Sunday, June 26, 2011

Ydi Michael Gove wedi clywed am ymholiadau CRB?


Dydi blogmenai ddim yn siarad siop yn aml iawn, ond mae'n anodd peidio a gwneud hynny ar ol darllen sylwadau gweinidog addysg Lloegr, Michael Gove.

Mae'n ymddangos bod Mr Gove eisiau anfon rhieni i gymryd lle athrawon yn ystod y streic sydd i'w chynnal gan rai undebau ddydd Iau. Ydi'r dyn mewn gwirionedd eisiau caniatau i nifer sylweddol o oedolion fynd i ddosbarthiadau ar hyd a lled y DU, er na fydd y mwyafrif llethol ohonynt wedi eu clirio i weithio efo plant yn dilyn gwiriad CRB?

Ydi hi'n bosibl bod y dyn mor awyddus i wneud y streic yn aneffeithiol nes ei fod yn fodlon rhoi miloedd o blant mewn perygl?

2 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Yn union, mae be mae o'n awgrymu yn anghyfreithon, dwi wedi cael dau wiriad CRB o fewn mis, un i fod yn lywodraethwr ysgol ar llall i fod yn berson cofrestredig mewn Cylch Meithrin.

Photon said...

Ydi hyn oll gan y Toriaid yn syndod?