Rhywbeth arall sy'n gwneud dyn ychydig yn amheus am ddaatganiad bisar a bombastic Carwyn Jones ei fod am roi'r feto i'r Alban gael cadw Sterling - er nad oes ganddo fwy o hawl i wneud hynny na fi - ydi'r agwedd anymunol mae'n ei ddangos at bobl o wledydd eraill. Mae'n honni y bydd yr Albanwyr annibynnol mor dramor a Gwlad Belg, yr Almaen neu Ffrainc - hynny ydi ein partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd - corff a chysyniad mae Carwyn yn honni ei fod yn eu cefnogi. Mae o bron iawn fel petai Carwyn yn meddwl bod rhywbeth o'i le ar 'dramorwyr'.
Yn rhyfedd iawn wnaeth Carwyn ddim son am Iwerddon fel bod yn wlad llawn tramorwyr, er bod y rhan fwyaf o'r wlad honno wedi ei lleoli mewn gwladwriaeth arall. Byddai'n ddiddorol os ydi Carwyn a'i wraig - sy'n dod o Ogledd Iwerddon - yn ystyried pobl o'r De fel 'tramorwyr'.
2 comments:
Ella bod o'n paratoi'r ffordd i fynd i glymblaid efo UKIP yn 2016.
O bosibl - neu efallai ei fod yn trio ennill ur holl bleidleisiau a gollwyd yn y Cymoedd yn etholiafau Ewro.
Post a Comment