Tuesday, August 12, 2014

Mae hi'n brysur iawn yn swyddfa Paul Flynn

Ydi wir - mae'r sawl sy'n ddigon ffodus i gael llafurio yn ei winllan wrthi'n cyfri pa aelodau seneddol Cymreig sy'n trydaru amlaf.  Mae Paul yn ymfalchio i'w dim ddarganfod bod nifer dda o aelodau Llafur yn agos at frig ei dabl o bobl sy'n cymryd rhan yn y weithred bwysig yma.

Rwan 'dwi'n drydarwr gweddol frwd - ond mae'n rhaid i mi ofyn pam bod Paul yn ystyried bod trydaru rownd y ril yn adlewyrchu'n dda ar Aelod Seneddol?  Dull bach eithaf syml o hunan hyrwyddo ydi trydaru yn y pendraw.  Mi fyddai rhywun wedi meddwl y byddai cynnal cymorthfeydd, ateb llythyrau etholwyr neu baratoi cwestiynau seneddol yn well defnydd o amser AS na hunan hyrwyddo'n barhaus.

Ac mae hyn yn ein harwain at fater arall - mae'n rhaid bod gan weithwyr yn swyddfa Paul Flynn - sy'n cael eu cyflogi yn bennaf gan y trethdalwr - rhywbeth gwell i'w wneud na chymryd rhan mewn ymarferiad  i bwrpas rhoi hwb bach i ego eu bos.  Byddai rhywun yn meddwl bod yna ddigon o waith mynd i'r afael a phroblemau ei etholwyr yng Ngorllewin Casnewydd.

Wir Dduw mae eisiau amynedd weithiau.

No comments: