Yn Sir Gaerfyrddin y tro hwn.
Mae'n gryn berfformiad ar ran y Blaid - trydydd oedd yn 2008 - er bod Mansel Charles, ymgeisydd llwyddiannus neithiwr, yn ail bryd hynny. Nid oedd, fodd bynnag yn sefyll yn enw'r Blaid y tro hwnnw.
Daw hyn a chyfanswm aelodau'r Blaid ar y cyngor i 31 o gymharu a 28 i'r grwp annibynnol..
5 comments:
Fasa ti ddim isio rheoli yng Nghaerfyrddin ddeud gwir; swyddogion anobeithiol.
Na hyd at 30 o aelodau gan oedd Sian Caiach wedi symud rhengoedd i fod yn annibynnol - ond heb os dal y blaid fwyaf ar y cyngor.
Yn Hanes Mansel yn ôl yn 2008 - roedd e'n bwriadu sefyll i'r Blaid bryd hwnnw, ond nad oedd modd iddo fynd i'r cyfarfod dethol, ond fe'u dywedwyd wrtho bod ddim ots ar hynny a bydd ganddo le i sefyll ta p'un ni, ond wedyn bu rhyw gymysgwch ac etholwyd rhywun arall. Arhosodd Mansel fel aelod Annibynnol wedyn yn ei siom. Ond cenedlaetholwr i'r carn ydyw.
Faint o bwysau dyla ni rhoi ar is-etholiad sir? ydio'n wirioneddol dangos newid gwleidyddol yn genedlaethol? oes na ryw journal neu llyfr sydd wedi edrych ar hyn?
Y peth diddorol oedd bod Mansel yn ymgyrchu dros gadw ysgolion bach a materion llosg lleol, tra bod yr Annibynnwr yn methu dweud dim heblaw am ei fod yn 'annibynnol'.
31 yw nifer cynghorwyr y Blaid nawr. Etholwyd 30 yn Mai 2008. Ffurfiodd Sian ei phlaid ei hun llynedd ond fe enillwyd is-etholiad Cenarth a chyda Mansel wedi ennill Ddydd Iau mae 31 aelod gan y Blaid 28 gan yr anibynwyr, un Lib/Dem sydd wedi ymuno gyda'r annibynnwyr, 2 plaid Sian Caiach ac un gwir annibynnol, ac 11 Llafur yn gwneud cyfanswm o 74. Yr annibynwyr, Llafur a'r un Lib/dem yn rheoli.
Post a Comment