Thursday, October 24, 2013

Cyfri trydar Guto Bebb

Mae'n rhyfedd fel mae newid plaid yn gallu newid dyn.  Un o'r pethau dwi'n ei gofio am ddyddiau Aelod Seneddol Toriaidd Aberconwy fel Pleidiwr oedd ei gadernid tros y Gymraeg.  Os oedd rhyw neges neu'i gilydd nad oedd yn dangos parch digonol at y Gymraeg yn cyrraedd Arfon o gyfeiriad y Blaid yn ganolog arferai Guto fynegi ei anfodlonrwydd yn gwbl ddi flewyn ar dafod - a chware teg iddo am hynny.

Rydym eisoes wedi nodi bod blog Ceidwadwyr Aberconwy yn trin y Gymraeg fel iaith eilradd., ond mae'n ymddangos nad ydi pethau fawr gwell ar gyfri trydar personol Guto.  Tra bod rhywfaint o drydar trwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r mwyafrif llethol yn uniaith Saesneg.  Gallwch ddilyn Guto (yn y Saesneg yn bennaf) ar @GutoBebb.  Rwan dydi trydar ddim yn ymdrech fawr ac ni fyddai'n llafurus cynhyrchu cyfieithiad o pob neges.

Er fy mod yn awgrymu i bobl sydd eisiau trydar yn yr ddwy iaith i gyfansoddi negeseuon gwahanol yn y naill iaith a'r llall, 'dwi'n rhyw ddeall pam y byddai gwleidydd eisiaui'r hyn mae'n ei ystyried yn bwysig ymddangos yn y Saesneg.  Ond mae'n ymddangos bod darparu fersiwn Gymraeg o'r negeseuon pwysig hynny ar gyfer etholwyr Cymraeg eu hiaith yn ormod o drafferth yn amlach na pheidio i Aelod Seneddol Aberconwy.

3 comments:

Guto Bebb said...

Un gwirion wyt ti Cai.

Dwi ddim yn un am drydar ond ddoe fe fu i mi drydar llawer iawn am gamwerthu cynnyrch ariannol o'r enw Interest Rate Swap Derivatives. Yr oedd bron y cyfan o'r rhain yn yr iaith fain.

Fodd bynnag, dros y 24 awr diwethaf dyma wybodaeth am drydar rhai Aelodau Cynulliad. Awgrym falle fod blogiad Cai unwaith eto'n arwydd o ddiddordeb trist Cai mewn ymdrechu i fy mhardduo. Noder fod y wybodaeth yn adlewyrchu y 24 awr cyn 1.30 dydd Gwener;

Jonathan Edwards AS - 17 (s)aesneg a 3(c)ymraeg

Llyr Huws-Gruffydd - 8s a 1c

Hywel Williams AS - 0s a 4c

Rhun ap Iorweth - 3s a 1c

Leanne Wood - 4s a 1c

Jill Evans - 3s a 2c

Guto Bebb 7s a 2c

Felly dy bwynt ydi?

Unknown said...

Pardduo! Haha! Guto ydych chi'n cefnogi'r bedroom tax? Ydych chi'n falch i fod yn rhan o lywodraeth a gyflwynwyd y bedroom tax sydd yn chwalu bywydau pobl ar draws Cymru, rydych yn pardduo'ch enw'ch hun trwy fod yn aelod o blaid sy'n chwalu bywydau pobl!

Cai Larsen said...

Wedi edrych yn ol tros dy holl hanes trydar oeddwn i Guto - nid y 24 awr diwethaf braidd yn anwyddonol a dethol fyddai dewis sampl felly.

Gyda llaw, does yna neb yn dy bardduo - mae gen ti hawl i drydar ym mha bynnag iaith ti eisiau - dydi trydar yn y Saesneg ddim yn anghyfreithlon na 'ballu. Ond mae gan y sawl ti'n gofyn iddyn nhw bleidleisio i ti hawl i wybod hefyd.