Sunday, June 19, 2011

Peidiwch ag anghofio am y ceffylau!

Roedd yn ddiddorol deall gan y Sunday Times heddiw bod y frenhines yn poeni'n fawr am y cyswllt rheilffordd cyflym arfaethedig rhwng Birmingham a Llundain. Y broblem ydi y gallai'r cynllun £34bn dorri trwy Stonleigh Park, sy'n rhywbeth neu'i gilydd i wneud efo ceffylau. Mae'r frenhines yn hoffi ceffylau ac mae'n berchen ar lawer ohonynt, a dydi hi ddim eisiau i'r trenau ddychryn y creaduriaid. Ymddengys bod ei hail fab, Andrew wedi codi'r mater mewn cyfarfod efo swyddogion o'r trysorlys yn gynharach eleni. 'Doedd yna neb yn y cyfarfod hwnnw i siarad ar ran y canoedd o filoedd o bobl nad ydynt yn berchnogion ceffylau, ond a fyddai'n elwa'n fawr petai'r cyswllt trenau yn cael ei uwchraddio.

Rwan mae'n greiddiol i unrhyw drefn ddemocrataidd lwyddiannus bod llywodraethu yn digwydd mewn modd sydd o fudd i'r boblogaeth yn gyffredinol yn hytrach nag er budd unigolion, neu grwpiau o unigolion. Yr egwyddor yma sydd y tu cefn i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mewn gwirionedd - mae'r ddeddf yn rhoi cyfle i ddinasyddion sicrhau bod y llywodraeth yn llywodraethu mewn modd priodol - ac nad ydyw yn llywodraethu er budd rhyw elit hunan etholedig neu'i gilydd.

Yn anffodus 'dydi'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ddim yn berthnasol i'r teulu brenhinol - felly mae'n amhosibl ei defnyddio er mwyn darganfod i ba raddau y mae'r teulu hwnnw yn defnyddio ei gysylltiadau gwleidyddol er ei fudd ei hun.

Mae lle i gredu bod cryn dipyn o lobio a dylanwadu yn digwydd gan ac ar ran y teulu. Mi fyddwn o bryd i'w gilydd - fel mae stori'r Sunday Times heddiw yn ei brofi - yn cael cip ar y lobio brenhinol. Ond ar hap mae hynny'n digwydd - fel rheol o ganlyniad i ymholiadau newyddiadurol, neu rhywun yn datgelu gwybodaeth i'r wasg neu i Wikileaks. 'Dydi'r darlun yr ydym yn cael cip arno ddim yn un hyfryd.

Er enghraifft mae sawl stori wedi ymddangos am Andrew yn ddiweddar, a'r defnydd mae wedi ei wneud o'i rol lled swyddogol yn hybu busnes Prydeinig – ei gyfeillgarwch efo troseddwr rhyw cyfoethog o’r enw Jeffrey Epstein, defnyddio taith swyddogol i geisio dod o hyd i brynwr i’w dy, mynd ar wyliau efo smyglwr arfau o Libya, gwledda ym Mhalas Buckingham efo aelod o weinyddiaeth unbeniaethol Tunisia, gadael i Timor Kulibayev, mab yng nghyfraith arlywydd Kazakhstan brynu ei dy am £3m mwy na’i werth ar y farchnad, taranu yn erbyn ymchwiliadau gwrth lygredd gan y llywodraeth ac ati.

Mae gan frawd Andrew, Charles amrywiaeth o gredoau rhyfedd, ac rydym yn gwybod ei fod yn gwneud cryn ddefnydd o'i gysylltiadau er mwyn hyrwyddo'r rheiny. Er enghraifft am rhyw reswm neu'i gilydd mae'n grediniol y dylid codi adeiladau modern yn unol ag arddulliau pensaerniol cyfnodau eraill. Mae hefyd o'r farn y dylid trin cancr gydag enemas coffi, a bydd yn sgwrsio efo'i nionod.

Rwan, mae gan pawb yr hawl i gredu pethau rhyfedd, ond nid pawb sydd mewn sefyllfa i hybu'r credoau hynny y tu allan i'r trefniadau arferol - mae Charles mewn sefyllfa felly, ac mae'n gwneud defnydd mynych o'i amgylchiadau a'i statws. Y stori fwyaf diweddar am ei ymyryd ydi'r un lle aeth ati i ddwyn perswad ar deulu brenhinol Qatar i beidio ag anrhydeddu cytundeb £34bn gyda CPC Group i ddatblygu safle yn Chelsea, oherwydd nad oedd yn or hoff o gynlluniau ei hen elyn Richard Rogers ar gyfer y datblygiad. Costiodd yr holl fusnes £81m i deulu brenhinol Qatar mewn iawndal i CPC.

Ac mae'r frenhines hithau yn ei thro yn 'boenus' ynglyn ag annibyniaeth posibl yr Alban, ac wedi mynnu cyfarfod efo David Cameron i drafod y posibilrwydd. Mae gan y ddynas fuddiant personol yn y mater - mae ganddi gryn dipyn o eiddo yn yr Alban - gan gynnwys 49,000 acer o dir ar ystad Balmoral.

Mae'n debyg mai copa'r mynydd ia (a benthyg idiom Saesneg) yn unig sy'n dod i'r amlwg yn y papurau - a bod statws cyfansoddiadol rhyfedd ac afresymegol y teulu yma yn cael ei ddefnyddio'n ddi drugaredd i hyrwyddo buddianau teuluol.

Yn y cyfamser mae'r BBC ac elfennau o'r wasg wedi treulio cryn dipyn o amser ac ynni tros y misoedd diwethaf yn canu clodydd pobl sy'n gweithredu'n rheolaidd, yn systematig ac yn ddirgel y tu allan i'r strwythurau mae'r rhan fwyaf ohonom yn gaeth iddynt, er mwyn hyrwyddo eu budd eu hunain ar draul rhai y gweddill ohonom.

1 comment:

Anonymous said...

Dwi'n deall pam nad ydy y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio am y frenhines; oherwydd fe fysai yn ei rhoi hi mewn sefyllfa anodd iawn petai barn gwleidyddol hi yn dod yn amlwg.

Ond, y joc ydy- tydy hi ddim i fod yn annibynnol? Ydio jest fi yntau o ni'n meddwl nad oedd hi i fod i ymyryd mewn unrhyw fath o gwleidyddiaeth? Os felly, dwi o'r farn y dylid y ddeddf gael ei ddefnyddio yn erbyn y hi; yna y bysa fo yn gurantee na fydd y teulu yn ymyryd mewn gwleidyddiaeth.

Ystyriwch pa mor di-ddemocrtatadd y bysa fo pebai e.e Ceid yn cael 48% o'r seddi a ryw fath o glymblaid gyda'r SNP hefo 49% o seddi yn San Steffan- be fysa'r ddynes "annibynol" yma yn ei wneud?

Dyna pam dwi'n meddwl bod cael brenin neu Arlywydd etholedig lot gwell; mae'n rhoi remit iddyn nhw fynd YCHYDIG i fewn i gwleidyddiaeth; ac os danim yn hoffi eu barn; cant ei lechio allan.