Thursday, October 17, 2013

Golwg yn mynd yn rhyfeddach

Peidiwch a cham ddeall rwan, mi fydda i yn mwynhau darllen Golwg - ond wir Dduw mae o'n gyfnodolyn rhyfedd ar brydiau.  Yr wythnos yma mae dau o'r colofnwyr rheolaidd yn defnyddio'r oll o'u colofnau fwy neu lai i gwyno am bobl sydd wedi cwyno am eu colofnau diwethaf.  

Cwyno mae Gwilym Owen bod rhywun wedi 'sgwennu llythyr yn beirniadu ei sylwebaeth rhyfeddol unochrog ar yr adroddiad ESTYN ar Awdurdod Addysg Gwynedd.  Mi fydd Gwil yn myllio am bobl sy'n beirniadu ei golofnau weithiau - ac ar adegau felly mae'n dwyn i gof ei ddyddiau fel reffari ers talwm ac yn ail adrodd gydag arddeliad masocistaidd  rhai o'r sylwadau cas a wnaethwyd gan wahanol chwaraewyr amdano yn ystod y cyfnod hwnnw.  

Yn anhygoel mae'n meddwl bod y reffario pruddglwyfus wedi rhoi croen fel eliffant iddo.  Mae pawb sy'n gwybod unrhyw beth am Gwil yn gwybod bod ganddo groen tenau fel sidan - dyna pam ei fod yn rwdlan yn hunan dosturiol am ei ddyddiau fel reffari pan mae'n destun beirniadaeth, a dyna pam mae'n defnyddio trefn gwyno'r Bib pan mae'n cael ei hun yn destun eitem ddychanol ysgafn ar y radio.  Nid bod y ffaith ei fod mor groen denau yn ei wneud yn llai cwynfanus am bobl eraill cofiwch - ailadrodd ei ragfarnau yn erbyn gwahanol bobl a sefydliadau ydi prif genhadaeth ei golofn - pan nad yw'n cwyno am bobl sy'n cwyno amdano wrth gwrs.

Dydi Cris Dafis ddim yn dweud pwy sydd wedi cwyno wrtho am ei golofn grotesg o hunan dosturiol yr wythnos ddiwethaf.  I'r sawl oedd ddigon ffodus i beidio a darllen yr ymdrech honno roedd Cris yn ol pob golwg yn 'sgwennu tra'n sniffian crio am rhywbeth ddigwyddodd iddo ym Mhantycelyn ddeg mlynedd ar hugain yn ol ac yn cysylltu hynny - am rhyw reswm neu'i gilydd - efo'r cynlluniau presenol i gau'r neuadd breswyl.  Ond a barnu oddi wrth y rwdlan hunan gyfiawn o golofn mae'n ei chyflwyno'r wythnos hon, mae'n rhaid ei fod wedi cael llu o bobl wedi cysylltu efo fo i'w gollfarnu.  

Rwan mae yna bethau pwysicach wedi digwydd yng Nghymru fach ers i golofnau diweddaraf y ddau wr bonheddig  ymddangos na nhw yn cael eu beirniadu gan rhywun neu'i gilydd.  Neu o leiaf mae yna bethau pwysicach wedi digwydd ym meddyliau pawb ond Gwil a Cris.  Ond i Gwil a Cris pethau sydd wedi digwydd iddyn nhw eu hunain ydi'r pethau pwysig.  Yn y tirwedd mewnol yma mae yna gysylltiad clos rhwng pobl yn beirniadu eu rhagfarnau heddiw a phethau sydd wedi eu dweud wrthynt neu ei wneud iddynt yn y gorffennol pell.  Mae eu canfyddiad o'r Byd wedi ei angori o gwmpas eu teimladau bach eu hunain, a'r teimladau rheiny ydi'r pethau pwysig. 

Rwan mae rhywun yn rhyw ddeall pam bod Golwg eisiau rhoi gofod i bobl fel Gwil a Cris.  Mae llinell olygyddol y papur yn genedlaetholgar ac mae'n naturiol bod ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau cydbwysedd - yn arbennig felly mewn sefyllfa lle mae nawdd cyhoeddus yn cael ei dderbyn.  Ond dydi hynny ddim yn rheswm i gyhoeddi y nonsens narsisistaidd sydd yn Golwg heddiw. 

Mae yna broblem wrth gwrs - mae Cymry Cymraeg - neu o leiaf y rhai sy'n gallu 'sgwennu Cymraeg twt  - yn tueddu i feddwl fel ei gilydd.  Does yna ddim idiom Gymraeg am chip on the shoulder, ond pobl sy'n dioddef o'r cyflwr hwnnw ydi'r eithriadau amlwg i'r tueddiad hwnnw.  Ond siawns bod yna ffordd o gwmpas y broblem - chwilio ymhellach, dod o hyd i rhywun llai rhugl ei Gymraeg neu ddi Gymraeg a chywiro neu gyfieithu ei waith neu ddweud wrth yr hogiau na fydd stwff amdanyn nhw eu hunain yn cael ei gyhoeddi.

ON Cris - cyn dy fod yn darllen mi dreuliais i flwyddyn ym Mhantycelyn ychydig o dy flaen di - a fedra i ddim meddwl am neb sydd wedi ei greithio yn seicolegol na chymaint ag un ffasgydd.  

5 comments:

Anonymous said...

Arglwydd mawr, atgoffa fi i beidio a sefyll ar dy gyrn di.

Rhodri Eilir Griffiths said...

Dwi wedi ganslo Golwg ers dipyn nawr oherwydd colofnau diflas, hunan-dosturiol a rwdlan y ddau golofynydd. Mae'n biti all nhw gael rhywun fwy deallus, meddylgar ag wrth-rychol i sgwennu.

Anonymous said...

Dim ond athrawon o Wynedd fel ti sy'n darllen Golwg. Mae'r fformiwla yn un syml:

Gwil yn slagio Plaid Gwynedd / athrawon Gwynedd / Cyngor Gwynedd = Plaid /athrawon / cynghorwyr Gwynedd yn flin = mwy o Plaid / athrawon / cynghorwyr Gwynedd yn prynu Golwg.

Anonymous said...

Ma Gwilym Owen yn weird

cris dafis said...

Diolch am fynd i'r drafferth i ddarllen fy ngholofnau.
Dwi innau ddim, ar y llaw arall, yn ddarllenwr selog ar eich blog. Diolch felly i gyfaill am dynnu fy sylw at eich obsesiwn gyda fi.

Tra, ar yr un llaw, yn ei hystyried hi'n fraint eich cael ymhlith fy narllenwyr - mi rydw i, ar y llaw arall, yn poeni am eich pwysedd gwaed a'ch iechyd, o farnu wrth yr ymateb dramatig hunan-bwysig uchod.

Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi ddarllen popeth dwi'n ysgrifennu. Dylech flaenoriaethu'ch tawelwch meddwl a'ch iechyd.

Dwi'n poeni ychydig bach hefyd am eich sgiliau dadansoddol. Dyma'r ail waith, drwy wybod i fi, i chi gamddehongli colofn gen i.

Does gen i ddim barn gref ar ddyfodol Pantycelyn. Yr hyn wnes i yn fy ngholofn oedd ysgrifennu am RAI o'r profiadau anffodus ges i, a llawer un arall, yno. Does dim cysylltiad rhwng hynny a'r trafodaethau sy'n digwydd ar hyn o bryd ar ddyfodol y neuadd. Colofn yw colofn. Nid erthygl. A phrofiad go iawn sy'n sail i'r hyn a ysgrifennais.

Neu ydych chi'n diystyru profiadau sy'n wahanol i'ch profiadau chi?

Soniwch hefyd fod pethau pwysicach ddylai fynd â fy sylw, na 'mhrofiadau ym Mhantycelyn.

Mentraf, yn wylaidd a gostyngedig, awgrymu y dylech chithau ddilyn eich cyngor eich hun. Mae 'na bethau pwysicach i flogio amdanynt na 'ngholofnau i.

Cofion caredig.