Thursday, June 16, 2011

Gwersi oddi wrthi y Blaid Lafur Wyddelig

Mi fydd blogmenai yn cymharu weithiau rhwng gwleidyddiaeth Iwerddon a gwleidyddiaeth Cymru. Gan fod gwleidyddiaeth y ddwy wlad mor wahanol mae yna ben draw i'r hyn y gellir ei ddysgu o gymharu, ond mae'r ymarferiad yn gallu bod yn un digon diddorol serch hynny - ac yn achos y blogiad yma (ac ambell un arall) mae yna gymhariaeth digon addas i'w gwneud hefyd.

Fy mwriad ydi cychwyn trwy edrych ar ddamcaniaeth sy'n dipyn o wireb yng Nghymru - mai'r blaid leiaf sydd pob amser yn dioddef yn etholiadol wedi clymbleidio, a'r un fwyaf sy'n elwa - ac edrych os ydi hyn yn wir yn hanes diweddar Iwerddon - mae clymbleidio yn gyffredin yn yr Iwerddon wrth gwrs. Mi fyddwn yn edrych ar hynt etholiadaol pleidiau llywodraethol yn syth wedi iddynt glymbleidio. Wnawn ni ddim mentro yn ol cyn yr Ail Ryfel Byd - mae pethau braidd rhy gymhleth yn y blynyddoedd hynny.

Y llywodraeth glymbleidiol cyntaf wedi'r rhyfel oedd un John A Costello yn 1948, ac roedd pedair plaid yn perthyn i'r glymblaid yma - Fine Gael, Llafur, Clann na Talmhan, Clann na Poblachta a'r National Labour Party. Yn yr etholiad nesaf ym 1951 aeth pleidlais Fine Gael i fyny o 19.8% i 25.8%, aeth pleidlais Llafur o 11.3% i 11.4%, syrthiodd pleidlais Clann na Talmhan o 5.5% i 2.9%, ail ymunodd yr NLP efo Llafur a syrthiodd pleidlais Clann na Poblachta o 13.3% i 4.1%.

Cafwyd clymblaid arall yn dilyn etholiad 1954, a chafodd yr etholwyr y cyfle i ddweud ei dweud am honno ym 1957. Fine Gael, Llafur a Clann na Talmhan oedd y partneriaid y tro hwnnw. Cwympodd pleidlais Fine Gael o 32% i 26.6%, syrthiodd un Llafur o 12.1% i 9.1% a syrthiodd un Clann na Talmhan o 2.4% i 1,5%.

Ni chafwyd clymblaid arall hyd 1973, a Llafur a Fine Gael yn unig oedd yn rhan o honno. Collodd y ddwy blaid gryn dipyn o bleidleisau yn etholiad 1977 gyda Fine Gael yn cwympo o 35.1% i 30.6% a Llafur yn mynd o 13.7% i 11.6%.

Cafwyd llywodraeth fyrhoedlog Llafur a Fine Gael ym 1981, ond doedd yna ddim newid mawr yn eu perfformiad erbyn 1982 gyda Fine Gael yn codi o 36.5 i 37.1 a Llafur yn syrthio o 9.9% i 9.1%. Doedd yna ddim newid yn nifer seddi y naill blaid na'r llall gyda llaw.

Yn anarferol i'r Iwerddon cafwyd llywodraeth nad oedd yn cynnwys Fianna Fail yn parhau am bum mlynedd llawn o 1982 hyd 1987. Clymblaid Llafur a Fine Gael oedd hon eto. Syrthiodd pleidlais y ddwy blaid yn sylweddol iawn y tro hwn gyda Fine Gael yn mynd o 39.2% i 27.1% a Llafur yn syrthio o 9.4% i 6.5%.

Aeth Llafur i ddwy glymblaid rhwng 1992 a 1997 - y tro cyntaf efo Fianna Fail, a'r ail dro efo'r Democratic Left a Fine Gael. Syrthiodd ei phleidlais fel carreg ym 1997 - o 19.5% i 10.4%. Cododd pleidlais Fine Gael o 24.4% i 27.9%, ac ychydig o newid fu ym mhleidlais y ddwy blaid arall.

Cafwyd dwy glymblaid PDs a Fianna Fail wedyn o 1997 i 2002 ac o 2002 i 2007. Cynyddu mymryn wnaeth pleidlais FF yn 2002 (39.3% i 41.5%). Syrthiodd pleidlais y PDs o 4.7% i 4% - ond dwblwyd eu seddi o 4 i 8. Aros yn ei hunfan wnaeth pleidlais Fianna Fail yn 2007 ond syrthiodd un y PDs i 2.7%.

Clymblaid Fianna Fail, Gwyrdd a PD gafwyd o 2007 i 2011 ac fe chwalwyd pleidlais pob un o bleidiau'r glymblaid yn sgil y llanast economaidd - FF o 41.5% i 17.4%, y Blaid Werdd o 4.6% i 1.8% ac ni thrafferthodd y PDs i sefyll.

Rwan mae'r patrwn yma'n gymhleth. Mae cydadrannau lleiaf y clymbleidiau yn tueddu i golli llawer o bleidleisiau - ond mae pleidiau bach yn tueddu i golli pleidleisiau ym mhob etholiad yn yr Iwerddon beth bynnag. Mae yna batrwm mewn gwleidyddiaeth Gwyddelig lle ceir pleidiau newydd yn ymddangos, yn gwneud yn dda am ychydig flynyddoedd ac yna yn colli pleidleisiau etholiad ar ol etholiad, ac yn y diwedd yn marw.

O ran y ddwy blaid fawr does yna ddim patrwm - maent yn elwa o glymbleidio weithiau, tra'n dioddef dro arall. O ran Llafur serch hynny mae yna batrwm pendant o golli pleidleisiau ar ol clymbleidio - ond hyd yn oed pan nad ydynt mewn llywodraeth am gyfnodau maith, nid ydynt yn llwyddo i dorri allan o'r rhychwant 10% i 20%. Dyna ydi eu norm hanesyddol - ac nid ydynt yn ymddangos i fod gyda'r gallu symud oddi yno - clymblaid neu beidio.

A daw hyn a ni yn ol at Gymru, a Phlaid Cymru. Fel y Blaid Lafur Wyddelig, mae'r Blaid yn sownd mewn rhychwant gweddol gul o ran cefnogaeth etholiadol - er bod amrediad y Blaid wedi cynyddu ers dyfodiad datganoli, ac er iddi ddangos ei bod yn bosibl iddi dorri allan o'r amrediad hwnnw yn 1999. Fel y Blaid Lafur Wyddelig mae'n cael trafferth apelio at garfannau sylweddol o etholwyr. Mae'r Blaid yn cael trafferth efo elfennau arwyddocaol o'r Gymru ddi Gymraeg - yn arbennig yn y dinasoedd, ar hyd y gororau ac ar hyd arfordir deheol y wlad. Ni all y Blaid Lafur Wyddelig gysylltu efo pobl sy'n byw y tu allan i drefi a dinasoedd, efo pobl sy'n byw yn agos at y ffin, nag efo elfennau o'r dosbarth gweithiol trefol hyd yn oed. Mae ei delwedd ol genedlaetholgar yn broblem sylweddol i lawer iawn o bobl dosbarth gweithiol.

Rwan 'dydi'r Blaid Lafur heb newid i ddelio gyda'i phroblemau etholiadol, ond mae wedi llwyddo i fod mewn llywodraeth am gyfnodau rhesymol, ac wedi llwyddo i wireddu rhai o'i delfrydau rhyddfrydig yn sgil hynny. 'Dydi hi heb addasu llawer, ond mae wedi dylanwadu ar sut wlad ydi Iwerddon.

Hyd y gwelaf i mae gan y Blaid ddau ddewis - efelychu Llafur Iwerddon a pharhau yn ffyddlon i'r hyn ydyw, tra'n bachu ar pob cyfle i reoli er mwyn gwneud y wlad yn fwy tebyg iddi hi ei hun ydi un dewis. Newid mewn modd radicalaidd sy'n gwneud y Blaid yn fwy tebyg i'r Gymru gyfoes ydi'r llall. Byddai hyn yn ehangu'r potensial am gefnogaeth yn sylweddol,
byddai hefyd yn hynod o anghyfforddus i lawer o'i chefnogwyr traddodiadol. 'Dydi hynny ddim o anghenrhaid yn golygu na ddylid clymbleidio - ond 'does yna ddim rheidrwydd i wneud hynny os mai dyma'r dewis.

Ond yr hyn sy'n sicr ydi nad ydi gwrthod newid a hefyd peidio a chymryd mantais o gyfleoedd i reoli yn opsiwn. Byddai'r dewis yma yn caniatau i'n gelynion gwleidyddol newid y wlad yn raddol ar eu llun a'u delwedd eu hunain tra'r ydym ninnau'n aros yn yr unfan - yn mynd yn llai a llai tebyg i'r etholwyr yr ydym yn ceisio apelio atynt, ac yn mynd yn raddol fwy a mwy amherthnasol.


No comments: