Thursday, June 16, 2011

Noson dda arall i Blaid Cymru yn Arfon

Wedi llwyddiant ysgubol y Blaid yn Arfon yn etholiadau'r Cynulliad eleni, mae'n braf nodi ei bod yn mynd o nerth yn yr etholaeth.

Cynhalwyd is etholiad heddiw yn ward mwyaf dwyreinol Gwynedd - Arllechwedd - yn dilyn marwolaeth y cynghorydd Lib Dem, J R Jones yn gynharach eleni.

Y canlyniad oedd:

Douglas-Pennant, Edmond Hugh Lib Dems 93

Edwards, David Gwynfor

Lewis, Jennie

Meurig, Dafydd

Llafur 72

Tori 35

Plaid Cymru 255



Mae'n arbennig o galonogol gweld Llafur yn gwneud mor sal ar ol i'w hoelion wyth lleol a chyn aelod seneddol weithio cymaint trostynt yn ystod yr etholiad.

12 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Canlyniad anhygoel o dda, lle i'r Rh Dem boeni hefyd. Pryd mae is-etholiad Penrhosgarnedd?

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn siwr os oes yna ddyddiad eto.

Alwyn ap Huw said...

Pethau'n edrych yn ddu i'r Torïaid yn Arfon - Douglas Pennant yn sefyll dros y Rhyddfrydwyr!

Bydd beddau ei gyn teidiau megis chwyrligwgan.

Cai Larsen said...

He, he - digon gwir Alwyn.

Mi fyddwn i'n meddwl bod y ffaith bod y Lib Dems yn apelio at y teulu yma yn dweud llawer am lle maen nhw heddiw cofia.

Anonymous said...

ia, da iawn, ond beth am Uwchaled?

Blog Banw said...

Mae 'na is-etholiad yn ward Llangedwad Cyngor Sir Gár ar y 23ain ddydd Iau nesaf hefyd. Mae gan y Blaid ymgeisydd cryf iawn sef Mansel Charles. Gobeithio gallwn gipio'r ward hwn hefyd (cynt yn annibynnol) bydd cyfres o lwyddiannau bychain ond adeiladol ar lawr gwlad yn hwb cadarnhaol i'r Blaid :).

Plaid Gwersyllt said...

Ond beth am golli Uwchaled heb ymdrech?, Dwin dallt na fydd gan y Cynghorydd newydd ryw lawer o gydymdeimlad tuag at ddiwylliant Cymraeg ardal Cerrigydrudion!
Angen ymgeisydd ar gyfer etholiadau 2012 i neud siwr fod y Blaid yn dal i arwain Cyngor Sir Conwy.

Blog Banw said...

Cytuno a Phlaid Gwersyllt, braidd yn anghyfrifol oedd peidio a sicrhau ymgeisydd o leia gan fod hyn mewn gwirionedd nawr yn golygu bod buddugoliaeth Arfon yn cael ei gwrthbwyso gyda cholled Uwchaled.

Cai Larsen said...

Mater o drefniadaeth ydi dod o hyd i ymgeiswyr yn y bon.

Os nad ydi cangen leol yn gallu dod o hyd i ymgeisydd (neu lle nad oes cangen leol) yna dylai'r Blaid ar lefel etholaeth ymgymryd a'r dasg o ddod o hyd i rhywun.

Cai Larsen said...

Newydd gael rhyw bwt o sgwrs ac mae'n ymddangos i'r Blaid ddod o hyd i ddau i sefyll yn Uwchaled ac i'r ddau orfod tynnu yn ol - un ohonynt ar y munud diwethaf.

Anonymous said...

Beth sy'n anhygoel yma yw bod yna fwy o bobl yn fodlon pleidleisio dros rhywun gyda Douglas-Pennant yn ei enw nac ymgeisydd y blaid Lafur ! .( Mae hi'n fwy du byth ar y blaid Lafur, felly ). Bydd Penrhosgarnedd yn ddipyn o frwydyr - mae'r lle'n wedi newid yn sylweddol ers i Dai Rees-Jones gael ei ethol yn gyntaf.

Cai Larsen said...

Ond ddim ers i Dai gael ei ethol ddiwethaf yn 2008.