Sunday, August 24, 2014

Ynglyn a chelwydd refferendwm arall

Dwi wedi edrych ar amrywiaeth o gelwyddau sydd wedi cael eu defnyddio gan yr ochr Na yn y blogiad olaf ond un, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n gelwyddau braidd yn boncyrs - ac mae'n debyg nad ydi'r rhan fwyaf o bobl yn eu credu.  Ond mae yna rhai o'r celwyddau sy'n cael eu dweud yn cael eu credu gan niferoedd mawr o bobl - er eu bod nhw'n amlwg ddim yn wir.

Un celwydd felly ydi'r naratif y bydd y Toriaid mewn grym am byth yn San Steffan os bydd yr Alban yn mynd ei ffordd ei hun.  Rwan mae hyn yn gredadwy - ond dydi o ddim yn wir.  Beth am edrych ar y fathemateg? 

Ar hyn o bryd mae gan Llafur 258 sedd yn San Steffan.  Byddai hynny'n gostwng i 217 petai'r Alban yn gadael yr Undeb.  


Ond byddai'r trothwy sydd ei angen i gael mwyafrif llwyr yn gostwng hefyd.  Ar hyn o bryd mae'r trothwy hwnnw yn 326. Byddai'r trothwy yn 296 pe na fyddai Aelodau Seneddol yr Alban yn mynd i Lundain.  

Felly mae Llafur angen ennill 68 sedd ychwanegol i gyrraedd 326 fel mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd.  Petai'r Alban yn mynd ei ffordd ei hun byddai Llafur angen 79 sedd i fynd o 217 i 296. 

Mae hynny'n yn fwy heriol, ond dydi o ddim yn llawer iawn mwy heriol.  Yn sicr dydi'r cynnydd yma o 11 sedd sy'n rhaid ei hennill ddim yn gwarantu mwyafrif Toriaidd yn San Steffan am byth bythoedd.

Rhifyddeg syml ydi hyn - ond mae'r honiad yn cael ei gwneud trosodd a throsodd a throsodd.  

2 comments:

BoiCymraeg said...

Heb yr Alban byddai Llafur yn dal wedi cael mwyafrif yn 1997, 2001 a 2005. Byddai 2010 wedi bod yn fwyafrif i'r Toriaid.

Anonymous said...

dim celwyddau o gwbl gan yr ochr arall o'r ddadl. Rhyfedd iawn!