Mi'r ydan ni ar groesffordd Ballyseedy yn nhywyllwch canol nos Swydd Kerry ym Mawrth 1923 - mae'r Rhyfel Cartref Gwyddelig yn ei anterth. Mae yna naw o ddynion wedi eu clymu yn sownd yn ei gilydd, ac maen nhw'n ffarwelio'n frysiog efo'i gilydd. Eiliadau wedyn daw ffrwydriad anferth sy'n lladd wyth o'r dynion gyda'r rhan fwyaf yn cael eu chwythu'n ddarnau. Roedd y brain yn dal i fwydo ar weddillion dynol ar frigau'r coed cyfagos am wythnosau wedyn. Yn anhygoel mae un o'r dynion - Stephen Fuller - yn cael ei daflu yn glir - a fwy neu lai'n ddi anaf.
Aethwyd a'r wyth corff adref mewn naw arch. Doedd y sawl oedd yn gyfrifol am y ffrwydriad heb sylwi bod Stephen Fuller wedi cael eu daflu i'r tywyllwch. Roeddynt wedi eu clymu yn sownd i landmine Aelodau o'r IRA oedd yn ymladd yn erbyn llywodraeth y wladwriaeth newydd a laddwyd - i ddial am ddynion oedd wedi ei colli gan yr ochr honno yn gynharach. Roedd y Rhyfel Cartref -a'r creithiau a adawyd yn ei sgil - yn chwerw ar hyd a lled Iwerddon - ond roedd yn fwy chwerw yn Kerry nag yn unman arall.
Roeddwn yn meddwl am hynny yn dilyn etholiadau lleol Iwerddon yn ddiweddar - clymblaid Fine Gael / Fianna Fail sy'n rhedeg y cyngor yno bellach - am y tro cyntaf erioed. Erbyn heddiw mae'r ddwy blaid yn debyg iawn o ran gwleidyddiaeth - Centre Right fyddai'r term yn y Saesneg mae'n debyg. Ffurfiodd y naill blaid o'r ochr a enilliodd y Rhyfel Cartref (FG), a datblygodd y llall o'r ochr a gollodd (FF). Yn eironig ddigon daeth yr ochr a gollodd y rhyfel i ddominyddu'r heddwch - gyda Fianna Fail yn dod i fod yn blaid fwyaf Iwerddon am ddegawdau lawer.
Ffurfiodd gwleidyddiaeth modern Gweriniaeth Iwerddon yn y blynyddoedd wedi'r Rhyfel Cartref o gwmpas yr hollt chwerw a agorwyd mewn cymdeithas Gwyddelig gan y Rhyfel Cartref - ac yna rhewodd. Ciliodd y Rhyfel Cartref yn y cof ddegawd wrth ddegawd - ond arhosodd y wleidyddiaeth Rhyfel Cartref. Daeth ambell i blaid ac yna diflannu, roedd y Blaid Lafur yno o'r dechrau bron - ond rhyw hanner plaid oedd hi mewn gwirionedd - yn cael eu hunain ddigon cryf i gyngrheirio efo FG i gadw FF allan o rym o bryd i'w gilydd.
Roedd y gyfundrefn wleidyddol - gwleidyddiaeth y Rhyfel Cartref - yn edrych yn ddi symud - yn anorchfygol. Ond yna - daeth yr argyfwng ariannol mawr ym mlynyddoedd diwethaf y ddegawd diwethaf - a meiriolodd y gyfundrefn wleidyddol tros nos. Collodd FF llawer o'i chefnogaeth gwledig i FG a'i chefnogaeth trefol i Lafur. Symudodd Sinn Fein yn ei blaen rhywfaint - plaid sy'n cyn ddyddio'r lleill ond sydd a'i gwreiddiau diweddar yn ymwthio o'r ffin a rhyfel diweddarach o lawer - ac enilliodd gwahanol grwpiau annibynnol gefnogaeth sylweddol iawn hefyd. Roedd Etholiad Cyffredinol 2011 yn drychineb i FF.
Ac ers hynny mae momentwm y newid wedi cynyddu a newid cyfeiriad ar yr un pryd os rhywbeth - gyda FG a Llafur yn colli cefnogaeth - yn arbennig felly Llafur - a'r Annibyns a Sinn Fein yn ennill cefnogaeth. Yn wir yn etholiadau Ewrop eleni cafodd SF lawer mwy o bleidleisiau ar draws yr ynys na neb arall - er mai hi ydi'r unig blaid fawr (bellach) sy'n sefyll ar ddwy ochr y ffin wrth gwrs.
Mae gan Richard Wyn Jones erthygl ddiddorol iawn dy'n ymwneud a datgloi gwleidyddol arall yn y rhifyn cyfredol o Barn. Son mae o am sefyllfa wahanol - buddugoliaeth UKIP yn etholiadau Ewrop. Fel y dywedais mae'r ddwy sefyllfa yn wahanol - ond mae yna bethau sy'n debyg. Yn Iwerddon a Phrydain fel ei gilydd mae'r hen gyfundrefnau wedi dod o dan straen allanol - gan y chwalfa economaidd yn Iwerddon a chan gyfuniad o'r dirwasgiad economaidd a newid yn natur cymdeithas llawer o Loegr drefol yn sgil mewnfudo ym Mhrydain. Mae'r gwahaniaethau arwyddocaol rhwng prif bleidiau'r cyfundrefnau wedi diflannu hefyd yn y ddwy wladwriaeth - a hynny yn sgil y ffaith bod y rhesymau hanesyddol tros ffurfio'r pleidiau gwleidyddol yn cilio i'r gorffennol.
Ymddengys bod y cyfuniad o straen arwyddocaol ar y gyfundrefn yn ogystal a'r ffaith bod lle gwleidyddol yn cael ei greu gan gywasgiad y pleidiau traddodiadol tuag at ei gilydd yn ddigon i amharu - ac efallai difa - cyfundrefnau sydd wedi sefyll yn gadarn am y rhan fwyaf o'r ganrif ddiwethaf.
Mae yna wers yma i ni yng Nghymru wrth gwrs.
No comments:
Post a Comment