Monday, June 20, 2011

Melinau gwynt Carwyn Jones

Hmm - felly mae Carwyn Jones yn meddwl ei bod yn annealladwy nad ydi penderfyniadau ynglyn a chynlluniau sy'n arwain at gynhyrchu mwy na 50 megawatt y diwrnod yn nwylo'r Cynulliad.


Efallai ei fod - ond mi gafodd plaid Carwyn dair blynedd ar ddeg i ddelio efo'r sefyllfa annealladwy yma, ond dewiswyd peidio a gwneud hynny. Dewiswyd hefyd beidio a mynd i'r afael a'r tan wariant ar Gymru o £300m y flwyddyn - er bod bron i flwyddyn rhwng cyhoeddi adroddiad Gerry Holtham a'r etholiad cyffredinol. Mae'n ymddangos bod Carwyn yn ystyried hynny'n fater o bwys mawr bellach hefyd.



Mae datganoli pwerau tros godi melinau gwynt, peilons ac ati yn berffaith o safbwynt y Blaid Lafur Gymreig - mae'n rhoi grym iddynt tros faterion ymddangosiadol 'fawr' a gweladwy ac mae'n cynnig manteision tactegol iddynt o safbwynt gwleidyddol (gallant gymryd penderfyniadau 'poblogaidd', heb wynebu ystyriaethau rhy anodd - nid eu cyfrifoldeb nhw fydd sicrhau bod digon o ynni yn cyrraedd y Grid Cenedlaethol).

Yn bwysicach mae'n rhoi'r cam argraff eu bod yn cadw i fyny efo'r Salmonds a'r Robinsons o ran dangos uchelgais i reoli agweddau pwysig ar ein bywyd cenedlaethol. Mewn gwirionedd gofyn am rym heb lawer o gyfrifoldeb maent.

Byddai gofyn am bwerau i drethu yn fater cwbl wahanol wrth gwrs - byddai pwerau felly yn gorfodi'r llywodraeth i dderbyn cyfrifoldeb yn ogystal a grym. Ond dydi hynny ddim am ddigwydd - grym heb rhyw lawer o gyfrifoldeb ydi'r hyn mae'r Blaid Lafur Gymreig ei eisiau. Ac yn y pen draw nid grym go iawn ydi hynny.

Beth sy'n fwy nodweddiadol o'r Blaid Lafur Gymreig na throi llywodraethiant Cymru yn gem bach anaeddfed o hel pwerau er mwyn cael manteision etholiadol a hanner ymarfer grym? Mae'r stori yn crisialu'n dwt yr hyn ydi'r Blaid Lafur Gymreig.

7 comments:

Anonymous said...

Pam nag yw nhw'n cael amser caletach gyda'r cyfryngau fel Vaughan Roderick a Betsan Powys de hy BBC Cymru/Wales. Na....mae nhw'n rhy brysur yn rhedeg ar ol storiau megis absenoldeb IWJ o'r agoriad brenhinol o'r Cynulliad.

Cai Larsen said...

Mae'r Bib yng Nghymru yn ei chael yn anodd beirniadu cyd golofnau sefydliadol. Dyna pam eu bod ar delerau mor dda efo'r RFU, y frenhiniaeth a'r Blaid Lafur Gymreig.

Rydym wedi son am hyn yn y gorffennol. Efallai ei bod yn bryd i ddychwelyd at y thema.

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n amau rhywsut na thrïodd Carwyn yn rhy galed i gael y pwerau ychwanegol dros ynni. Dyma'r ganlyniad delfrydol iddo. Mae'r canlyniad yn taflu'r bai am ddatblygiadau ynni yn ardal Rhyddfrydol / Geidwadol Sir Drefaldwyn yn gyfleus oddi wrth Llafur yn y Cynulliad i'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Sansteffan. Proc bach budur yn llygaid Glyn Davies.

Cai Larsen said...

Mi'r oedd o'n ennill y naill ffordd neu'r llall Alwyn.

Anonymous said...

Rwy'n cofio dwi'n meddwl Don Touhig yn dweud fod Plaid Cymru yn rhedeg cylchoedd o gwmpas Llafur. Chi'n cofio hynny. Mewn gwirionedd, mae Llafur yn rhedeg cylchoedd o gwmpas pawb sy'n drist iawn. Wrth gwrs, mae nhw'n cale rhwydd hyn i wneud hyn gan y BBC yng Nghymru.

Anonymous said...

Ymhellach.....

Nid oedd geiriau Touhig yn rhai'r oedd yn ei gredu mewn gwirionedd rwy'n sicr. Rhaid ail ddyfalu pob-peth mae nhw'n dweud. Pob-peth!!

Anonymous said...

Stori neithiw wir oedd 'U-Turn arall gan Carwyn Jones' gan ei fod yn mynd yn erbyn maniffesto ei Blaid a Deddf Cymru 2006 (deddf Peter Hain a Llafur) gan alw am ddatganoli ynni.

Dyna'r stori.

Ond na, stori Iolo ap Dafydd a'r BBC oedd fod Carwyn yn sefyll dros Gymru. Dim am U-turn, dim am fod yn anghywir jyst dros fis yn ôl, dim am pam na waneth Llafur ddatganoli'r grym yma pan oeddent mewn pwer?

Iolo ap Dafydd, Vaughan Roderick a Betsan Powys yn dilyn Spin y Blaid Lafur.