Wednesday, August 27, 2014

Carwyn Jones eisiau ychwanegu £1,800 o ddyled ar ran pawb yng Nghymru

Chware teg i Carwyn Jones am wneud ymddangosiad ym mhapurau'r Alban.  Yn ol Carwyn yn yr Herald ddoe mi fyddai'n rhoi'r feto ar unrhyw ymgais gan yr Alban i ddefnyddio Sterling petai'n ennill annibyniaeth.

Rwan ar un olwg mae hyn yn ddatganiad chwerthinllyd o fombastig a fi fawraidd.  Hyd yn oed petai Carwyn yn lew o ran cynrychioli Cymru ar lwyfan ehangach ni fyddai George Osborne a David Cameron yn cymryd y diddordeb lleiaf yn yr hyn sydd ganddo i'w ddweud ar fater sydd ymhell y tu hwnt i'w bwerau.  Ond dydi Carwyn ddim yn llew pan mae'n dod i amddiffyn buddiannau Cymru ar lwyfan rhyngwladol - llygoden ydi o.

Ond gadewch i ni feddwl am funud bod y dyn efo'r awdurdod mae'n smalio sydd ganddo - beth fyddai'n digwydd?  Dwi wedi gwneud syms cefn amlen.  Wel ar hyn o bryd mae dyled genedlaethol y DU yn tua £1,304bn.  Mae hyn yn cyfieithu i tua £21,000 am pob copa walltog yn y wlad.  Petai'r Alban yn gadael a phetai Carwyn yn cael ei ffordd ac yn mynnu nad ydi'r Alban yn cael defnyddio Sterling, yna byddai'r Alban yn gadael beth bynnag - ond yn gadael eu siar o'r ddyled genedlaethol i weddill y DU ei sortio allan.  Byddai hyn yn golygu bod y ddyled yn dod i tua £22,800 y person.

Mewn geiriau eraill byddai Carwyn Jones yn fodlon rhoi £1,800 o ddyled ychwanegol ar sgwyddau pob pensiynwr, oedolyn, plentyn a babi yng Nghymru oherwydd nad yw eisiau defnyddio'r un math o bres ag Alban annibynnol.  Diolch Carwyn.

No comments: