Monday, October 21, 2013

Gwereniaethwyr Texas wedi dod o hyd i ffordd o atal merched rhag pleidleisio

Mi fydd y sawl sy'n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth America yn ymwybodol o rhai o'r dulliau bach dyfeisgar a ddefnyddir gan y Blaid Weriniaethol yno i atal grwpiau sydd ddim yn debygol o bleidleisio trostynt rhag bwrw pleidlais.

Er enghraifft mewn rhai taleithiau dydi pobl sydd a record troseddol ddim yn cael rhoi eu henwau ar y gofrestr pleidleisio - hyd yn oed os ydi'r drosedd yn weddol fach ac wedi ei chyflawni yn y gorffennol pell.  Mae canran uwch o lawer o bobl croenddu neu o gefndir Hispanic efo record troseddol na sydd o bobl wyn.  Mae'r grwpiau hynny yn pleidleisio mewn niferoedd mawr i'r Democratiaid.  Dyfais bach arall ydi cyfyngu ar y gorsafoedd pleidleisio mewn ardaloedd lle mae pobl croenddu yn byw ac felly sicrhau bod pleidleiswyr yn gorfod ciwio am gyfnodau maith.  Un arall ydi mynnu bod dogfenau swyddogol megis trwydded yrru gan y pleidleisiwr - mae pobl dlawd yn llawer llai tebygol o feddu ar ddogfen felly.

Y targed diweddaraf ydi merched priod - neu yn Texas o leiaf.  Mae merched yn fwy tebygol o bleidleisio i'r Democratiaid.  Y syniad y tro hwn ydi mynnu bod y sawl sy'n cofrestru i bleidleisio efo ei henw cyfreithiol ar ei dogfennau swyddogol (tystysgrif geni ac ati).  Mae'r mwyafrif llethol o ferched priod wedi newid eu cyfenwau - felly mae eu henwau cyfreithiol a'r enwau sydd ar llawer o'u dogfennau swyddogol yn wahanol.


2 comments:

Dylan said...

Ia wir. Mae'n rhyfeddol pa mor greadigol mae nhw pan mae angen dyfeisio ffyrdd newydd a chyffrous o erydu hawliau sifil grwpiau sy'n annhebygol o'u cefnogi. Mae nhw'n cyflawni giamocs tebyg er mwyn rhwystro gallu merched i gael erthyliad hefyd.

Anonymous said...

Ond rwy'n digon hen i gofio fod y Blaid Democrataidd oedd yr un oedd yn atal pobl duon rhag bleidleisio yn Dixie