Saturday, August 30, 2014

Argraffiadau o'r Alban ar drothwy refferendwm hanesyddol

Rhag i ddarllenwyr Blogmenai ddechrau cwyno nad ydyn nhw'n cael gwerth eu pres, mi es i am ychydig o ddyddiau i'r Alban i bwrpas busnesu er mwyn gadael i chi oll wybod sut mae pethau'n mynd. Dyma fy argraffiadau - gweddol di strwythur - isod.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod pawb yn son am y refferendwm - mewn tai bwyta, tafarnau, yn y siopau allan ar y stryd.  Rydych yn clywed y sgwrs ym mhob man o'ch cwmpas.  Dydi'r lefel yma o ymglymiad gwleidyddol ddim yn rhywbeth 'dwi wedi dod ar ei draws o'r blaen yn unman.



Mae yna elfen gref o anghymesuredd ynghlwm a'r holl sefyllfa.  Rydym wedi son o'r blaen - sawl gwaith am y syniad o 'air war' a 'ground war' mewn etholiad - hynny yw bod un rhan o'r ymgiprys yn digwydd trwy gyfrwng y cyfryngau torfol tra bod un arall yn digwydd ar lawr gwlad.  Mae'r ochr Na yn dominyddu'r naill tra bod yr ochr Ia yn dominyddu'r llall.  



Mae'r Herald (papur a chylchrediad cyfyng) ar yr ochr Ia, ac mae'r holl gyfryngau print eraill ar yr ochr Na. Mae'r Bib a Sky News i fod yn ddi duedd - ond dydi barn bersonol eu gohebwyr byth ymhell o'r wyneb - ac mae'n torri i'r wyneb yn fynych.  Er enghraifft roedd Sky yn ystyried perfformiad treuenus Darling yn nadl nos Lun yn fuddugoliaeth, tra bod y Bib yn dweud 'bod pethau'n fwy cyfartal y tro hwn'.  Mae pob dim arall yn wrth annibyniaeth - weithiau i raddau cwbl hysteraidd (ein hen gyfaill y Daily Mail er enghraifft), ac mae llif di derfyn o bropoganda gwrth annibyniaeth yn cael ei gynhyrchu'n ddyddiol i bobl ei ddarllen wrth fwyta'i brecwast. Mae'r  stwff yma yn aml yn bersonol a dilornus iawn o'r sawl sydd o blaid annibyniaeth - yn diferu gyda chasineb a malais.


Ond mae'r frwydr llawr gwlad yn gwbl wahanol - ceir nifer fawr o ddigwyddiadau i gefnogi annibyniaeth ar hyd a lled y wlad yn ddyddiol - sesiynnau canfasio, stondinau stryd, sesiynnau taflennu, cyfarfodydd cyhoeddus.  Mae'r lefel o weithgaredd llawr gwlad yn sylweddol iawn.  'Dydi'r Albanwyr erioed wedi bod fel trigolion Ceredigion neu Dublin Central yn yr ystyr eu bod yn teimlo'r angen i roi poster etholiadol ar bob dim wneith ddal un, ond mae'n debyg gen i bod yna gant o bosteri Ia am pob poster Na.  Mae hyn yn wir ym mhob math o gymdogaeth - o'r fflatiau sydd uwchben siopau ar y Filltir Euraidd yng Nghaeredin i gymdogaethau tlawd Kelvinside yn Glasgow.  



Ac wedyn wrth gwrs mae yna'r cyfryngau amgen ar y We.  Yn wahanol i'r cyfryngau prif lif, unigolion sy'n gyfrifol am y rhain yn hytrach na chwmniau Prydeinig ac o ganlyniad fel yn achos y 'ground war' mae'r ochr Ia yn dominyddu'n llwyr. Mae'r stwff sy'n cael ei gynhyrchu yn aml yn greadigol ac effeithiol iawn - er bod cryn amrywiaeth yn y safon.  'Dydi'r cyfryngau amgen ddim mor bwysig a'r cyfryngau prif lif wrth gwrs, ond mae eu pwysigrwydd yn cynyddu - ac maent yn darparu atebion i bropoganda'r ochr Na yn gyflym iawn - weithiau o fewn eiliadau yn unig.  Hyd yn oed os nad ydi pawb yn gweld y cyfrwng ei hun, mae'r cynnwys yn cael ei gymryd oddi yno a'i drafod ar lawr gwlad.  Yn bersonol 'dwi ddim yn meddwl y byddai'r math yma o refferendwm yn enilladwy oni bai am yr arlliw o gydbwysedd cyfryngol mae'r cyfryngau amgen yn ei ddarparu.

'Dwi eisoes wedi nodi mai un o'r pethau rhyfeddol am y refferendwm ydi'r ffaith ei fod wedi annog cymaint o bobl i drafod gwleidyddiaeth - ond mae'n rhaid dweud bod yr hyn mae cefnogwyr y ddwy ochr yn ei ddweud yn adlewyrchu'r ymgyrchoedd.  



Mae'r rhesymau mae'r sawl sy'n cefnogi Na yn ei roi tros bleidleisio felly yn tueddu i fod yn negyddol, a/neu'n blwyfol - hynny yw byddant yn dweud nad ydynt yn hoffi Salmond neu Sturgeon, neu eu bod yn ofni colli eu pensiwn, neu eu bod yn ofn neidio i'r tywyllwch, neu bod yr Alban yn rhy fach.  




Mae'r rhesymau mae pleidleiswyr Ia yn eu rhoi yn fwy cadarnhaol - maen nhw'n dweud eu bod eisiau gweld gwlad decach neu lywodraeth sy'n adlewyrchu dyheuadau'r wlad neu lywodraethiant mwy cyfrifol a llai ymysodol.  

'Dydi'r canfyddiad mai brwydr rhwng yr SNP a phawb arall ydi hi ddim yn wir ar lawr gwlad - mae'n llawer mwy na hynny.  Un o bump siaradwr mewn cyfarfod cyhoeddus yn Morningside, Caeredin oedd yn perthyn i'r SNP.  Roedd y bobl (canol oed) oedd yn gweithio ar stondin stryd ynghanol Perth yn dweud nad oeddynt yn perthyn i unrhyw blaid ac erioed wedi cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth cyn y refferendwm.  Mae'n debyg bod ugainau o filoedd o bleidleiswyr Llafur am fod yn pleidleisio Ia. 

Mae'r polau yn dweud o hyd mai'r ochr Na fydd yn ennill.  'Dydi pob pol ddim yn anghywir yn aml - er bod hynny'n digwydd ambell waith.  Ac mae yna un neu ddwy o anecdotau sy'n awgrymu mai Na aiff a hi.  Dyn mewn cryn oed yn dod i mewn i gaffi yn Perth gyda gohebiaeth Ia yn ei law oedd wedi ei godi o'r stondin Ia allan ar y 'stryd a'r weinyddes yn gofyn wrtho - ' Dydach chi ddim yn bwriadu fotio Ia nag ydych George' - a hwnnw'n ateb - ' Dwi'n sicr yn meddwl am y beth _ _ _ ond mae fy mhensiwn yn dod o Loegr'. 

'Yn union George' meddai'r weinyddes, ac aeth un neu ddwy o ferched mewn oed ar fwrdd cyfagos ati i gytuno.  Roedd y busnes pensiynau yn codi dro ar ol tro ar ol tro ymysg yr henoed.  Roedd Gordon Brown wedi cael cyhoeddusrwydd sylweddol yn y cyfryngau prif lif yn codi bwganod am bensiynau.

Ond wedyn roedd yna arwyddion eraill - yr holl weithgarwch gan yr ochr Ia, y boi yn y siop ddillad yn Glasgow yn fy llongyfarch ar brynu crys 'Aye' a dweud ei fod wedi gwerthu llwyth.  Pan ofynais iddo fo faint o rai 'Naw' oedd o wedi ei werthu yr ateb oedd 'Dim jyst'.  Ac roedd yna hyder y bobl Ia yn wyneb yr holl bolio a chyhoeddusrwydd negyddol a'r dynion mewn bar yng Nghaeredin yn rowlio chwerthin wrth son am berfformiad treuenus Alistair Darling yn y ddadl yn erbyn Alex Salmond.  A dyna'r boi yn swyddfa Ia Caeredin yn eistedd am gyfnod maith efo dynes oedd eto i benderfynu  yn mynd trwy un mater ar ol y llall ar ol y llall yn fanwl, fanwl yn ei acen addysgiedig Dwyrain yr Alban.  Ac wedyn dyna fanylder rhyfeddol yr holi a'r ateb yn y cyfarfod llawn hwnnw ym Morningside.

Ac wedyn dyna'r dyn wrth y stondin yn Perth a finnau'n gofyn iddo fo beth fyddai'n digwydd petai'r polau'n gywir a'r canlyniad yn un negyddol 'Mi awn ni ymlaen' meddai 'dydi hi ddim am fod yn bosibl rhoi'r holl ynni sydd wedi ei ryddhau yn ol mewn bocs - mae o allan ac mae o allan i aros'.  

Ac efallai mai dyna'r hyn sydd i'w gymryd o hyn oll - beth byddag fydd yn digwydd ar Fedi 18 fydd yr Alban byth yr un peth eto - mi ddaw'r mater yn ei ol os na chaiff ei setlo bryd hynny - 'All is changed, changed utterly _ _ _'.

3 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Dyma fy marn i ar yr oblygiadau i Gymru petai yna bleidlais 'Ie' neu 'Na' http://ffrwti.com/ifanmj/1409505722

Cai Larsen said...

Diolch - mi lunia i ymateb rhyw ben

Anonymous said...

Am ymdriniaeth o'r effaith ar bensiynau gweler golofn Lesley Riddoch yn The Scotsman heddiw.