_ _ _ gan Ann Griffith y tro hwn:
Gwynfryn Llangaffo Ynys Môn LL606LY
5.10.13
Annwyl Aelod
Nos Fercher nesaf, Hydref 9fed, bydd Plaid
Cymru Ynys Môn yn cwblhau’r broses o ddewis
ymgeisydd seneddol ar gyfer
Etholiad San Steffan yn 2015.
Eisoes, cafwyd cyfarfod bywiog yn Amlwch yr wythnos
hon, gyda phedwar ymgeisydd â gwahanol sgiliau a chryfderau yn cyflwyno’u
hachos gerbron yr aelodau ddaeth ynghyd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
Ym mis Awst
cafodd Plaid Cymru fuddugoliaeth ysgubol yn yr isetholiad ar gyfer
Senedd Cymru. I raddau helaeth, roedd llwyddiant Rhun ap Iorwerth yn seiliedig
ar y momentwm a oedd wedi’i greu yn sgil yr ymgyrch etholiadau lleol ym mis
Mai, pan etholwyd 12 o aelodau Plaid Cymru ar y cyngor sir. Yn sgil yr holl
fwrlwm a welwyd gyda’r etholiadau hyn
mae aelodaeth Plaid Cymru ar Ynys Môn wedi cynyddu 10%. Rydym ni wedi gweld
ymadnewyddu gwirioneddol yn y Blaid ym Môn am y tro cyntaf ers blynyddoedd
lawer, ac mae’n dda iawn gen i fy mod i’n rhan o symud pethau ymlaen fel hyn.
Mae’n holl bwysig ein bod yn cynnal y
momentwm hwn gan fod yr ymgyrch ar gyfer Etholiad 2015 eisoes wedi cychwyn. Er
bod y Blaid Lafur wedi colli’n drwm iawn yn yr isetholiad, maent wedi dechrau
ar y gwaith o ail-adeiladu ar gyfer 2015 ac mae’n rhaid i ninnau ymateb i hynny
yn syth. Rydw i mewn sefyllfa i fod yn ymgeisydd amser llawn, brwd ac egnïol
o’r dechrau cyntaf.
Rwy’n barod i
gychwyn ar y gwaith hwn ar
f’union o nos Fercher ymlaen os caf fy newis gan yr aelodau. Rwy’n byw ar yr
ynys ers 1984 a bellach yn gynghorydd dros Ward Bro Aberffraw, sydd erbyn hyn
yn ymestyn dros dalp go helaeth o Orllewin Môn gan gynnwys pentrefi Niwbwrch, Aberffraw, Dwyran a Malltraeth.
Credaf y bydd y proffil sydd gen i’n barod yn
y ward ac fel aelod o wrthblaid Plaid Cymru ar
Gyngor Môn yn allweddol o ran cystadlu yn erbyn y Blaid Lafur yn
2015. Os mai fi fydd ymgeisydd Plaid
Cymru ar gyfer y sedd, bydd modd defnyddio’r proffil hwn dros 18 mis er mwyn ymestyn fy apêl i rannau eraill o’r ynys a
pherswadio mwy o bobl i bleidleisio dros Blaid Cymru. Mae’n rhaid cael rhywun
lleol sy’n gallu ysbrydoli pobl wrth fynd o ddrws i ddrws, rhywun gwahanol sy’n
medru ymestyn allan heibio i bleidlais graidd draddodiadol y Blaid er mwyn
sicrhau buddugoliaeth.
Yn dilyn ein holl lwyddiant diweddar, a’r
holl newidiadau sydd ar droed yng
ngwleidyddiaeth Cymru a gweddill Gwledydd Prydain erbyn hyn, y mae hon yn sedd
y gallwn ni ei hennill!
Edrychaf ymlaen at eich cyfarfod yn yr ail
hystings nos Fercher nesaf, Hydref 9fed yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy am
6.30.
Yr eiddoch yn gywir
Ann Griffith
No comments:
Post a Comment