Sunday, October 27, 2013

Canolfan methdalu'r DU

Mae'n debyg ein bod ni yng Nghymru yn tueddu i feddwl bod pethau'n waeth arnom ni na neb arall o ran yr economi - ac mae hynny'n wir o ran rhai llinynau mesur - ond rydych yn fwy tebygol o weld arwydd fel hwn  yng Ngogledd Lloegr nag ydych yng Nghymru. 
Mae'r un peth yn wir am De Orllewin Lloegr.  Gogledd Lloegr a De Orllewin Lloegr ydi camolfannau methdalu'r DU.

Rhywbeth arall trawiadol ydi prisiau tai  - mae nhw'n llawer rhatach yng Ngharlisle nag yng Nghaernarfon.  

Mae polisiau economaidd San Steffan yn anghytbwys ac yn niweidiol i Gymru - ond maent yn niweidiol i ranbarthau Lloegr hefyd.  

1 comment:

Capten Al said...

' Yng Ngharlisle' ? . Dwi'n siwr mai Caerliwelydd y clywais i Guto Bebb yn galw'r lle 'rioed.
Un peth sy'n wahanol i Gymru, mae'n siwr, yw'r ffaith fod y ffin rhwng yr Alban a Lloegr yn ardal reit ddi-boblog. Mae Casnewydd a Chaerdydd yn gymharol agos i Bryste, a mae Sir y Fflint a'i phobl yn perthyn i Lerpwl ers sawl cenhedlaeth. Beth yw hunaniaeth trefi fel Berwick - tim peldroed Albanaidd, a thraddodiad cymysg ?
Dwi'n cofio chwarae golff ers talwm yng nghlwb Penrith ( Llywydd : W Whitelaw, ysw) flynyddoedd yn ol, a meddwl os oedd yna drefi cyffelyb i Groesoswallt yng Ngogledd Lloegr.