Monday, October 14, 2013

Prif broblem y Cymoedd

Mae dyn yn teimlo weithiau bod pob newyddion sy'n dod o Gymoedd y De yn newyddion drwg.  Rhondda Cynon Taf yn cynllunio gwerth £56m o doriadau yn eu gwasanaethau anstatudol heddiw.  Rydym eisoes wedi edrych ar benderfyniad Persimon i beidio a chodi tai i'r gogledd o Bontypridd oherwydd nad ydi'r trigolion lleol yn gallu talu digon am dai i ganiatau iddynt wneud elw ohonynt.  Mae hanes rhywbeth neu'i gilydd yn cau yn y Cymoedd yn boenus o gyffredin - Burberry, Remploy, General Dynamica, Gwaith Glo Unity ac Aberpergwm, ac ati.



Mae dirywiad y Cymoedd yn cychwyn ymhell yn ol wrth gwrs - er enghraifft roedd penllanw'r Rhondda o ran poblogaeth gryn ganrif yn ol.  Mae poblogaeth y cwm bellach llai na hanner yr hyn oedd yn 1921.  Ond nid diflaniad raison d'etre'r Cymoedd - y diwydiannau glo a dur ydi prif broblem y Cymoedd bellach.  Methiant awdurdodau lleol a chenedlaethol i gynllunio dyfodol amgen ydi'r broblem - diffyg gweledigaeth, diffyg uchelgais, diffyg dychymyg.

Yn naturiol ddigon beio'r Toriaid yn Llundain am newyddion heddiw mae Anthony Christopher - arweinydd RCT.  Dyma ydi hyd a lled dadansoddiad Llafur Cymru o broblemau'r Cymoedd - y Toriaid.  A hynny ydi prif  broblem y Cymoedd - mae'r blaid sy'n eu rheoli ar lefel genedlaethol a lleol yn gwbl ddi weledigaeth ynglyn a sut i'w hamddiffyn a'u hadfer.  Mae Llafur yn y Rhondda yn cwyno am dlodi'r ardal tra bod Llafur yng Nghaerdydd yn cynllunio i ddatblygu pob darn gwyrdd o wair gwyrdd y gall ddod o hyd iddo - rhywbeth fyddai'n sugno'r Rhondda o'r unig adnoddau sy'n weddill iddi - ei hadnoddau dynol.

Mae hanes y Blaid Lafur Gymreig a hanes datblygiad y Cymoedd yn y ganrif ddiwethaf wedi eu rhyng blethu.  Yn ddi amau mae cof cymunedol am gysylltiadau clos y Blaid Lafur efo'r Mudiad Llafur ehangach a gwaith y mudiad hwnnw i amddiffyn pobl yng nghynni'r 20au a'r 30au yn un o'r rhesymau tros ei phoblogrwydd parhaus yn yr ardal.  Ond mae Llafur bellach yn faen melin o gwmpas gwddf y Cymoedd.  Os ydi'r dyfodol i fod yn well na'r dirywiad a gafwyd am y rhan fwyaf o'r ganrif ddiwethaf, mae'n rhaid i'r ardaloedd yma roi cic i'w traddodiad o gefnogi plaid sydd wedi methu yn y gorffennol a sydd yn gwbl sicr o fethu yn y dyfodol. 

2 comments:

Anonymous said...

Geiriau Dafydd Wyn Jones ar wefan Click on Wales yn taro'r hoelen ar ei phen i mi:

"How did it come about that the nicest people one could possibly meet anywhere on earth, the electorate of south-east Wales, has been able to elect with regularity, over eighty years and three generations, the most swinish politicians ever to have disgraced the name of democracy? Readers may, like myself, wish to exclude two or three individuals, four perhaps, from the ghastly gallery.  But how do we explain the general phenomenon?  What is the catalyst? That is a big question for the Welsh historian."

Anonymous said...

Dafydd Glyn Jones o'n i'n fedfwl wrth gwrs!