Sunday, October 27, 2013

Gogledd Lloegr a'r Alban - Mur Hadrian

Yn ystod yr haf mi es i ati i gadw blog ffon tra ar fy ngwyliau ar y Cyfandir.  Nid blogiadau gwyliau oeddynt fel y cyfryw ond blogiadau gwyliau efo gogwydd gwleidyddol iddynt.  Doeddwn i ddim yn disgwyl fawr o ddiddordeb a bod yn onest ond roedd y ffigyrau darllen yn anisgwyl  o uchel.  Felly dyma drio'r un peth eto - Gogledd Lloegr a'r Alban ydi'r lleoliad y tro hwn.  Fel arfer mae blogio ffon braidd yn fler - mae'n fwy anodd rheoli maint delweddau ac ati.

Dwi yn Carlisle ar hyn o bryd.  Rhan o Fur Hadrian sydd yn y llun.  Er bod llawer yn meddwl bod y mur yn rhedeg ar hyd y ffin mae wedi ei lleoli yn llwyr oddi mewn i Loegr - 1km i'r de yn y gorllewin, a 110km yn y dwyrain.  Mae serch hynny yn gwahanu y rhannau o Ynys Prydain lle llwyddodd yr Ymerodraeth Rufeinig i sefydlu am gyfnodau maith oddi wrth yr ardaloedd lle'r oedd ei dylanwad llawer gwanach.

Mae'n rhyfedd fel mae hen fault lines gwleidyddol / diwylliannol yn ail ymddangos mewn hanes dro ar ol tro - weithiau ymhell, bell wedi iddynt ymddangos am y tro cyntaf.  Digwyddodd hyn yn yr hen Iwgoslafia yn y gorffennol cymharol agos pan ddaeth yr hen linellau lle holltodd yr Ymerodraeth Rufeinig yn ddau a lle roedd yr Ewrop Fwslemaidd a'r Ewrop Gristnogol i'r golwg - a hynny yn y ffordd mwyaf gwaedlyd yn yr achos hwnnw. 

Mae'n siwr bod yna elfen o hyn yma - roedd dylanwad cymharol gyfyng yr Ymerodraeth Rufeinig yn un o'r llawer o bethau a roddodd i'r Alban ei hunaniaeth - ac mae'r ffaith bod yr Alban efo'i hunaniaeth ymysg y rhesymau pam ei bod am fod yn y newyddion ym mhell y tu hwnt i'w ffiniau ei hun am y flwyddyn nesaf o leiaf.



No comments: