Monday, August 11, 2014

Codi ar bobl sydd wedi meddwi a smygwyr am ddefnyddio'r Gwasanaeth Iechyd

Mae'n gas gen i ymddangos yn wleidyddol anghywir - wedi'r cwbl does yna ddim pechod mwy na hynny yn y Gymru gyfoes.  Ond y stori yma ynglyn a chodi ar yfwyr sy'n defnyddio'r Gwasanaeth Iechyd aeth a fy sylw braidd heddiw - awgrym gan Weinidog Ieechyd Gogledd Iwerddon, Edwin Poots y dylai'r sawl sydd wedi meddwi orfod talu am.driniaeth meddygol. Bydd y math yma o awgrym yn codi o bryd i'w gilydd - fel y bydd awgrym tebyg i godi ar smygwyr sy'n defnyddio'r Gwasanaeth Iechyd.

Cost tebygol y gwasanaeth iechyd eleni fydd tua £110bn.  Mae hyn yn ddi amau yn llwyth o bres.  Ond mae smygwyr a photiwrs yn talu cryn dipyn mwy o drethi na neb arall.  Ymddengys bod yfwyr yn cyfrannu £14.3bn mewn derbyniadau treth tra bod smygwyr yn cyfrannu £12.3bn.  Dydi hyn ddim ymhell o chwarter cost y Gwasanaeth Iechyd.  Cyfraniad digon anrhydeddus dwi'n meddwl.

Ar y llaw arall 'dydi'r sawl sy'n defnyddio cyffuriau anghyfreithlon ddim yn talu ffadan goch mewn treth.  Mae'r sawl sy'n defnyddio cyffuriau presgripsiwn megis valium yn mynd gam ymhellach ac yn tynnu adnoddau o'r Gwasanaeth Iechyd i bwrpas bwydo arfer.

Efallai ei bod ychydig yn anghyfforddus i dynnu sylw at y ffaith ychwanegol bod smygwyr ac yfwyr trwm yn debygol o wneud llai o ddefnydd o'r Gwasanaeth Iechyd na phobl fel Mr Poots  oherwydd eu bod - at ei gilydd - am fyw llai na phobl fel Mr Poots.

Dwi'n anghytuno efo Mr Poots mae gen i ofn

7 comments:

Cneifiwr said...

Bydd un AC Llafur o leiaf yn falch iawn nad yw'n gorfod talu am driniaeth meddygol ar ôl sesh!

Cai Larsen said...

O bydd - mi bostia i'r lluniau rhyw ben - cyn nad oes neb arall yn fodlon gwneud hynny!

Anonymous said...

Meddylia cyn gwatwar, Cai. A yw pob AC Plaid Cymru yn hollol ddieuog o gadw cwmni i Sion Heiddyn, a landio mewn helynt ? Mae yna un sydd wedi bod mewn dipyn o strach. A fuasai'n beth dymunol petai blogiwr y Blaid Lafur yn cyhoeddi lluniau o'r unigolyn yna ?

Cai Larsen said...

Dwi'n meddwl y byddai'n disgwyl cael cyhoeddusrwydd negyddol petai mewn bywyd cyhoeddus ac yn gwneud yr un camgymeriad dair gwaith mewn ychydig tros flwyddyn.

Be ti'n feddwl?

William dolben said...

Diddorol iawn, Cai. Rhaid ystyried hefyd fod y rhai sy' smocio yn marw ar gyfartaledd 9 mlynedd ynghynt. Llymeitwyr yr un fath decien i. Felly maent yn talu am chwarter y gyfundrefn iechyd a wedyn yn aberthu eu hunain i dalu pensiwn y rhai mwy cymhedrol! Bargen i'r rhan fwya ohonom

Ond o ddifri dylai dadansodddiad manwl gynnwys ardrawiad diod ar ddamweiniau, teuluoedd, camdrin plant a chymar a bellu. Rwy'n byw er 20 mlynedd ym Madrid ac erioed wedi gweld dynion yn ffistio eu gilydd. Y rheswm pennaf ydi'r ffaith nad ydi'r Sbaenwyr yn yfed er mwyn meddwi. Mae yna dystiolaeth fod yr ymddygiad gwâr yn newid ond erys y dre'n ddiogel iawn

Cai Larsen said...

Wel, dwi ddim yn meddwl bod amheuaeth bod ysmygu ac yfed trwm yn ddrwg iawn i dy iechyd - ond mae'r dystiolaeth am yfed cymhedrol yn llawer mwy cymysg.

Ti'n gywir bod llawer o'r anhrefn mae yfed yn ei achosi yn ddiwylliannol.

William dolben said...

Diwedd y gan yw'r geiniog. Petai'r llywodraeth yn hysbysebu faint o bensiwn mae ysmygwyr a llymeitwyr yn ei roi i'r rhai "cymhedrol" trwy farw ynghynt. Buasai hynny'n gneud mwy i leihau'r defnydd o'r cyffuriau hyn na phob ymgyrch "byw'n heini". Y cocyn hitio nesaf ydi gorfwyta wrth gwrs a mae'n bosibl y bydd clefyd y siwgr yn lladd mmy na baco cyn bo hir

Fel un sy o blaid yr ewro buaswn i'n gwneud yr un fath: i'w hyrwyddo sef cyhoeddi y miloedd o bunnau mae trigolion Prydain Fawr wedi talu i'r banciau gan fod llog morgeisi wedi bod yn uwch nag eiddo'r Eurozone er blynyddoedd. Waeth i ni heb werthu'r ochr bositif bob amser.