Wednesday, October 30, 2013

Inverness


Roeddem yn edrych ychydig wythnosau yn ol ar fethiant llywodraeth Cymru i adfywio'r Cymoedd - methiant sydd mor llwyr a chyfangwbl fel nad ydi Persimon yn fodlon codi tai i'r gogledd o Bontypridd bellach oherwydd nad oes elw i'w wneud.  Mae gan y Cymoedd broblemau o ran eu lleoliad wrth gwrs
- maent ymhell o brif farchnadoedd Ewrop a'r DU, a dydi'r is strwythur trafnidiaeth ddim yn arbennig o dda.  Mae'r un peth yn wir am orllewin Cymru wrth gwrs  - dydi'r tlodi'r Gorllewin ddim mor llym - ond mae'r ffaith bod y Gorllewin fel y Cymoedd yn teilyngu grantiau Ewrop dro ar ol tro yn tystio i fethiant hir dymor o ran datblygu a hybu'r economi.

Ond cymharwch hynny efo Inverness - dinas fwyaf gogleddol y DU - dinas sydd gannoedd o filltiroedd o'r ffin efo Lloegr heb son am farchnadoedd Ewrop.  Mae'r ddinas honno yn ffynu - ei phoblogaeth a'r economi leol yn tyfu ynghynt nag unrhyw ddinas yn y DU bron - tai yn cael eu codi ar hyd a lled cyrion y ddinas, swyddi newydd gyda chyflog anrhydeddus yn cael eu creu.  Mae'r rhan fwyaf o'r Ucheldiroedd yn gwneud yn dda hefyd.

Pam y gwahaniaeth efo'r Cymoedd a Gorllewin Cymru?  Mae'n anodd barnu pam bod un ardal yn dlawd ac un arall yn gyfoethog wrth gwrs - ond mae edrych ar y gwahaniaeth rhwng un lle a'r llall yn gallu bod yn ddadlennol.  Mae Inverness wedi elwa yn sylweddol o benderfyniad Llywodraeth yr Alban i ddatganoli gwahanol elfennau o'r llywodraeth o Gaeredin.  Mae'r Scottish National Heritige wedi ei ddatganoli i Inverness.  Mae'r corff hwnnw yn ei gyfanrwydd yn cyflogi 800 o bobl. - nid y cwbl yn Inverness wrth gwrs.  

Mae cryn dipyn o gyfalaf preifat wedi ei fuddsoddi yn yr ardal - ond mae yna gynllunio - a buddsoddi - du'r awdurdodau cyhoeddus wedi annog hynny.  Highlands & Island Enterprise, lLlywodraeth yr Alban a Johnson & Johnson sydd wedi ariannu y Centre for Health Science. Mae'r ganolfan yma yn gartref i nifer o gyflogwyr sy'n arbenigo mewn iechyd - gan gynnwys y Diabetes Institute.  Mae'r ddinas yn arwain y Byd mewn ymchwil i glefyd siwgr a darpariaeth meddygol i bobl sy'n dioddef o'r cyflwr. 

Mewn geiriau eraill ceir strategaeth economaidd bwrpasol ar gyfer yr ardal - un sy'n adeiladu ar gryfderau cynhenid (prifysgol a diwydiant twristiaeth sylweddol) tra'n osgoi rhai o'r problemau sydd ynghlwm a'r lleoliad anffafriol.    

Mae'r math yma o ymyraeth ddeallus sy'n arwain at gyfumiad o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat yn well na chodi llwyth o techniums rhyfeddol o ddrud ar hyd y lle a disgwyl i rhywbeth ddigwydd.


 

5 comments:

Anonymous said...

Peryg bod y gwahaniaeth yn rhywbeth i wneud hefo gymaint o gwynno sydd yn erbyn codi tai a dylanwad grwpiau fel C.Y.I.

Cai Larsen said...

A reit - CYI sy'n gyfrfol am ddigfyg buddspddiad yn y Cymoedd.

William Dolben said...

plaid genedlaethol gryfach na Phlaid Cymru'n dwyn pwysau ar yr Establishment llafuraidd i rannu'r ysbeiliau.....yn lle troi pob dwr i'w melin eu hunain?
a beth am yr olew? Ydi peth prês yr olew yna'n llifo o gyrion Aberdeen i fyny i gyffiniau Inbhir Nis?

Anonymous said...

Dim yn y Cymoedd. Yn y gorllewin.

Cai Larsen said...

Mae'r syniad bod yr CyI a diffyg codi tai yn gyfrifol am dlodi y tu hwnt i abswrd ac yn dangos diffyg crebwyll llwyr. Mae yna lawer iawn, iawn o dai wedi eu codi ar Ynys Mon - mae Ynys Mon yn dlawd. Dydi Cyngor Sir Caerfyrddin heb ddangos unrhyw barch at yr iaith - mae Sir Gaerfyrddin yn dlawd.

Nid tai sy'n creu cyfoeth, nid dirmyg at ieithoedd lleiafrifol chwaith - neu nid Catalonia a Gwlad y Basg fyddai'r rhannau cyfoethocaf o Sbaen. Cynllunio mewn modd sy'n dennu buddsoddiad priodol ydi'r ateb. Mymbo jymbo Llafuraidd ydi rwdlan am dai a iaith yn y cyswllt yma.