Thursday, August 14, 2014

Teulu mwyaf di drefn Caerdydd

Does gennym ni ddim yr union air yn y Gymraeg am disfunctional, ond dyna'r ansoddair priodol i ddisgrifio'r teulu o gynghorwyr Llafur sy'n gyfrifol am redeg ein prifddinas.  



Ymddiswyddodd Siobhan Corria, un o gynghorwyr Llafur yng Ngogledd Llandaf o"r cyngor ddoe.  Ers fis Medi y llynedd mae Cerys Furlong, Luke Holland a Phil Hawkins wedi gwneud yr un peth. Mae Keith Jones hefyd wedi ei wahardd o'r grwp ers mis Medi diwethaf a gadawodd Gretta Marshall  y grwp am gyfnod - gan ei ddisgrifio fel 'vicious' a 'divided' cyn sleifio'n ol yn ddiweddarach.  Hyn oll ers 2012. 

Ychwaneger at hynny bod rhyfel cartref bach wedi digwydd yn ddiweddar a arweiniodd at newid arweinyddiaeth a sacio rhai o'r aelodau cabinet ac mae'n amlwg bod yna grochan yn berwi'n eithaf di reolaeth yn Neuadd y Ddinas ar hyn o bryd. 

2 comments:

Anonymous said...

... ag eto, mae Llafur Caerdydd (o'r diwedd, wedi blynyddoedd o wastraffu amser mewn pwer ac o greu anhawsterau a thorri addewidion pan fel gwrth-blaid) wedi symud ar addysg Gymraeg.

Fel rhywun o'r ddinas, ond sydd ddim yn byw yno bellach, dwi'm yn siwr o'r manylion. Ond efallai fod y Llafur newydd 'cas' yma wedi cael gwared ar lot o bobl oedd yn wrthwynebus i addysg Gymraeg? Holi ydw i, nid dweud.

Huwcyn

O.N. Ystym Taf yw Llandaf North yn Gymraeg ;-)

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn dweud bod yr un garfan benodol yn gas - jyst bod yna lawer o bobl a charfanau sydd methu cyd dynnu oddi mewn i'r grwp.

Dwi ddim yn meddwl bod amheuaeth am gefnogaeth Phil Bale i'r Gymraeg - ond mater arall ydi hynny.