair yn iawn.