Wednesday, August 20, 2014

Pol diweddaraf Ashcroft - goblygiadau posibl i Gymru

Rydan ni eisoes wedi son am y polau diddorol sy'n cael eu cynnal gan Michael Ashcroft lle mae'n edrych ar fathau arbennig o etholaethau yn hytrach nag ar pob etholaeth.  Ei ymarferiad diweddaraf oedd edrych ar 8 etholaeth oedd a mwyafrif o llai na 3% i'r Toriaid tros Lafur - ond nid y rhai hynod o ymylol.  Roedd eisoes wedi edrych ar y rheiny.  Roedd y casgliadau am yr ail reng  o dargedau Llafur yn waeth i'r Toriaid nag oedd y rhai rheng gyntaf - gogwydd o 6.5% oddi wrth y Toriaid at Lafur - gogwydd o 4.5% oedd y gogwydd ar gyfer y rhai rheng gyntaf.

Ni edrychwyd ar unrhyw etholaeth yng Nghymru - ond o gymryd bod gogwydd tebyg yn digwydd ym mhob etholaeth ymylol Tori / Llafur yng Nghymru (nid y rhai >3% yn unig) byddai'r effaith yn drawiadol - byddai'r Toriaid yn colli Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro, Aberconwy a Preseli / Penfro i Lafur.

Dydan ni ddim yn gwybod i sicrwydd os ydi'r patrwm yn dilyn yng Nghymru - mae yna beth tystiolaeth bod Llafur yn tan berfformio yng Nghymru.  Ond roedd pol seddi ymylol rheng gyntaf Ashcroft  yn awgrymu nad oedd gwahaniaeth mawr rhwng yr un sedd Gymreig  - Gogledd Caerdydd - a gafodd ei pholio a'r rhai Seisnig - 3.5% i 4.5%.

Mae yna nosweithiau di gwsg yn aros y rhan fwyaf o aelodau seneddol Toriaidd yng Nghymru mae gen i ofn. 

3 comments:

Anonymous said...

Biti garw, ynte

Anonymous said...

Beth mae polau Ashcroft yn ei ddweud am seddi Plaid Cymru ta?

Cai Larsen said...

Dim byd - dydi Ashcroft ddim yn polio seddi Plaid Cymru.