Oes yna unrhyw un oni bai amdanaf i yn anghyfforddus ynglyn a'r ffordd mae Bib yn trin yr ACau hynny wnaeth gadw draw o'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw?
Er enghraifft, pan roedd Gareth Glyn yn holi Bethan Jenkins ar Post Prynhawn heddiw, roedd dwy ragdybiaeth y tu ol i'w holi mewn gwirionedd - bod Ms Jenkins yn ceisio tynnu sylw ati hi ei hun, ac na ddylai gweriniaethwraig fod wedi tyngu llw i'r frenhines wrth gael ei derbyn i'r Cynulliad. Mae awgrymiadau o ragrith ac o chwilio am sylw yn rhai digon personol ac annifyr - rhai na fydd yn codi eu pennau ar Post Prynhawn yn aml iawn.
Rwan mae'r rhagdybiaethau hyn yn rhagfarnau mewn gwirionedd - ac yn rhai digon gwirion ar hynny. Gallai Gareth gyfeirio'r cwestiwn o hunan gyhoeddusrwydd at lawer iawn o bobl sy'n ymddangos ar ei raglen. Cyn ymddangos ar Post Prynhawn mae pobl fel rheol wedi gwneud rhywbeth neu'i gilydd sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd. Hwyrach y dylai Gareth groesawu pawb mae'n ei holi trwy ofyn os mai chwilio am gyhoeddusrwydd personol oeddynt tra'n gwneud beth bynnag roeddynt wedi ei wneud i Gareth fod eisiau eu holi nhw.
Mae tyngu llw i'r frenhines yn rhywbeth sy'n cael ei orfodi ar bron i bawb sydd eisiau bod yn wleidydd proffesiynol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. 'Dydi'r ffaith bod rhywun wedi tyngu llw o dan amgylchiadau felly ddim yn golygu y dylai'r person hwnnw sicrhau ei fod yn ymbresenoli ei hun pob tro mae'r frenhines yn ymddangos. 'Dydi o ddim chwaith yn dystiolaeth bod ganddyn nhw safonau dwbl.
Ymhlyg yn yr awgrym bod Bethan Jenkins yn y joban anghywir os nad ydi hi'n fodlon mynegi teyrngarwch i'r frenhines mae cred digon anymunol bod rhai credoau ynglyn a threfniant gyfansoddiadol y DU yn amddifadu'r sawl sy'n eu harddel o'r hawl i wleidydda yn broffesiynol.
Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol mai corff sefydliadol ydi'r Bib yn ei hanfod - a bod amddiffyn sefydliadau eraill yn dod mor naturiol i'r gorfforaeth nag ydi anadlu. 'Dwi'n meddwl bod cyfweliad bach annifyr Gareth Glyn yn tanlinellu'r pwynt hwnnw.
11 comments:
Mae'n rhaid i mi ddweud fod holl darpariaeth newyddion BBC 'Cymru' wedi bod yn sobor o sâl dros y misoedd diwetha.
Stori am geffyl roedd y Cwin yn rho bet arni y diwrnod o'r blaen; stori am ffrog Kate Middleton ddoe (mis wedi'r blincin priodas). Agwedd nawddoglyd at bobl o egwyddor.
Mae'n bryder mawr i mi fod y criw yma yn cymryd drosodd S4C. Mae'n amlwg fod cyfarwyddid ar lafar, yn ysgrifenedig, neu fod sonia Nick Cohen yn rhifyn cyfredol Prospect magazine o ran diwylliant y lle, i hyrwyddo Prydeindod.
Mae'n afiach a dweud y gwir. Mae'n rhaid cyfadde 'mod i braidd yn darllen gwefan newyddion BBC Cymru bellach. Yr unig beth o'i plaid yw fod clipiau teledu arni. Ond mae'n llesg a diflas. Mae Vaughan Roderick wedi rhoi'r gorau i blogio. Mae Golwg360 llawer mwy bwyiog.
Mae'r ffaith fod neb yn gadael sylwadau ar wefan BBC Cymru yn dangos nad yw pobl yn trystio'r BBC i beidio defnyddio eu henwau a'i ddefnyddio yn eu herbyn.
Petawn i'n olygydd yno fyddai'r ffaith syml honno yn dechrau canu clychau yn fy mhen. Dydy pobl ddim yn trystio'r BBC - mae'n rhan o'r sefydliad ac mae'r sefydliad yn dechrau dangos pwy yw'r bos. Get in line Taff!
Cytuno gyda llawer iawn o sylwadau Anon. Beth sy wedi digwydd i,r BBC?
ie wir, lle aeth Vaughan? siawns fod na storiau angen sylw?!
Be 'dach chin feddwl o:
http://druidsrevenge.blogspot.com/2011/06/what-plaids-assembly-opening-boycott.html
Mae'n rhaid i mi ddweud, dwi'n cytuno efo be mae Blog Menai'n ddweud (fel arfer..!), ond dwi'n amau bod gan Paul ambell bwynt ddigon teg.
"Furthermore many of the party's stated policies actually make Welsh Independence less rather than more attainable. A party which was serious about seeking further devolution from the UK (as exemplified by the SNP in Scotland) would surely seek to pragmatically boost the private sector whist at the same time creating a lean, mean Welsh public sector which could be adequately funded with taxation raised within Wales's borders alone. Instead Plaid Cymru advocates ever more regulation of the struggling Welsh private sector whilst at the same time building an ever larger Welsh public sector, all funded by ever larger block grants from Westminster. "
Dydw i ddim yn cytuno efo'r rhan fwyaf o sylwadau Paul - ond does gen i ddim amser i fynd ar ei ol heno. 'Fory efallai.
"ambell bwynt ddigon teg" nes i ddeud. Dwi'm yn cytuno efo pob dim o bell ffordd chwaith!
Cytuno gyda anon 100%--beth sydd wedi digwydd i newyddion Cymru--dim byd ond hanes brenhines Lloegr a'i theulu yn ddiweddar neu hanesion Prydeinig.Roedd safiad yr AC y Blaid i'w cymeradwyo--Llyr Huws Gruffydd ddylai fod yn arweinydd nesa'r Blaid--mae'n siaradwr gwych ac mae o'n weriniaethwr.
Thank you for the good writeup. It in fact was a amusement account it.
Look advanced to far added agreeable from you!
However, how could we communicate?
My blog kohlenhydrate liste
My webpage: glutenfreies brot rezept
I'm truly enjoying the design and layout of your site. It's a very easy
on the eyes which makes it much more enjoyable for me to come
here and visit more often. Did you hire out a designer to
create your theme? Excellent work!
my webpage ... bilanzbuchhalter international ihk münchen
Good day! I could have sworn I've been to this blog before but after going through some of the articles I realized it's new to me.
Regardless, I'm certainly pleased I discovered it and I'll
be bookmarking it and checking back frequently!
Also visit my blog ... beste Thai Massage Wiesbaden
Hello there! I could have sworn I've been to this website before but after browsing through a few of the posts I realized it's new to me.
Anyways, I'm certainly happy I stumbled upon it and I'll be bookmarking it
and checking back often!
Also visit my site - low carb diät obst
Post a Comment