Monday, October 07, 2013

Oscar yn y newyddion - eto fyth

Bydd darllenwyr cyson Blogmenai eisoes wedi dod ar draws anturiaethau lliwgar Mohammed Asghar ar sawl achlysur. Chwi gofiwch iddo adael Plaid Cymru pan wrthododd y blaid honn ganiatau iddo gyflogi ei ferch Natasha, ac ymuno efo'r Toriaid oherwydd nad oedd ganddyn nhw broblem efo'r math yna o beth.  



A wedyn mi aeth y Toriaid ati i'w roi yn ail ar restr De Ddwyrain heb drafferthu gofyn i'r aelodau lleol am eu barn.

Byddwch hefyd yn cofio iddo ddechrau gweithio i gael ei wraig, Firdaus wedi ei henwebu ar gyfer ymgeisyddiaeth Toriaidd ar Gyngor Casnewydd yn fuan wedi marwolaeth y Cynghorydd Les Knight - a gwneud hynny ymhell cyn i rigor mortis ddechrau cerdded corff Les druan.

Ac yna daeth yn amlwg ym mis Ionawr 2012 bod ei wraig yn gweithio iddo yn ogystal a'i ferch erbyn hynny. Eglurhad y Toriaid ar y pryd oedd mai penodiad dros dro oedd un y ferch.

Ac wedyn wrth gwrs dyna'r mater bach o hawlio treuliau (ynghyd ag wyth AC Toriaidd arall) am fynd i Aberystwyth i ddathlu penblwydd Nick Ramsey.

Ac wedyn daeth ag achos llys yn erbyn pump o'i gyd addolwyr oherwydd iddo gael rhybudd i ymddwyn yn briodol ym mosgs Jamia ac Al-Noor yng Nghasnewydd. 

A rwan - yn ol WalesOnline - mae'n ymddangos bod ei wraig, ei ferch, is gadeirydd y Toriaid yng Nghymru a chyn asiant David Davies oll yn gweithio iddo.

Rwan, mae yna nifer o bethau na ddylai fod yn syndod i neb yma.  Mae digwyleidd-dra a thrachwant 'Oscar' yn hen stori, ac mae diffyg tryloywder y Toriaid pan mae'n dod i ddewis ymgeiswyr a chyflogi pobl efo arian cyhoeddus yn hen straeon hefyd. 

Ond mae dau bwynt diddorol yn codi o'r stori newydd yn WalesOnline.  Y cyntaf ydi ymateb rhyfedd o du'r Toriaid -

Some of us take the view that it’s disgraceful that  Mr Asghar is employing his own family members in this way, although of course he is operating within the Assembly’s rules.

Mae'n dda deall bod o leiaf rhai Toriaid yn gweld problem efo defnyddio arian cyhoeddus i gyflogi aelodau teulu - ond mi fyddai'n braf petai'r Toriaid Cymreig yn mynegi barn swyddogol ar y sefyllfa.

Yr ail ydi ymateb Llywodraeth y Cynulliad -

 Mrs Asghar is currently employed on a temporary contract for a maximum of six months. If there is an intention that her appointment should become permanent, she will have to apply for the post in open competition. Her husband would have no say in the appointments process.

Cafwyd yr un eglurhad yn union y tro diwethaf i'r mater o gyflogaeth teulu Oscar ddod i sylw'r cyhoedd - bod un o'r penodiadau yn drefniant tros dro -  ac roedd hynny ym mis Ionawr 2012. 

No comments: