Saturday, October 26, 2013

Gwyliau'r Cynulliad

Diddorol nodi bod Andrew RT Davies o'r farn bod aelodau Cynulliad yn cael gormod o wyliau.  Mae'n barnu bod yr aelodau i ffwrdd o'r Bae am 20 wythnos - 140 diwrnod.

Mae hon yn un anodd braidd - mae aelodau sydd ag etholaethau efo cyfrifoldebau etholaethol y tu hwnt i Fae Caerdydd, ac mae'r un peth yn wir i raddau llai am rai sydd yn aelodau rhanbarthol.  Mae natur y swydd yn ei gwneud yn anodd barnu faint o waith mae aelodau yn ei wneud yn eu hetholaethau a rhanbarthau pan nad ydynt yn y Bae - yn ddi amau mae rhai yn brysur tra bod eraill yn fwy - ahem - hamddenol.  Efallai mai un ffordd o farnu ydi trwy gymharu efo deddfwrfa arall - a lle gwell na San Steffan?  Mae plaid Andrew RT yn rheoli fel rhan o glymblaid yn y fan honno wrth gwrs.

Mae Aelodau Seneddol yn treulio mwy o amser oddi wrth San Steffan na maent yn ei dreulio yno.  Yn 2012 roeddynt yn eistedd am 122 diwrnod - mae hyn yn cymharu a 240 diwrnod yn 1992.  Roedd gweddill y flwyddyn wedi eu threulio oddi wrth San Steffan - dydd Gwener yn yr etholaeth, penwythnosau, gwyliau, cynhadleddoedd gwleidyddol, busnes pwyllgorau dethol ac ati.  Mae ymdrechion wedi eu gwneud - gan Angela Eagle er enghraifft i dynnu sylw at y sefyllfa ryfedd yma - ond dydi'r llywodraeth ddim eisiau gwybod.

Hwyrach y dylai Andrew ofyn i rai o aelodau San Steffan ei blaid beth maen nhw'n feddwl o wyliau'r Cynulliad.

No comments: