Mae'r blogiad yma gan Vaughan Roderick yn ddiddorol i'r graddau ei fod yn cyfeirio at ddigwyddiadanarferol sef cyfaddefiad gan wleidydd o ddweud celwydd noeth i bwrpas ennill etholiad. Cyfeirio mae o at y cyfaddefiad isod gan Russell Deacon am sut aeth y Lib Dems ati i ennill etholiad Brycheiniog a Maesyfed yn 1997.
"As part of the strategy of retaking the 'lost seats' the party was able to undertake a constituency wide opinion poll of Brecon and Radnor. This told the party two vital things. First, in a straight fight in the seat between all the candidates the Labour party would win, but if the electors believed that it was a two horse race between the Liberal Democrats and the Conservatives then the Liberal Democrats would win the seat. The party's message now became 'Labour cannot win here but the Tories can'. The message on every leaflet proclaimed 'only Richard Livsey can defeat the Tories'."
Rwan mae celwydd etholiadol yn eithaf cyffredin - mae'n hawdd dod ar draws esiamplau. Er enghraifft roedd Llafur yn dweud wrth bobl yn Etholiad Cyffredinol 2010 mewn nifer o etholaethau yng Nghymru (gan gynnwys Arfon) y byddai buddugoliaeth i'r Toriaid yn arwain at golli presgripsiwns a theithiau bws am ddim - materion datganoledig wrth gwrs. Mae'r Toriaid yn San Steffan yn defnyddio'r 'dechneg Gwilym Owen' i ymosod ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru - rhestru pob dim negyddol tra'n anwybyddu pob dim cadarnhaol. Ac wedyn dyna i ni refferendwm yr Alban. Ond mae yna ychydig o wriggle room efo'r rhan fwyaf o gelwydd etholiadol - gallai'r Blaid Lafur yn Arfon ddadlau y byddai toriadau i gyllideb y Cynulliad arwain at y toriadau maent yn eu harenwi, ac mae'r honiadau Toriaidd wedi eu seilio ar ffeithiau - ond rhai hynod ddethol wrth gwrs.
Ond mae'r celwydd Lib Dem uchod yn fwy uniongyrchol a di gywilydd na'r un y gwn i amdano. Yn wir mae'n ymylu ar dorri cyfraith etholiadol. Dydi hi ddim yn gyfreithlon i ddweud celwydd i bwrpas ei gwneud yn llai tebygol y caiff rhywun ei ethol - hyd yn oed os nad oes elfen o enllib ynghlwm a'r celwydd. Er enghraifft dydi galw rhywun yn hoyw ddim yn enllib, ond gallai gwneud hynny effeithio ar obeithion ymgeisydd o gael ei ethol mewn rhai mathau o gymunedau. Gallai llys ddyfarnu bod cyfraith etholiadol wedi ei thorri mewn sefyllfa o'r fath. Dydi dweud bod y person sy'n debygol o ennill yn siwr o golli - er gwaethaf bod a thystiolaeth gref i'r gwrthwyneb ddim ymhell iawn o hynny.
Dwi'n cytuno efo awgrym Vaughan bod y pleidiau eraill yn drwg licio'r Lib Dems fwy na neb arall - ond mae yna fwy na siniciaeth etholiadol y blaid honno i'r stori - er bod hynny'n ffactor. Mae'r ffaith bod y blaid yn weddol ddi ideoleg yn cyfranu at hynny hefyd. Mi'r ydan ni'n gwybod yn reddfol bron pam bod Y Blaid, Llafur, Y Toriaid ac yn wir UKIP mewn bodolaeth. Dydi pethau ddim mor glir efo'r Lib Dems - ac oherwydd hynny gallant addasu eu neges o etholaeth i etholaeth, ac yn wir gallant gynhyrchu neges sydd yn ddim amgen mai dim ond y nhw all guro rhyw blaid neu'i gilydd (Plaid Cymru yng Ngheredigion, Llafur yng Nghanol Caerdydd, Y Toriaid ym Mrycheiniog a Maesyfed). Mae ganddyn nhw fwy o hyblygrwydd na neb arall oherwydd ei diffyg ideoleg. Mi fyddai'r pleidiau eraill yn lleol yn hoffi mwy o hyblygrwydd, ond dydi eu balast syniadaethol ddim yn caniatau iddynt gael cymaint o hyblygrwydd ag y byddant yn ei hoffi.
Felly mae yna elfen o eiddigedd tuag at y Lib Dems wedi ei gymysgu a drwg deimlad tuag at eu diffyg ideoleg gwaelodol. Mae aelodau pleidiau - a gweithwyr etholiadol -yn tueddu i fod yn bobl o argyhoeddiad cryf. Mae gweld pobl o blaid arall yn ennill mantais etholiadol oherwydd diffyg argyhoeddiad gwaelodol yn tueddu i gythruddo ynddo'i hun. Mae'r siniciaeth a'r celwydd yn gwneud pethau yn waeth. Y broses etholiadol ei hun ydi ideoleg y Lib Dems - does yna ddim byd arall.
5 comments:
Ffactor arall sy'n gwneud y Lib Dems yn amhoblogaidd ydi ymgyrchu dan din a brwnt, sydd yn nodwedd amlwg yn ymgyrchoedd y blaid. Yr eironi yd bod y Lib Dems yn cael eu gweld fel pobl ddigon 'neis' sy'n hollol groes i'w technegau etholiadol.
Hyblygrwydd a diffyg ideoleg? Swni'n dweud fod PC yn fwy, neu o leiaf yr un mor euog a'r Dem Rhydd am hyn.
Ynni Niwclear ym Môn?
Addysg yng Ngwynedd?
Diffyg unrhyw bolisi neu ideoleg economaidd credadwy?
Ymhle mae syniadaeth ac ideoleg gyson PC??
Sori dwi ddim yn deall beth ydi'r cyfeiriad at bolsi addysg Gwynedd - son am yr iaith wyt ti neu rywbeth arall?
Mae polisiau economaidd y Blaid yn wahanol i rai'r pleidiau unoliaethol, ond dydi hynny ddim yn gyfystyr a dweud eu bod mhw'n anghyson,
Mae polisi niwclear y Blaid yn glir - ond nid pawb sy'n cytino - yn arbennig yn y Gogledd Orllewin - fel Llafur a'r Toriaid ar HS2 a datblygu Heathrow.
Roeddwn arfer meddwl taw fence sitters usless oedd y Libs - ers hynny ma nhw wedi dirywio
Mae yna gelwyddau eraill llawr gwlad hefyd. Megis yn 1970 pan roedd Llafur yn dweud fod Gwynfor yn dioddef o Ganser ac felly nad poedd pwynt pleidleisio drosto. Neu'r DemRhydd yn isetholiad Ceredigion 2001 yn dweud fod Simon Thomas yn lysieiwr hoyw (oherwydd ei fod un gwisgo clustdlws!), neu dweud fod Mark Williams yn ffermwr yn ne Ceredigion i ogleddwyr y Sir ac yn ffermio yng Ngogledd Ceredigion i ddehewyr y sir!
Post a Comment