Wednesday, October 02, 2013

Ychydig mwy o ystadegau cyfrifiad Caerdydd / Gwynedd

Byddwch yn cofio i ni gymharu Cymry Cymraeg Gwynedd gyda rhai Caerdydd tros y penwythnos.  Nid beirniadu neb oeddem wrth gwrs, ond edrych ar pa mor wir ydi'r awgrym sydd ynghlwm wrth ddadl Cris Dafis y dylid cadw S4C yng Nghaerdydd oherwydd bod y ddinas honno yn cynrychioli'r hyn ydi'r Gymru Gymraeg 'newydd' yn well na'r Fro Gymraeg.  Awgrym pellach sydd ymhlyg yn y ddadl yma ydi bod yna rhywbeth yn fwy cosmopolitaidd ac eclectig am y gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd.  Roedd y data a edrychwyd arno yn awgrymu mai'r gwrthwyneb sy'n wir mewn gwirionedd a bod y gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd yn fwy unffurf o lawer na'r un yng Ngwynedd.  Dwi wedi edrych ar fwy o ddata - ac mae hwnnw'n ddadlennol iawn o safbwynt natur y ddwy gymuned.

Y peth cyntaf i'w gydnabod ydi'r ffaith gweddol amlwg bod cysylltiad agos rhwng y gallu i siarad y Gymraeg ag ethnigrwydd a hunaniaeth Gymreig yng Ngwynedd.  Yn y sir honno mae 89% o'r sawl sydd yn siarad y Gymraeg wedi eu geni yng Nghymru.  Ond mae'r ganran gyfatebol am Gaerdydd yn debyg iawn - 88%.  Yng Ngwynedd mae 91% o'r sawl sy'n disgrifio eu hunain fel 'Cymry yn unig' yn siarad yr iaith - 16% sydd yng Nghaerdydd.

Ond pan rydym yn edrych ar gefndiroedd a hunaniaethau anghymreig mae'n amlwg bod llawer mwy o bobl sy'n perthyn i'r categoriau hyn yn siarad y Gymraeg yng Ngwynedd na sydd yng Nghaedydd.  Er enghraifft 4% o drigolion Caerdydd sydd wedi eu geni y tu allan i Gymru sy'n siarad y Gymraeg - mae yna 20% yn gwneud hynny yng Nghwynedd.

Mae 6% o bobl Caerdydd sydd a hunaniaeth Brydeinig yn unig yn siarad y Gymraeg, 2% o'r sawl sydd a hunaniaeth Saesneg, 2% sydd a hunaniaeth Seisnig a Phrydeinig a 3% sydd a hunaniaeth arall.  Mae'r canrannau yng Ngwynedd yn llawer, llawer uwch - 32% o'r sawl sydd a hunaniaeth Brydeinig yn unig, 14% o'r sawl sydd a hunaniaeth Seisnig yn unig, 12% o'r sawl sydd a hunaniaeth Brydeinig a Seisnig a 9% sydd a hunaniaeth arall.

Neu i roi cnawd ar esgyrn y data, myth llwyr ydi'r syniad bod yna rhywbeth amrywiol ac eangfrydig am Gymreigrwydd ieithyddol Caerdydd tra bod Cymreigrwydd ieithyddol Gwynedd yn gul ac unffurf.  Stori'r data ydi bod cysylltiad closiach rhwng bod yn aelod o'r gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd a hunaniaeth Gymreig na sydd yng Ngwynedd.  Mae'r fytholeg yn troi realiti wyneb i waered.

*Data i gyd o cyfrifiad 2011.


2 comments:

BoiCymraeg said...

Mae yna rai yn y de-ddwyrain sy'n tueddu cymryd bod Cymru'r Fro Gymraeg i gyd yn bensiynwyr. Dwi'n gwybod achos o'n i'n arfer credu'r un peth yn hunan!

Cai Larsen said...

Mae pensiynwyr wedi eu gor gynrychioli ymysg Cymry Cymraeg yn y De Orllewin, ond eu tan gynrychioli yn y Gogledd Orllewin.