Friday, August 22, 2014

Ynglyn a betio gwleidyddol a'r Alban

Mae'r bwcis yn dweud yn weddol glir mai'r ochr Na sy'n mynd i ennill fis nesaf yn yr Alban, ac mae'r pres sy'n dod i mewn yn awgrymu hynny hefyd.  Pres sy'n gyrru hynny i raddau - ond edrychwch ar y graffiau yma sy'n dangos yn gyntaf faint o bres mae Ladbrokes yn ei gymryd ac wedyn faint o fetiau sydd wedi eu gwneud.  Mae'r gwahaniaeth yn sylweddol.

Mae yna fwy o bres yn mynd ar Na, ond mae yna fwy o bobl unigol yn betio ar Ia.  Gallai hyn  adlewyrchu'r ffaith bod pobl gyfoethog yn fwy tueddol o fotio Na, tra bod y sawl sydd heb lawer iawn o bres yn fwy tueddol i bleidleisio Ia - a bod pobl yn fotio'n unol a'r hyn maent am iddo ddigwydd.   Mae tri chwarter y sawl sy'n betio ar hyn o bryd yn pleidleisio Ia.  

Mi ddof yn ol at hyn maes o law - ond gallwch weld manylion pellaf yma.


2 comments:

Dylan said...

Ydi hi'n bosibl bod llawer o gefnogwyr Aye yn gosod betiau bychain er mwyn ceisio dylanwadu ar yr ods?

Cai Larsen said...

Dydi pres bach ddim yn dylanwadu llawe ar brisiau betio.