Monday, October 07, 2013

Deunydd enwebiaeth Ynys Mon _._ _

_ _ _ llythyr gan Vaughan Williams y tro hwn.


Annwyl gyfaill,                                                                                  Seithfed o Hydref.


Ysgrifennaf atoch ynglŷn ag enwebiad Plaid Cymru ar gyfer Etholiad San Steffan yn 2015.

Ar nos Fercher y 9fed o Hydref cynhelir ail gyfarfod dewis ymgeisydd yn Ysgol David Hughes - cofrestru am 18.30 tan 19.00 a’r cyfarfod ei hun o saith o’r gloch ymlaen.

Mwynheais y cyfarfod cyntaf yn fawr iawn a braf oedd gweld cymaint o wynebau cyfarwydd. Rwyf yn enedigol o Ynys Môn - cefais fy magu yng Nghaergybi. Yn ystod ymgyrch eithriadol o lwyddiannus Rhun ddangosais i fy ymroddiad i Fôn ac i’r Blaid trwy deithio bob penwythnos yn ystod tymor ysgol, ar nos Wener tan ddydd Sul i ymgyrchu’n ddi-baid. Gwnes i hyd yn oed oedi mynd ar wyliau haf i sicrhau roeddwn yn gallu ymgyrchu hyd ddiwedd yr ymgyrch. Roedd noson y cyfrif yn noson arbennig iawn ac roedd Môn fel unrhyw fam gwerth ei halen wedi dangos i’w phlant y ffordd ymlaen.

Mi fydd y Blaid Lafur yn bendant o ymgyrchu’n galed ac er iddynt gael crasfa gan bobl Môn eleni, does dim dwywaith y gall Albert ddibynnu ar bleidlais gref Caergybi.

Fel rhywun o Gaergybi sydd wedi gweithio yn y porthladd credaf fy mod i mewn sefyllfa ardderchog o wirioneddol herio Albert Owen yn ei gadarnle a chadarnle'r Blaid Lafur ym Môn. Yr hyn sy’n bwysig ydy curo’r Blaid Lafur yn y pendraw!

Taswn yn cael y fraint o gael fy newis baswn i’n gadael fy swydd llawn amser, cytundeb parhaol i ymgyrchu o’r cychwyn cyntaf ac i sicrhau ein bod yn curo’r Blaid Lafur.

Ers 2008 rwyf wedi gweithio fel athro Cymraeg yn Ysgol Penglais. Heb os nac oni bai rwyf wedi dysgu llawer yn y swydd ardderchog yma megis sgiliau gwrando a chyfathrebu.

Fel chi rydw i’n gwybod nad oes lle gwell i fyw, ond wrth reswm rydw i’n pryderu, fel yr ydych chi, am ddyfodol ein hynys a’i phobl. Credaf yn gryf bod rhaid i ni ddiogelu swyddi sydd yma ym Môn yn barod ac wedyn edrych ar ffyrdd o dyfu ein heconomi yma ar Fôn - mae’r ddau beth yn mynd llaw yn llaw. Yn anffodus rydw i’nenghraifft o berson ifanc sy’n caru’i filltir sgwâr ond sydd wedi gorfod gadael ei gynefin i sicrhau cyflogaeth i ffwrdd o Fôn. Mae llawer gormod o’n pobl ifanc yn gadael yr ynys a dydyn nhw fyth yn dod yn ôl, mae hyn yn cael effaith negyddol dros ben ar ddyfodol yr iaith Gymraeg. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn creu swyddi o safon. Hoffwn i gynrychioli pobl Môn yn y San Steffan - hoffwn i fod yn rhan o wella bywydau holl bobl sy’n byw yma.
Fel chi, rydw i’n caru Môn ac eisiau ei gweld yn llwyddo!
Dros Gymru!
John Vaughan Williams

1 comment:

Anonymous said...

Dod drosodd yn genuine