Sunday, October 20, 2013

Ymadawiad Elfyn Llwyd ac ymgyrch San Steffan 2015

Bydd rhywbeth digon rhyfedd am Etholiad Cyffredinol 2015 yn absenoldeb Elfyn Llwyd.  Elfyn sydd wedi ysgwyddo'r rhan fwyaf - er nad y cwbl - o'r  gyfrifoldeb am ymddangos ar y teledu a'r radio yn ystod ymgyrchoedd etholiadol ers 2001 ac mae rhywsut wedi datblygu i fod yn wyneb cyhoeddus y Blaid mewn etholiadau cyffredinol ers hynny.  Mae hefyd yn adlewyrchiad o'r ymdeimlad o un genhedlaeth yn y Blaid yn trosglwyddo'r awennau i'r un nesaf - mae Ieuan, Rhodri Glyn a Ffred eisoes wedi datgan na fyddant yn sefyll eto neu wedi sefyll i lawr yn barod.



Dydi ei ymadawiad ddim yn hollol anisgwyl wrth gwrs - mae yna sibrydion wedi bod ar led ers tro.  Ond mae'n creu problem ymarferol i'r Blaid.  Mae Meirion Dwyfor yn sedd ddiogel i'r Blaid - mae pethau'n fwy cystadleuol yn Arfon a Dwyrain Caerfyrddin, ac felly  mae'n bwysig bod Hywel a Jonathan yn cael y cyfle i dreulio cymaint a phosibl o amser yn eu hetholaethau yn ystod yr ymgyrchoedd.

Felly bydd problem - neu her efallai - yn 2015.  Mae'n anhebygol y bydd pwy bynnag fydd yn sefyll ar ran y Blaid ym Meirion Dwyfor mewn sefyllfa i wneud joban Elfyn ar y cyfryngau - fydd ganddo ef neu hi ddim profiad blaenorol o etholiad San Steffan.  Efallai y bydd rhaid  rhannu'r faich rhwng Jonathan a Hywel, neu ddefnyddio nifer o ymgeiswyr seneddol eraill yn ogystal a nhw.  Posibilrwydd arall fyddai gwneud mwy o ddefnydd o arweinyddiaeth y Blaid yn y Cynulliad na sy'n arferol mewn etholiadau San Steffan.

Beth bynnag sy'n digwydd mae datrys y broblem yma, llunio naratif sydd wedi ei theilwrio yn benodol i'r Etholiad Cyffredinol a sicrhau bod pawb sy'n cynrychioli'r Blaid yn y cyfryngau yn cadw at y naratif honno yn allweddol i lwyddiant y Blaid yn 2015.  

6 comments:

Anonymous said...

Oes sôn beth yw'r dyddiadau o ran dewis ymgeisydd?

Byddwn i wrth fy modd yn gweld Mabon ap Gwynfor yn sefyll. Mae'n areithiwr penigamp, yn feddyliwr craff ac yn weithiwr caled.

Iwan Rhys

Anonymous said...

Sain meddwl fydd Mabon yn y ras. Mwy tebygol o fod yn berson efo cefnogaeth leol ac wedi bod yn weithgar yno

Iwan said...

Oes gan Mabon ap Gwynfor gysylltiad â Meirion-Dwyfor? Os ddim, hoffwn i ddim ei weld fel ymgeisydd. Ma'r blaid yn hoff o ferniadu pleidiau eraill o barashiwtio ymgeiswyr i seddi diogel. Dwi'm yn siwr beth yw ei waith, ond dwi wedi sylwi arno yn gwneud sawl sylwad/gosod linciau ar dudalen facebook ymgyrch achub ysbyty coffa Ffestiniog - ceisio cael ei enw 'allan yna' ym Meirion-Dwyfor ella?

Anonymous said...

Mae bellach yn byw ger Corwen ac yn gweithio yn Rhuthun.

Guto said...

Mae Corwen ychydig filltiroedd y tu allan i'r etholaeth.

Bu'n byw ochrau Dolgellau am flynyddoedd ac yn weithgar gyda Tŷ Siamas ac ati.

Hyd y gwela i, fo ydi'r ymgeisydd â'r mwyaf i'w gynnig. Mae'n egwyddorol, yn feddyliwr, ac yn ymgyrchydd da.

Pwy ydi'r dewisiadau eraill?

Anonymous said...

Dwi'n deall bod Mabon yn gweithio i Llyr Huws Gruffydd AC, sydd yn Aelod Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru. Felly mae gwaith Mabon o ddydd i ddydd yn cwmpasu Gogledd Cymru yn gyfan. Mae'n gwneud synnwyr felly ei fod wedi bod yn weithgar mewn gwahanol ymgyrchoedd lleol fel achub yr ysbyty yn Ffestiniog.

(Rhag ofn i rywun ddrysu, nid fi yw'r 'Iwan' 10:16pm uchod)

Iwan Rhys