Monday, June 06, 2011

Newidiadau i ffiniau etholaethol Cymru

Mae Golwg 360 heddiw yn tynnu sylw at y goblygiadau i Gymru o astudiaeth y Guardian o'r hyn sy'n debygol o ddigwydd yn sgil y newidiadau yn ffiniau sydd ar y gweill ar gyfer etholaethau San Steffan.

Mae'r astudiaeth yn un ddiddorol, a digon treiddgar.Yn sicr mae egwyddorion yr ymchwil yn ymddangos yn eithaf rhesymol. Byddai dyn yn disgwyl i Lafur wneud yn well na neb arall yng Nghymru (i'r graddau eu bod yn colli canran is o'u seddi na Phlaid Cymru a'r Toriaid) ac i'r Toriaid wneud hynny tros y DU. Byddai dyn hefyd yn disgwyl i'r Lib Dems gael cryn glec cyn bod llawer o'u seddi nhw wedi eu hamgylchu gan rai Toriaidd. Mae unrhyw broses sydd yn arwain at lai o seddi yn debygol o ffafrio'r pleidiau mwyaf ar draul y rhai llai.

Ond, os ydym yn edrych ar bethau mewn cyd destun Cymreig, mae'n anodd bod yn sicr beth yn union fydd yn digwydd - the devil is in the detail chwadl y Sais. Mae yna ambell i ardal lle mae'n bosibl rhagweld yn fras gyda pheth hyder beth fydd yr effaith, ond mae'n fwy anodd darogan yn union beth fydd effaith y newid mewn ardaloedd eraill.

Er enghraifft gallwn dybio y bydd Sir Gar sydd efo dwy etholaeth a hanner ar hyn o bryd yn dychwelyd at ei phatrwm hanesyddol o ddwy etholaeth - y naill gyda thref Caerfyrddin yn ganolbwynt iddi, a'r llall wedi ei lleoli o gwmpas Llanelli. Mae union natur yr etholaethau yn dibynnu'n llwyr ar pa wardiau sy'n mynd i pa etholaeth - ac oherwydd hynny mae'n anodd dweud os mai mewn etholaeth Llafur neu Blaid Cymru y bydd Llanelli a Chaerfyrddin wedi 2015.

Mae'n anodd hefyd gweld sut y gellir ymestyn Mon heb gynnwys Bangor yn yr etholaeth newydd. Byddai hynny (mewn etholiad San Steffan o leiaf) o gymorth i Lafur ym Mon, ond byddai yn chwalu ei phleidlais yng ngweddill Gwynedd. Ond ni fyddai ychwanegu Bangor at Fon yn ddigon o bell ffordd i greu etholaeth o'r maint cywir. Byddai ffawd yr etholaeth yn ddibynnol ar pa wardiau eraill fyddai'n cael eu hychwanegu - mae mwyafrif llethol y gweddill yn pleidleisio i Blaid Cymru - rhai yn drwm iawn, rhai yn llai trwm. Byddai pob dim yn dibynnu ar pa wardiau yn union fyddai'n cael eu hychwanegu at yr etholaeth newydd.

Un peth sy'n sicr - 'does yna ddim ffordd o ychwanegu rhannau o Arfon at Fon heb ei gwneud yn amhosibl i'r Toriaid ennill. 'Does yna ddim rhan arwyddocaol o Arfon gyda mwy na thua 20% o'r bleidlais yn mynd i'r Toriaid, ac mae'r ffigyrau yn y rhan helyw o'r etholaeth yn is o lawer na hynny. 'Does yna ddim ffordd chwaith o wybod i ba raddau y byddai pobl yn pleidleisio am resymau daearyddol - gallai hynny yn hawdd ddigwydd mewn etholaeth sy'n cynnwys Mon a rhan o Wynedd.

'Does yna ddim digon o etholwyr i gael dwy etholaeth yn Sir Benfro, ond mae yna ormod ar gyfer un. Mae'n rhesymol felly cymryd y bydd rhan o ardal y Preseli yn mynd yn ol at Sir Geredigion. Unwaith eto mae'n anodd dweud pa effaith gaiff hynny - cymharol ychydig o bleidleisiau Lib Dem a Phlaid Cymru oedd yn y Preseli y llynedd, ond ychydig o rai Llafur a Cheidwadol oedd yn Sir Geredigion. Mae'n debyg bod yna gryn dipyn o bleidleisio tactegol yn y ddwy etholaeth ar hyn o bryd - byddai canfyddiad bod gan pob un o'r pleidiau rhyw fath o obaith yn lleihau'r duedd i bleidleisio'n dactegol, a gellir yn hawdd dychmygu newid sylweddol ym mhatrymau pleidleisio yn yr etholaeth newydd.

Mae yna ambell i ardal lle mae pethau'n ymddangos yn dwtiach. Byddwn yn tybio y bydd Caerdydd yn colli un etholaeth (o'i phedair) ac y bydd ardal Penarth o etholaeth De Caerdydd yn mynd at Fro Morgannwg - ei gartref naturiol, ac y byddai ambell i ardal arall ar gyrion y ddinas yn cael eu colli. Wedyn byddai'n rhaid addasu ffiniau etholaethau Caerdydd i gael tair etholaeth gyfartal. Mae'n debyg y byddai trefniant felly yn cryfhau Llafur yng Nghaerdydd, ond yn gwneud pethau'n haws i'r Toriaid ym Mro Morgannwg.

Felly tra bod yr ymarferiad yn un digon diddorol, mae'n anodd darogan yr union effaith yn y rhan fwyaf o Gymru - hyd y byddwn yn gweld y manylion - ym mis Medi mae'n debyg.

4 comments:

Anonymous said...

Mae nhw'n edrych ar Gymru fel canfas wag, gan ddi-ystyru pob ffin daearyddol a hanesyddol. Yr unig ystyriaeth fydd yn dwyn dylawnad ar y penderfyniad ieithyddol yw'r un ieithyddol, yn ol yr awdurdodau sy'n trefnu hyn. Felly bydd yna dueddiad i gadw wardiau Cymraeg eu hiaith gyda wardiau eraill Cymraeg eu hiaith wrth lunio'r etholaethau newydd.

Cai Larsen said...

Mabon - mae'r ystyriaeth ieithyddol yn newydd i mi - wyt ti'n siwr am hyn? - byddai'n ffactor allweddol mewn rhai ardaloedd.

Anonymous said...

Ydi mae Mabon yn gywir (neu o leiaf, dyna fy nealltwriaeth i hefyd.) O ran yr adroddiad gan Democratic Audit fu'n sail i'r gwahanol sylwadau yn y wasg ddoe: ti'n llygad dy le bM. Y manylion fydd yn cyfrif a dim ond dyfalu mae Lewis Baston a'i fets ar hyn o bryd.

Anonymous said...

Ydw, rwy'n eithaf siwr Cai. Wn i ddim os yw'r wybodaeth yma ar y we chwaith.