Wednesday, October 30, 2013

Inverness


Roeddem yn edrych ychydig wythnosau yn ol ar fethiant llywodraeth Cymru i adfywio'r Cymoedd - methiant sydd mor llwyr a chyfangwbl fel nad ydi Persimon yn fodlon codi tai i'r gogledd o Bontypridd bellach oherwydd nad oes elw i'w wneud.  Mae gan y Cymoedd broblemau o ran eu lleoliad wrth gwrs
- maent ymhell o brif farchnadoedd Ewrop a'r DU, a dydi'r is strwythur trafnidiaeth ddim yn arbennig o dda.  Mae'r un peth yn wir am orllewin Cymru wrth gwrs  - dydi'r tlodi'r Gorllewin ddim mor llym - ond mae'r ffaith bod y Gorllewin fel y Cymoedd yn teilyngu grantiau Ewrop dro ar ol tro yn tystio i fethiant hir dymor o ran datblygu a hybu'r economi.

Ond cymharwch hynny efo Inverness - dinas fwyaf gogleddol y DU - dinas sydd gannoedd o filltiroedd o'r ffin efo Lloegr heb son am farchnadoedd Ewrop.  Mae'r ddinas honno yn ffynu - ei phoblogaeth a'r economi leol yn tyfu ynghynt nag unrhyw ddinas yn y DU bron - tai yn cael eu codi ar hyd a lled cyrion y ddinas, swyddi newydd gyda chyflog anrhydeddus yn cael eu creu.  Mae'r rhan fwyaf o'r Ucheldiroedd yn gwneud yn dda hefyd.

Pam y gwahaniaeth efo'r Cymoedd a Gorllewin Cymru?  Mae'n anodd barnu pam bod un ardal yn dlawd ac un arall yn gyfoethog wrth gwrs - ond mae edrych ar y gwahaniaeth rhwng un lle a'r llall yn gallu bod yn ddadlennol.  Mae Inverness wedi elwa yn sylweddol o benderfyniad Llywodraeth yr Alban i ddatganoli gwahanol elfennau o'r llywodraeth o Gaeredin.  Mae'r Scottish National Heritige wedi ei ddatganoli i Inverness.  Mae'r corff hwnnw yn ei gyfanrwydd yn cyflogi 800 o bobl. - nid y cwbl yn Inverness wrth gwrs.  

Mae cryn dipyn o gyfalaf preifat wedi ei fuddsoddi yn yr ardal - ond mae yna gynllunio - a buddsoddi - du'r awdurdodau cyhoeddus wedi annog hynny.  Highlands & Island Enterprise, lLlywodraeth yr Alban a Johnson & Johnson sydd wedi ariannu y Centre for Health Science. Mae'r ganolfan yma yn gartref i nifer o gyflogwyr sy'n arbenigo mewn iechyd - gan gynnwys y Diabetes Institute.  Mae'r ddinas yn arwain y Byd mewn ymchwil i glefyd siwgr a darpariaeth meddygol i bobl sy'n dioddef o'r cyflwr. 

Mewn geiriau eraill ceir strategaeth economaidd bwrpasol ar gyfer yr ardal - un sy'n adeiladu ar gryfderau cynhenid (prifysgol a diwydiant twristiaeth sylweddol) tra'n osgoi rhai o'r problemau sydd ynghlwm a'r lleoliad anffafriol.    

Mae'r math yma o ymyraeth ddeallus sy'n arwain at gyfumiad o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat yn well na chodi llwyth o techniums rhyfeddol o ddrud ar hyd y lle a disgwyl i rhywbeth ddigwydd.


 

Monday, October 28, 2013

Cofgolofn yn Inverness

Cofgolofn yn Inverness yng nghalon Ucheldiroedd yr Alban i gofio tua chant a hanner o hogiau lleol a fu farw yn ymladd rhyw ryfel neu'i gilydd yn yr Aifft a Sudan  rhwng 1882 a 1887.

Mae'n anodd dychmygu pa gysylltiad posibl oedd rhwng bywydau'r hogiau yma oedd wedi eu geni a'u magu yng nghanol mynyddoedd oer a gwlyb Gogledd yr Alban, gannoedd o filltiroedd o Fur Hadrian (heb son am Lundain),  a bywydau'r hogiau o wastadiroedd crasboeth  Gogledd Affrica roeddynt yn ymladd yn eu herbyn.

Mae yna ambell i batrwm o idiotiaeth aflednais sy'n ail godi genhedlaeth ar ol cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth.


Sunday, October 27, 2013

Canolfan methdalu'r DU

Mae'n debyg ein bod ni yng Nghymru yn tueddu i feddwl bod pethau'n waeth arnom ni na neb arall o ran yr economi - ac mae hynny'n wir o ran rhai llinynau mesur - ond rydych yn fwy tebygol o weld arwydd fel hwn  yng Ngogledd Lloegr nag ydych yng Nghymru. 
Mae'r un peth yn wir am De Orllewin Lloegr.  Gogledd Lloegr a De Orllewin Lloegr ydi camolfannau methdalu'r DU.

Rhywbeth arall trawiadol ydi prisiau tai  - mae nhw'n llawer rhatach yng Ngharlisle nag yng Nghaernarfon.  

Mae polisiau economaidd San Steffan yn anghytbwys ac yn niweidiol i Gymru - ond maent yn niweidiol i ranbarthau Lloegr hefyd.  

Gogledd Lloegr a'r Alban - Mur Hadrian

Yn ystod yr haf mi es i ati i gadw blog ffon tra ar fy ngwyliau ar y Cyfandir.  Nid blogiadau gwyliau oeddynt fel y cyfryw ond blogiadau gwyliau efo gogwydd gwleidyddol iddynt.  Doeddwn i ddim yn disgwyl fawr o ddiddordeb a bod yn onest ond roedd y ffigyrau darllen yn anisgwyl  o uchel.  Felly dyma drio'r un peth eto - Gogledd Lloegr a'r Alban ydi'r lleoliad y tro hwn.  Fel arfer mae blogio ffon braidd yn fler - mae'n fwy anodd rheoli maint delweddau ac ati.

Dwi yn Carlisle ar hyn o bryd.  Rhan o Fur Hadrian sydd yn y llun.  Er bod llawer yn meddwl bod y mur yn rhedeg ar hyd y ffin mae wedi ei lleoli yn llwyr oddi mewn i Loegr - 1km i'r de yn y gorllewin, a 110km yn y dwyrain.  Mae serch hynny yn gwahanu y rhannau o Ynys Prydain lle llwyddodd yr Ymerodraeth Rufeinig i sefydlu am gyfnodau maith oddi wrth yr ardaloedd lle'r oedd ei dylanwad llawer gwanach.

Mae'n rhyfedd fel mae hen fault lines gwleidyddol / diwylliannol yn ail ymddangos mewn hanes dro ar ol tro - weithiau ymhell, bell wedi iddynt ymddangos am y tro cyntaf.  Digwyddodd hyn yn yr hen Iwgoslafia yn y gorffennol cymharol agos pan ddaeth yr hen linellau lle holltodd yr Ymerodraeth Rufeinig yn ddau a lle roedd yr Ewrop Fwslemaidd a'r Ewrop Gristnogol i'r golwg - a hynny yn y ffordd mwyaf gwaedlyd yn yr achos hwnnw. 

Mae'n siwr bod yna elfen o hyn yma - roedd dylanwad cymharol gyfyng yr Ymerodraeth Rufeinig yn un o'r llawer o bethau a roddodd i'r Alban ei hunaniaeth - ac mae'r ffaith bod yr Alban efo'i hunaniaeth ymysg y rhesymau pam ei bod am fod yn y newyddion ym mhell y tu hwnt i'w ffiniau ei hun am y flwyddyn nesaf o leiaf.



Saturday, October 26, 2013

Gwyliau'r Cynulliad

Diddorol nodi bod Andrew RT Davies o'r farn bod aelodau Cynulliad yn cael gormod o wyliau.  Mae'n barnu bod yr aelodau i ffwrdd o'r Bae am 20 wythnos - 140 diwrnod.

Mae hon yn un anodd braidd - mae aelodau sydd ag etholaethau efo cyfrifoldebau etholaethol y tu hwnt i Fae Caerdydd, ac mae'r un peth yn wir i raddau llai am rai sydd yn aelodau rhanbarthol.  Mae natur y swydd yn ei gwneud yn anodd barnu faint o waith mae aelodau yn ei wneud yn eu hetholaethau a rhanbarthau pan nad ydynt yn y Bae - yn ddi amau mae rhai yn brysur tra bod eraill yn fwy - ahem - hamddenol.  Efallai mai un ffordd o farnu ydi trwy gymharu efo deddfwrfa arall - a lle gwell na San Steffan?  Mae plaid Andrew RT yn rheoli fel rhan o glymblaid yn y fan honno wrth gwrs.

Mae Aelodau Seneddol yn treulio mwy o amser oddi wrth San Steffan na maent yn ei dreulio yno.  Yn 2012 roeddynt yn eistedd am 122 diwrnod - mae hyn yn cymharu a 240 diwrnod yn 1992.  Roedd gweddill y flwyddyn wedi eu threulio oddi wrth San Steffan - dydd Gwener yn yr etholaeth, penwythnosau, gwyliau, cynhadleddoedd gwleidyddol, busnes pwyllgorau dethol ac ati.  Mae ymdrechion wedi eu gwneud - gan Angela Eagle er enghraifft i dynnu sylw at y sefyllfa ryfedd yma - ond dydi'r llywodraeth ddim eisiau gwybod.

Hwyrach y dylai Andrew ofyn i rai o aelodau San Steffan ei blaid beth maen nhw'n feddwl o wyliau'r Cynulliad.

Thursday, October 24, 2013

Cyfri trydar Guto Bebb

Mae'n rhyfedd fel mae newid plaid yn gallu newid dyn.  Un o'r pethau dwi'n ei gofio am ddyddiau Aelod Seneddol Toriaidd Aberconwy fel Pleidiwr oedd ei gadernid tros y Gymraeg.  Os oedd rhyw neges neu'i gilydd nad oedd yn dangos parch digonol at y Gymraeg yn cyrraedd Arfon o gyfeiriad y Blaid yn ganolog arferai Guto fynegi ei anfodlonrwydd yn gwbl ddi flewyn ar dafod - a chware teg iddo am hynny.

Rydym eisoes wedi nodi bod blog Ceidwadwyr Aberconwy yn trin y Gymraeg fel iaith eilradd., ond mae'n ymddangos nad ydi pethau fawr gwell ar gyfri trydar personol Guto.  Tra bod rhywfaint o drydar trwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r mwyafrif llethol yn uniaith Saesneg.  Gallwch ddilyn Guto (yn y Saesneg yn bennaf) ar @GutoBebb.  Rwan dydi trydar ddim yn ymdrech fawr ac ni fyddai'n llafurus cynhyrchu cyfieithiad o pob neges.

Er fy mod yn awgrymu i bobl sydd eisiau trydar yn yr ddwy iaith i gyfansoddi negeseuon gwahanol yn y naill iaith a'r llall, 'dwi'n rhyw ddeall pam y byddai gwleidydd eisiaui'r hyn mae'n ei ystyried yn bwysig ymddangos yn y Saesneg.  Ond mae'n ymddangos bod darparu fersiwn Gymraeg o'r negeseuon pwysig hynny ar gyfer etholwyr Cymraeg eu hiaith yn ormod o drafferth yn amlach na pheidio i Aelod Seneddol Aberconwy.

Monday, October 21, 2013

Gwereniaethwyr Texas wedi dod o hyd i ffordd o atal merched rhag pleidleisio

Mi fydd y sawl sy'n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth America yn ymwybodol o rhai o'r dulliau bach dyfeisgar a ddefnyddir gan y Blaid Weriniaethol yno i atal grwpiau sydd ddim yn debygol o bleidleisio trostynt rhag bwrw pleidlais.

Er enghraifft mewn rhai taleithiau dydi pobl sydd a record troseddol ddim yn cael rhoi eu henwau ar y gofrestr pleidleisio - hyd yn oed os ydi'r drosedd yn weddol fach ac wedi ei chyflawni yn y gorffennol pell.  Mae canran uwch o lawer o bobl croenddu neu o gefndir Hispanic efo record troseddol na sydd o bobl wyn.  Mae'r grwpiau hynny yn pleidleisio mewn niferoedd mawr i'r Democratiaid.  Dyfais bach arall ydi cyfyngu ar y gorsafoedd pleidleisio mewn ardaloedd lle mae pobl croenddu yn byw ac felly sicrhau bod pleidleiswyr yn gorfod ciwio am gyfnodau maith.  Un arall ydi mynnu bod dogfenau swyddogol megis trwydded yrru gan y pleidleisiwr - mae pobl dlawd yn llawer llai tebygol o feddu ar ddogfen felly.

Y targed diweddaraf ydi merched priod - neu yn Texas o leiaf.  Mae merched yn fwy tebygol o bleidleisio i'r Democratiaid.  Y syniad y tro hwn ydi mynnu bod y sawl sy'n cofrestru i bleidleisio efo ei henw cyfreithiol ar ei dogfennau swyddogol (tystysgrif geni ac ati).  Mae'r mwyafrif llethol o ferched priod wedi newid eu cyfenwau - felly mae eu henwau cyfreithiol a'r enwau sydd ar llawer o'u dogfennau swyddogol yn wahanol.


Is etholiadau cyngor yng Nghaerdydd

Mae'n ddiddorol nodi bod dau gynghorydd Llafur yng Nghaerdydd - Luke Holland a Phil Hawkins - yn rhoi'r ffidil yn y to.  Mae'r naill yn cynrychioli Splott a'r llall yn cynrychioli Glan yr Afon.  Mae Splott yn dalcen called i'r Blaid, ond mae Glan yr Afon yn fater gwahanol - mae gan y Blaid gefnogaeth gref yn yr ardal ac mae wedi dal seddi yno rhwng 2004 a 2012.  Mae yna gyfle gwell na rhesymol o ad ennill sedd yno yn yr amgylchiadau sydd ohonynt.

Wele ganlyniad etholiad 2012:

BRYAN, Michael Stewart
Welsh Conservative Party Candidate 276


DAVIES, Gaener
Welsh Conservative Party Candidate 263


GORDON, Iona Mary
Welsh Labour/Llafur Cymru 1731 ELECTED


GRUFFYDD, Garmon Wyn
Trade Unionist and Socialist Coalition 99


HAWKINS, Philip Kemplay
Welsh Labour/Llafur Cymru 1431 ELECTED


HUGHES, Ceri
Green Party Plaid Werdd 294


ISLAM, Mohammed Sarul
Plaid Cymru - The Party of Wales 1153


LAY, Jennifer Anne
Welsh Conservative Party Candidate 286


LOVE, Cecilia Elizabeth
Welsh Labour/Llafur Cymru 1555 ELECTED


MAUREL, Yvan
Green Party Lead Candidate Prif Ymgeisydd y Blaid Werdd 272


OWEN, Gwilym George
Liberal Democrat 142


RANDERSON, Eleri Kathryn
Liberal Democrat 122


ROBERTS, Haf Havhesp
Plaid Cymru - The Party of Wales 940


SINGH, Jaswant
Plaid Cymru - The Party of Wales 944


TOWNSEND, Jeremy Nicholas
Liberal Democrat 129


TUCKER, Janet Rosemary
Green Party Plaid Werdd 189

Sunday, October 20, 2013

Ymadawiad Elfyn Llwyd ac ymgyrch San Steffan 2015

Bydd rhywbeth digon rhyfedd am Etholiad Cyffredinol 2015 yn absenoldeb Elfyn Llwyd.  Elfyn sydd wedi ysgwyddo'r rhan fwyaf - er nad y cwbl - o'r  gyfrifoldeb am ymddangos ar y teledu a'r radio yn ystod ymgyrchoedd etholiadol ers 2001 ac mae rhywsut wedi datblygu i fod yn wyneb cyhoeddus y Blaid mewn etholiadau cyffredinol ers hynny.  Mae hefyd yn adlewyrchiad o'r ymdeimlad o un genhedlaeth yn y Blaid yn trosglwyddo'r awennau i'r un nesaf - mae Ieuan, Rhodri Glyn a Ffred eisoes wedi datgan na fyddant yn sefyll eto neu wedi sefyll i lawr yn barod.



Dydi ei ymadawiad ddim yn hollol anisgwyl wrth gwrs - mae yna sibrydion wedi bod ar led ers tro.  Ond mae'n creu problem ymarferol i'r Blaid.  Mae Meirion Dwyfor yn sedd ddiogel i'r Blaid - mae pethau'n fwy cystadleuol yn Arfon a Dwyrain Caerfyrddin, ac felly  mae'n bwysig bod Hywel a Jonathan yn cael y cyfle i dreulio cymaint a phosibl o amser yn eu hetholaethau yn ystod yr ymgyrchoedd.

Felly bydd problem - neu her efallai - yn 2015.  Mae'n anhebygol y bydd pwy bynnag fydd yn sefyll ar ran y Blaid ym Meirion Dwyfor mewn sefyllfa i wneud joban Elfyn ar y cyfryngau - fydd ganddo ef neu hi ddim profiad blaenorol o etholiad San Steffan.  Efallai y bydd rhaid  rhannu'r faich rhwng Jonathan a Hywel, neu ddefnyddio nifer o ymgeiswyr seneddol eraill yn ogystal a nhw.  Posibilrwydd arall fyddai gwneud mwy o ddefnydd o arweinyddiaeth y Blaid yn y Cynulliad na sy'n arferol mewn etholiadau San Steffan.

Beth bynnag sy'n digwydd mae datrys y broblem yma, llunio naratif sydd wedi ei theilwrio yn benodol i'r Etholiad Cyffredinol a sicrhau bod pawb sy'n cynrychioli'r Blaid yn y cyfryngau yn cadw at y naratif honno yn allweddol i lwyddiant y Blaid yn 2015.  

Thursday, October 17, 2013

Golwg yn mynd yn rhyfeddach

Peidiwch a cham ddeall rwan, mi fydda i yn mwynhau darllen Golwg - ond wir Dduw mae o'n gyfnodolyn rhyfedd ar brydiau.  Yr wythnos yma mae dau o'r colofnwyr rheolaidd yn defnyddio'r oll o'u colofnau fwy neu lai i gwyno am bobl sydd wedi cwyno am eu colofnau diwethaf.  

Cwyno mae Gwilym Owen bod rhywun wedi 'sgwennu llythyr yn beirniadu ei sylwebaeth rhyfeddol unochrog ar yr adroddiad ESTYN ar Awdurdod Addysg Gwynedd.  Mi fydd Gwil yn myllio am bobl sy'n beirniadu ei golofnau weithiau - ac ar adegau felly mae'n dwyn i gof ei ddyddiau fel reffari ers talwm ac yn ail adrodd gydag arddeliad masocistaidd  rhai o'r sylwadau cas a wnaethwyd gan wahanol chwaraewyr amdano yn ystod y cyfnod hwnnw.  

Yn anhygoel mae'n meddwl bod y reffario pruddglwyfus wedi rhoi croen fel eliffant iddo.  Mae pawb sy'n gwybod unrhyw beth am Gwil yn gwybod bod ganddo groen tenau fel sidan - dyna pam ei fod yn rwdlan yn hunan dosturiol am ei ddyddiau fel reffari pan mae'n destun beirniadaeth, a dyna pam mae'n defnyddio trefn gwyno'r Bib pan mae'n cael ei hun yn destun eitem ddychanol ysgafn ar y radio.  Nid bod y ffaith ei fod mor groen denau yn ei wneud yn llai cwynfanus am bobl eraill cofiwch - ailadrodd ei ragfarnau yn erbyn gwahanol bobl a sefydliadau ydi prif genhadaeth ei golofn - pan nad yw'n cwyno am bobl sy'n cwyno amdano wrth gwrs.

Dydi Cris Dafis ddim yn dweud pwy sydd wedi cwyno wrtho am ei golofn grotesg o hunan dosturiol yr wythnos ddiwethaf.  I'r sawl oedd ddigon ffodus i beidio a darllen yr ymdrech honno roedd Cris yn ol pob golwg yn 'sgwennu tra'n sniffian crio am rhywbeth ddigwyddodd iddo ym Mhantycelyn ddeg mlynedd ar hugain yn ol ac yn cysylltu hynny - am rhyw reswm neu'i gilydd - efo'r cynlluniau presenol i gau'r neuadd breswyl.  Ond a barnu oddi wrth y rwdlan hunan gyfiawn o golofn mae'n ei chyflwyno'r wythnos hon, mae'n rhaid ei fod wedi cael llu o bobl wedi cysylltu efo fo i'w gollfarnu.  

Rwan mae yna bethau pwysicach wedi digwydd yng Nghymru fach ers i golofnau diweddaraf y ddau wr bonheddig  ymddangos na nhw yn cael eu beirniadu gan rhywun neu'i gilydd.  Neu o leiaf mae yna bethau pwysicach wedi digwydd ym meddyliau pawb ond Gwil a Cris.  Ond i Gwil a Cris pethau sydd wedi digwydd iddyn nhw eu hunain ydi'r pethau pwysig.  Yn y tirwedd mewnol yma mae yna gysylltiad clos rhwng pobl yn beirniadu eu rhagfarnau heddiw a phethau sydd wedi eu dweud wrthynt neu ei wneud iddynt yn y gorffennol pell.  Mae eu canfyddiad o'r Byd wedi ei angori o gwmpas eu teimladau bach eu hunain, a'r teimladau rheiny ydi'r pethau pwysig. 

Rwan mae rhywun yn rhyw ddeall pam bod Golwg eisiau rhoi gofod i bobl fel Gwil a Cris.  Mae llinell olygyddol y papur yn genedlaetholgar ac mae'n naturiol bod ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau cydbwysedd - yn arbennig felly mewn sefyllfa lle mae nawdd cyhoeddus yn cael ei dderbyn.  Ond dydi hynny ddim yn rheswm i gyhoeddi y nonsens narsisistaidd sydd yn Golwg heddiw. 

Mae yna broblem wrth gwrs - mae Cymry Cymraeg - neu o leiaf y rhai sy'n gallu 'sgwennu Cymraeg twt  - yn tueddu i feddwl fel ei gilydd.  Does yna ddim idiom Gymraeg am chip on the shoulder, ond pobl sy'n dioddef o'r cyflwr hwnnw ydi'r eithriadau amlwg i'r tueddiad hwnnw.  Ond siawns bod yna ffordd o gwmpas y broblem - chwilio ymhellach, dod o hyd i rhywun llai rhugl ei Gymraeg neu ddi Gymraeg a chywiro neu gyfieithu ei waith neu ddweud wrth yr hogiau na fydd stwff amdanyn nhw eu hunain yn cael ei gyhoeddi.

ON Cris - cyn dy fod yn darllen mi dreuliais i flwyddyn ym Mhantycelyn ychydig o dy flaen di - a fedra i ddim meddwl am neb sydd wedi ei greithio yn seicolegol na chymaint ag un ffasgydd.  

Monday, October 14, 2013

Prif broblem y Cymoedd

Mae dyn yn teimlo weithiau bod pob newyddion sy'n dod o Gymoedd y De yn newyddion drwg.  Rhondda Cynon Taf yn cynllunio gwerth £56m o doriadau yn eu gwasanaethau anstatudol heddiw.  Rydym eisoes wedi edrych ar benderfyniad Persimon i beidio a chodi tai i'r gogledd o Bontypridd oherwydd nad ydi'r trigolion lleol yn gallu talu digon am dai i ganiatau iddynt wneud elw ohonynt.  Mae hanes rhywbeth neu'i gilydd yn cau yn y Cymoedd yn boenus o gyffredin - Burberry, Remploy, General Dynamica, Gwaith Glo Unity ac Aberpergwm, ac ati.



Mae dirywiad y Cymoedd yn cychwyn ymhell yn ol wrth gwrs - er enghraifft roedd penllanw'r Rhondda o ran poblogaeth gryn ganrif yn ol.  Mae poblogaeth y cwm bellach llai na hanner yr hyn oedd yn 1921.  Ond nid diflaniad raison d'etre'r Cymoedd - y diwydiannau glo a dur ydi prif broblem y Cymoedd bellach.  Methiant awdurdodau lleol a chenedlaethol i gynllunio dyfodol amgen ydi'r broblem - diffyg gweledigaeth, diffyg uchelgais, diffyg dychymyg.

Yn naturiol ddigon beio'r Toriaid yn Llundain am newyddion heddiw mae Anthony Christopher - arweinydd RCT.  Dyma ydi hyd a lled dadansoddiad Llafur Cymru o broblemau'r Cymoedd - y Toriaid.  A hynny ydi prif  broblem y Cymoedd - mae'r blaid sy'n eu rheoli ar lefel genedlaethol a lleol yn gwbl ddi weledigaeth ynglyn a sut i'w hamddiffyn a'u hadfer.  Mae Llafur yn y Rhondda yn cwyno am dlodi'r ardal tra bod Llafur yng Nghaerdydd yn cynllunio i ddatblygu pob darn gwyrdd o wair gwyrdd y gall ddod o hyd iddo - rhywbeth fyddai'n sugno'r Rhondda o'r unig adnoddau sy'n weddill iddi - ei hadnoddau dynol.

Mae hanes y Blaid Lafur Gymreig a hanes datblygiad y Cymoedd yn y ganrif ddiwethaf wedi eu rhyng blethu.  Yn ddi amau mae cof cymunedol am gysylltiadau clos y Blaid Lafur efo'r Mudiad Llafur ehangach a gwaith y mudiad hwnnw i amddiffyn pobl yng nghynni'r 20au a'r 30au yn un o'r rhesymau tros ei phoblogrwydd parhaus yn yr ardal.  Ond mae Llafur bellach yn faen melin o gwmpas gwddf y Cymoedd.  Os ydi'r dyfodol i fod yn well na'r dirywiad a gafwyd am y rhan fwyaf o'r ganrif ddiwethaf, mae'n rhaid i'r ardaloedd yma roi cic i'w traddodiad o gefnogi plaid sydd wedi methu yn y gorffennol a sydd yn gwbl sicr o fethu yn y dyfodol. 

Sunday, October 13, 2013

Y Gynhadledd

Dwi'n meddwl bod pawb a fynychodd gynhadledd y Blaid yn Aberystwyth ddydd Gwener a dydd Sadwrn yn gytun ei bod yn un llwyddiannus.  Cynnwys a threfniadaeth sy'n rhannol gyfrifol am hynny mae'n siwr.

Ond mae yna fwy iddi - mae llwyddiant cynhadledd yn rhywbeth y gellir ei deimlo yn hytrach na'i ddadansoddi.  Pan mae yna nifer dda o bobl yn mynychu a phan mae llawer o'r bobl hynny yn teimlo'n optimistaidd mae cynhadledd yn un hapus. Roedd y gynhadledd yma'n un hapus a chytun..  Canlyniad Ynys Mon ydi un o'r rhesymau am yr optimistaeth wrth gwrs, ond mae yna fwy iddi.  Mae cyfeiriad y Blaid yn glir  ar hyn o bryd, ac mae strategaeth amlwg yn ffurfio ar gyfer yr etholiadau sydd yn ymddangos ar y gorwel.  Mae yna amrediad eang o bolisiau gwreiddiol a diddorol yn dechrau ffurfio.  Mae  delwedd gyhoeddus y Blaid yn optimistaidd a chadarnhaol.

Ydi hyn oll yn sicrhau llwyddiant yn yr etholiadau sydd o'n blaenau?  Wel nag ydi, ond mae seiliau cadarn i lwyddiant bellach wedi eu gosod.  

Thursday, October 10, 2013

Cynhadledd y Blaid

Cofiwch am Gynhadledd y Blaid sy'n cael ei chynnal yn Aberystwyth 'fory a ddydd Sadwrn.  Gellir cael manylion yma.

Mae'r drefn ychydig yn wahanol eleni - mae unrhyw un sydd yn aelod o'r Blaid yn cael mynychu'r Gynhadledd a phleidleisio.  Dewch yn llu.


Wednesday, October 09, 2013

Ymgeisyddiaeth Ynys Mon

John Rowlands sydd wedi ei ddewis gan y Blaid ym Mon i ymladd yn erbyn Albert Owen am y sedd San Steffan.  Llongyfarchiadau i John - mae yna bosibilrwydd gwirioneddol o ennill y sedd. Mae'n adlewyrchu'n dda ar John iddo ddod ar y blaen mewn ras gyda phedwar ymgeisydd cryf.

Cydymdeimlad Blogmenai i Ken, Vaughan ac Ann.  Da iawn nhw am roi eu henwau ymlaen a rhoi dewis teilwng i Bleidwyr Mon.




Monday, October 07, 2013

Mapiau iaith rhyngweithiol llawn

Diolch i Iestyn am ddod o hyd i'r wefan yma.  

Mae'n darparu mapiau ardaloedd bach tros Gymru gyfan, ac yn caniatau cymhariaeth rhwng 2001 a 2011.  Mae'n debyg mai dyma'r ffynhonnell orau sydd ar gael ar hyn o bryd i gael y ffigyrau moel ynglyn a'r iaith a pherthnasu'r rheiny yn ddaearyddol.  

Oscar yn y newyddion - eto fyth

Bydd darllenwyr cyson Blogmenai eisoes wedi dod ar draws anturiaethau lliwgar Mohammed Asghar ar sawl achlysur. Chwi gofiwch iddo adael Plaid Cymru pan wrthododd y blaid honn ganiatau iddo gyflogi ei ferch Natasha, ac ymuno efo'r Toriaid oherwydd nad oedd ganddyn nhw broblem efo'r math yna o beth.  



A wedyn mi aeth y Toriaid ati i'w roi yn ail ar restr De Ddwyrain heb drafferthu gofyn i'r aelodau lleol am eu barn.

Byddwch hefyd yn cofio iddo ddechrau gweithio i gael ei wraig, Firdaus wedi ei henwebu ar gyfer ymgeisyddiaeth Toriaidd ar Gyngor Casnewydd yn fuan wedi marwolaeth y Cynghorydd Les Knight - a gwneud hynny ymhell cyn i rigor mortis ddechrau cerdded corff Les druan.

Ac yna daeth yn amlwg ym mis Ionawr 2012 bod ei wraig yn gweithio iddo yn ogystal a'i ferch erbyn hynny. Eglurhad y Toriaid ar y pryd oedd mai penodiad dros dro oedd un y ferch.

Ac wedyn wrth gwrs dyna'r mater bach o hawlio treuliau (ynghyd ag wyth AC Toriaidd arall) am fynd i Aberystwyth i ddathlu penblwydd Nick Ramsey.

Ac wedyn daeth ag achos llys yn erbyn pump o'i gyd addolwyr oherwydd iddo gael rhybudd i ymddwyn yn briodol ym mosgs Jamia ac Al-Noor yng Nghasnewydd. 

A rwan - yn ol WalesOnline - mae'n ymddangos bod ei wraig, ei ferch, is gadeirydd y Toriaid yng Nghymru a chyn asiant David Davies oll yn gweithio iddo.

Rwan, mae yna nifer o bethau na ddylai fod yn syndod i neb yma.  Mae digwyleidd-dra a thrachwant 'Oscar' yn hen stori, ac mae diffyg tryloywder y Toriaid pan mae'n dod i ddewis ymgeiswyr a chyflogi pobl efo arian cyhoeddus yn hen straeon hefyd. 

Ond mae dau bwynt diddorol yn codi o'r stori newydd yn WalesOnline.  Y cyntaf ydi ymateb rhyfedd o du'r Toriaid -

Some of us take the view that it’s disgraceful that  Mr Asghar is employing his own family members in this way, although of course he is operating within the Assembly’s rules.

Mae'n dda deall bod o leiaf rhai Toriaid yn gweld problem efo defnyddio arian cyhoeddus i gyflogi aelodau teulu - ond mi fyddai'n braf petai'r Toriaid Cymreig yn mynegi barn swyddogol ar y sefyllfa.

Yr ail ydi ymateb Llywodraeth y Cynulliad -

 Mrs Asghar is currently employed on a temporary contract for a maximum of six months. If there is an intention that her appointment should become permanent, she will have to apply for the post in open competition. Her husband would have no say in the appointments process.

Cafwyd yr un eglurhad yn union y tro diwethaf i'r mater o gyflogaeth teulu Oscar ddod i sylw'r cyhoedd - bod un o'r penodiadau yn drefniant tros dro -  ac roedd hynny ym mis Ionawr 2012. 

Deunydd enwebiaeth Ynys Mon _._ _

_ _ _ llythyr gan Vaughan Williams y tro hwn.


Annwyl gyfaill,                                                                                  Seithfed o Hydref.


Ysgrifennaf atoch ynglŷn ag enwebiad Plaid Cymru ar gyfer Etholiad San Steffan yn 2015.

Ar nos Fercher y 9fed o Hydref cynhelir ail gyfarfod dewis ymgeisydd yn Ysgol David Hughes - cofrestru am 18.30 tan 19.00 a’r cyfarfod ei hun o saith o’r gloch ymlaen.

Mwynheais y cyfarfod cyntaf yn fawr iawn a braf oedd gweld cymaint o wynebau cyfarwydd. Rwyf yn enedigol o Ynys Môn - cefais fy magu yng Nghaergybi. Yn ystod ymgyrch eithriadol o lwyddiannus Rhun ddangosais i fy ymroddiad i Fôn ac i’r Blaid trwy deithio bob penwythnos yn ystod tymor ysgol, ar nos Wener tan ddydd Sul i ymgyrchu’n ddi-baid. Gwnes i hyd yn oed oedi mynd ar wyliau haf i sicrhau roeddwn yn gallu ymgyrchu hyd ddiwedd yr ymgyrch. Roedd noson y cyfrif yn noson arbennig iawn ac roedd Môn fel unrhyw fam gwerth ei halen wedi dangos i’w phlant y ffordd ymlaen.

Mi fydd y Blaid Lafur yn bendant o ymgyrchu’n galed ac er iddynt gael crasfa gan bobl Môn eleni, does dim dwywaith y gall Albert ddibynnu ar bleidlais gref Caergybi.

Fel rhywun o Gaergybi sydd wedi gweithio yn y porthladd credaf fy mod i mewn sefyllfa ardderchog o wirioneddol herio Albert Owen yn ei gadarnle a chadarnle'r Blaid Lafur ym Môn. Yr hyn sy’n bwysig ydy curo’r Blaid Lafur yn y pendraw!

Taswn yn cael y fraint o gael fy newis baswn i’n gadael fy swydd llawn amser, cytundeb parhaol i ymgyrchu o’r cychwyn cyntaf ac i sicrhau ein bod yn curo’r Blaid Lafur.

Ers 2008 rwyf wedi gweithio fel athro Cymraeg yn Ysgol Penglais. Heb os nac oni bai rwyf wedi dysgu llawer yn y swydd ardderchog yma megis sgiliau gwrando a chyfathrebu.

Fel chi rydw i’n gwybod nad oes lle gwell i fyw, ond wrth reswm rydw i’n pryderu, fel yr ydych chi, am ddyfodol ein hynys a’i phobl. Credaf yn gryf bod rhaid i ni ddiogelu swyddi sydd yma ym Môn yn barod ac wedyn edrych ar ffyrdd o dyfu ein heconomi yma ar Fôn - mae’r ddau beth yn mynd llaw yn llaw. Yn anffodus rydw i’nenghraifft o berson ifanc sy’n caru’i filltir sgwâr ond sydd wedi gorfod gadael ei gynefin i sicrhau cyflogaeth i ffwrdd o Fôn. Mae llawer gormod o’n pobl ifanc yn gadael yr ynys a dydyn nhw fyth yn dod yn ôl, mae hyn yn cael effaith negyddol dros ben ar ddyfodol yr iaith Gymraeg. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn creu swyddi o safon. Hoffwn i gynrychioli pobl Môn yn y San Steffan - hoffwn i fod yn rhan o wella bywydau holl bobl sy’n byw yma.
Fel chi, rydw i’n caru Môn ac eisiau ei gweld yn llwyddo!
Dros Gymru!
John Vaughan Williams

Sunday, October 06, 2013

Mapiau o'r Gymraeg yng Ngogledd Gwynedd a Mon

Diolch o galon i Ioan am anfon y mapiau isod o Lannau'r Fenai a Mon / Gogledd Gwynedd.  Mae wedi eu gwneud mewn glas yn ogystal a gwyrdd oherwydd nad ydw i'n gallu gwahaniaethu'n dda  rhwng gwahanol fathau o wyrdd.  Mae'r mapiau wedi eu adeiladu o'r ystadegau ardaloedd bach rydym wedi bod yn son amdanynt yn ddiweddar.  Mae'r lliwiau tywyllad yn 95%> tra bod y rhai goleuaf yn 15%<.

Mae'r mapiau yn siarad trosynt eu hunain i raddau helaeth - y lliwiau tywyllaf o gwmpas y trefi mwyaf a'r pentrefi chwarel mawr a'r rhai goleuaf yn ninas Bangor, Ynys Cybi ac ambell i ardal wledig arall.







Hystings Ynys Mon - gohebiaeth diweddaraf _ _ _

_ _ _ gan Ann Griffith y tro hwn:

Gwynfryn Llangaffo Ynys Môn  LL606LY

5.10.13


Annwyl Aelod
Nos Fercher nesaf, Hydref 9fed, bydd Plaid Cymru Ynys Môn yn cwblhau’r broses o ddewis  ymgeisydd seneddol  ar gyfer Etholiad San Steffan yn 2015.

Eisoes, cafwyd cyfarfod bywiog yn Amlwch yr wythnos hon, gyda phedwar ymgeisydd â gwahanol sgiliau a chryfderau yn cyflwyno’u hachos gerbron yr aelodau ddaeth ynghyd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
Ym mis Awst  cafodd Plaid Cymru fuddugoliaeth ysgubol yn yr isetholiad ar gyfer Senedd Cymru. I raddau helaeth, roedd llwyddiant Rhun ap Iorwerth yn seiliedig ar y momentwm a oedd wedi’i greu yn sgil yr ymgyrch etholiadau lleol ym mis Mai, pan etholwyd 12 o aelodau Plaid Cymru ar y cyngor sir. Yn sgil yr holl fwrlwm  a welwyd gyda’r etholiadau hyn mae aelodaeth Plaid Cymru ar Ynys Môn wedi cynyddu 10%. Rydym ni wedi gweld ymadnewyddu gwirioneddol yn y Blaid ym Môn am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, ac mae’n dda iawn gen i fy mod i’n rhan o symud pethau ymlaen fel hyn.

Mae’n holl bwysig ein bod yn cynnal y momentwm hwn gan fod yr ymgyrch ar gyfer Etholiad 2015 eisoes wedi cychwyn. Er bod y Blaid Lafur wedi colli’n drwm iawn yn yr isetholiad, maent wedi dechrau ar y gwaith o ail-adeiladu ar gyfer 2015 ac mae’n rhaid i ninnau ymateb i hynny yn syth. Rydw i mewn sefyllfa i fod yn ymgeisydd amser llawn, brwd ac egnïol o’r dechrau cyntaf.

Rwy’n barod i  gychwyn  ar y gwaith hwn ar f’union o nos Fercher ymlaen os caf fy newis gan yr aelodau. Rwy’n byw ar yr ynys ers 1984 a bellach yn gynghorydd dros Ward Bro Aberffraw, sydd erbyn hyn yn ymestyn dros dalp go helaeth o Orllewin Môn gan gynnwys pentrefi  Niwbwrch, Aberffraw, Dwyran a Malltraeth.

Credaf y bydd y proffil sydd gen i’n barod yn y ward ac fel aelod o wrthblaid Plaid Cymru ar  Gyngor Môn yn allweddol o ran cystadlu yn erbyn y Blaid Lafur yn 2015.  Os mai fi fydd ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer y sedd, bydd modd defnyddio’r proffil hwn dros 18 mis er mwyn  ymestyn fy apêl i rannau eraill o’r ynys a pherswadio mwy o bobl i bleidleisio dros Blaid Cymru. Mae’n rhaid cael rhywun lleol sy’n gallu ysbrydoli pobl wrth fynd o ddrws i ddrws, rhywun gwahanol sy’n medru ymestyn allan heibio i bleidlais graidd draddodiadol y Blaid er mwyn sicrhau buddugoliaeth.

Yn dilyn ein holl lwyddiant diweddar, a’r holl newidiadau  sydd ar droed yng ngwleidyddiaeth Cymru a gweddill Gwledydd Prydain erbyn hyn, y mae hon yn sedd y gallwn ni ei hennill!

Edrychaf ymlaen at eich cyfarfod yn yr ail hystings nos Fercher nesaf, Hydref 9fed yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy am 6.30.

Yr eiddoch yn gywir


Ann Griffith 

Saturday, October 05, 2013

Enwebiaeth Ynys Mon


Byddwch yn cofio i mi wahodd ymgeiswyr am enwebiaeth y Blaid i ymladd am sedd San Steffan Ynys Mon i anfon deunydd cyhoeddusrwydd ataf i'w gyhoeddi ar Blogmenai.  Mae Ann eisoes wedi gwneud hynny ar ddau achlysur.  Y diweddaraf i anfon stwff ydi John Vaughan Williams.  Ymddiheuriadau am y blerwch Vaughan - does gen i ond mynediad i ffon symudol ar hyn o bryd.  Croeso i unrhyw un anfon mwy o stwff.


Thursday, October 03, 2013

Mwy o adrodd dethol gan Gwilym Owen ar addysg yng Ngwynedd

Fel rhywun sydd yn gweithio ym maes addysg mae'n debyg y dyliwn groesawu'r ffaith bod Gwilym Owen yn dangos diddordeb yn y pwnc hwnnw.  Ond os ydi fy nghof yn gywir braidd yn gyfyng ydi ei ddiddordeb - does ganddo ond diddordeb mewn addysg yng Ngwynedd, a does ganddo ond diddordeb mewn unrhyw beth negyddol y gall ddod o hyd iddo yn narpariaeth Gwynedd.

Mae ei ymdrech yn Golwg heddiw yn glasur o'i fath.  Yn wahanol i'r arfer mae yna ychydig o ymchwil y tro hwn - mae wedi cael ei ddwylo ar adroddiad Estyn ar y gwasanaeth yng Ngwynedd, wedi dweud pwt am y canfyddiadau ac wedi mynd ati i restru pob sylw negyddol mae'n gallu dod o hyd iddo, tra'n anwybyddu pob sylw cadarnhaol.

 Mae gan Gwil hanes o riportio dethol ac anonest  tra'n ymdrin ag addysg yng Ngwynedd  Bydd darllenwyr cyson Gwilym (neu Flogmenai)  yn cofio iddo honni bod canran uchel o blant Gwynedd yn mynd i'r sector uwchradd yn anllythrennog ar sail y ffaith nad ydi pawb yn cyrraedd lefel 4 mewn llythrennedd (yn union fel yn achos pob AALl arall yn y DU), ac mai 27% yn unig o blant Gwynedd sy'n siarad y Gymraeg efo'i gilydd ar sail holiadur oedd wedi ei gasglu i raddau helaeth ym Mro Dysyni - ardal mwyaf Seisnig a gwledig Gwynedd. Y gwir ganfyddiad oedd mai dyna'r ganran oedd yn defnyddio'r iaith yn ddi eithriad -  roedd 71% o hyd yn oed y sampl Seisnig yma yn defnyddio peth Cymraeg efo'i gilydd.

Er mwyn darparu cyd destun teg - yn wahanol i'r hyn a gewch yn Golwg - mae'r adroddiad yn barnu mai digonol ydi perfformiad yr AALl yng Ngwynedd.  Mae'r beirniadaethau a restrwyd gan Gwil yn yr adroddiad, ond mae yna ganmol hefyd - yn ogystal ag i ambell i ragoriaeth - ym maes datblygu'r Gymraeg er enghraifft.

Mae yna gyd destun ehangach hefyd - mae llawer o'r awdurdodau eraill sydd wedi eu harolygu yn y gorffennol agos wedi methu eu harolygiadau - mae Mynwy, Ynys Mon, Penfro, Merthyr, Blaenau Gwent a Thorfaen wedi eu gosod mewn categori 'mesurau arbennig'  - yn wahanol i Wynedd.  Ond dydi hynny ddim o unrhyw ddiddordeb i Gwil wrth gwrs.

Wednesday, October 02, 2013

Ychydig mwy o ystadegau cyfrifiad Caerdydd / Gwynedd

Byddwch yn cofio i ni gymharu Cymry Cymraeg Gwynedd gyda rhai Caerdydd tros y penwythnos.  Nid beirniadu neb oeddem wrth gwrs, ond edrych ar pa mor wir ydi'r awgrym sydd ynghlwm wrth ddadl Cris Dafis y dylid cadw S4C yng Nghaerdydd oherwydd bod y ddinas honno yn cynrychioli'r hyn ydi'r Gymru Gymraeg 'newydd' yn well na'r Fro Gymraeg.  Awgrym pellach sydd ymhlyg yn y ddadl yma ydi bod yna rhywbeth yn fwy cosmopolitaidd ac eclectig am y gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd.  Roedd y data a edrychwyd arno yn awgrymu mai'r gwrthwyneb sy'n wir mewn gwirionedd a bod y gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd yn fwy unffurf o lawer na'r un yng Ngwynedd.  Dwi wedi edrych ar fwy o ddata - ac mae hwnnw'n ddadlennol iawn o safbwynt natur y ddwy gymuned.

Y peth cyntaf i'w gydnabod ydi'r ffaith gweddol amlwg bod cysylltiad agos rhwng y gallu i siarad y Gymraeg ag ethnigrwydd a hunaniaeth Gymreig yng Ngwynedd.  Yn y sir honno mae 89% o'r sawl sydd yn siarad y Gymraeg wedi eu geni yng Nghymru.  Ond mae'r ganran gyfatebol am Gaerdydd yn debyg iawn - 88%.  Yng Ngwynedd mae 91% o'r sawl sy'n disgrifio eu hunain fel 'Cymry yn unig' yn siarad yr iaith - 16% sydd yng Nghaerdydd.

Ond pan rydym yn edrych ar gefndiroedd a hunaniaethau anghymreig mae'n amlwg bod llawer mwy o bobl sy'n perthyn i'r categoriau hyn yn siarad y Gymraeg yng Ngwynedd na sydd yng Nghaedydd.  Er enghraifft 4% o drigolion Caerdydd sydd wedi eu geni y tu allan i Gymru sy'n siarad y Gymraeg - mae yna 20% yn gwneud hynny yng Nghwynedd.

Mae 6% o bobl Caerdydd sydd a hunaniaeth Brydeinig yn unig yn siarad y Gymraeg, 2% o'r sawl sydd a hunaniaeth Saesneg, 2% sydd a hunaniaeth Seisnig a Phrydeinig a 3% sydd a hunaniaeth arall.  Mae'r canrannau yng Ngwynedd yn llawer, llawer uwch - 32% o'r sawl sydd a hunaniaeth Brydeinig yn unig, 14% o'r sawl sydd a hunaniaeth Seisnig yn unig, 12% o'r sawl sydd a hunaniaeth Brydeinig a Seisnig a 9% sydd a hunaniaeth arall.

Neu i roi cnawd ar esgyrn y data, myth llwyr ydi'r syniad bod yna rhywbeth amrywiol ac eangfrydig am Gymreigrwydd ieithyddol Caerdydd tra bod Cymreigrwydd ieithyddol Gwynedd yn gul ac unffurf.  Stori'r data ydi bod cysylltiad closiach rhwng bod yn aelod o'r gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd a hunaniaeth Gymreig na sydd yng Ngwynedd.  Mae'r fytholeg yn troi realiti wyneb i waered.

*Data i gyd o cyfrifiad 2011.


Tuesday, October 01, 2013

Hystings Ynys Mon

Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi cynnig cyhoeddi deunydd etholiadol yr ymgeiswyr ar gyfer enwebiaeth San Steffan i ymladd y sedd tros y  Blaid.  Ann ydi'r unig ymgeisydd i dderbyn y cynnig hyd yn hyn - felly dyma bamffled arall ganddi hi.


*Ymddiheuriadau am yr ansawdd - y ffaith fy mod i wedi gorfod tynnu llu a nid y pamffled yw'r broblem.