Friday, August 08, 2014

Yr Alban - y polio diweddaraf

Roedd yna gryn ddathlu yn sgil y ddadl rhwng Alistair Darling ac Alex Salmond ymysg gwleidyddion unoliaethol - daethant i'r casgliad i Darling ennill y dydd - er bod y polio a wnaed yn syth bin yn rhoi negeseuon digon cymysg.

Beth bynnag - mae polio mwy trylwyr a wnaed yn hwyrach yn awgrymu bod y momentwm sydd y tu ol i'r ochr 'Ia' wedi parhau.  O ddiystyru'r sawl sy'n dweud nad ydynt wedi penderfynu - yna'r ffigyrau ydi 53% Na i 47% Ia.  Margin for error pol o 1,000 ydi +\- 3%.  Hynny yw gallai'r ddwy ochr fod ar 50% yr un.  

Dydi hyn ddim yn golygu bod yr ochr Ia yn debygol o ennill wrth gwrs - maen nhw wedi bod ar ei ol hi ym mhob pol ers tro byd.  Ond yn aml mewn etholiadau - neu refferenda- gall cyfeiriad y polau tuag at ddiwedd ymgyrch ddweud mwy wrthym na'r union ffigyrau.  

Mae'n edrych yn bosibl  - dim mwy na hynny wrth gwrs - bod bod rhywbeth digon anisgwyl am ddigwydd  fis nesaf.

Diweddariad 9/8 - a finnau wedi 'sgwennu'r uchod dyma hyn yn digwydd - mae pethau'n ansefydlog iawn.


No comments: