Wednesday, June 01, 2011

Cymdeithas yr Iaith, Bwrdd yr Iaith a ffrae Rockfield a Cross Ash

Mae'r ffrae fach rhwng y Bwrdd Iaith a Chymdeithas yr Iaith yn codi cwestiynau digon diddorol.

Asgwrn y gynnen ydi penderfyniad cynghorau plwyf pentrefi Rockfield a Cross Ash ym Mynwy i ddileu'r enwau Cymraeg arnynt ar y sail i'r rheiny gael eu cyflwyno yn ddiweddar ac nad oes yna ddefnydd wedi ei wneud ohonynt yn hanesyddol. Mae Bwrdd yr Iaith yn derbyn y rhesymeg tra bod Cymdeithas yr Iaith yn meddwl bod y penderfyniadau yn gosod cynsail peryglus - ac hynny yng nghyd destun y ffaith bod arwyddion ffordd yng Nghymru yn ddwyieithog.

Rwan mae'n ymddangos i mi yn gwbl amlwg mai Bwrdd yr Iaith sydd yn gywir yma - os ydym yn cymryd mai statws y Gymraeg ydi'r peth pwysig. Mae mwyafrif llethol enwau lleoedd yng Nghymru yn enwau Cymraeg. Y cynsail gwirioneddol beryglus ydi'r un mae Cymdeithas yr Iaith yn ei gefnogi - sef ei bod yn iawn i boetian efo enwau llefydd yn enw dwyieithrwydd. Mae gan y Gymraeg lawer iawn mwy i'w golli os ydym yn derbyn newid enwau lleoedd yn enw dwyieithrwydd.

Ydi'r Gymdeithas o ddifri eisiau gweld Cwmey ar yr un arwydd a Cwm y Glo, The Rivals efo'r Eifl a Dingle Dingle efo Dinas Dinlle?

2 comments:

Blog Banw said...

Rwyt yn annheg iawn dy feirniadaeth fan hyn ar Gymdeithas yr Iaith mae arnaf ofn. Yr nad yw Cymdeithas yr iaith yn cefnogi yw tanseilio enw sydd a sylfaen hanesyddol a defnyddiwyd sef Llanoronwy. Mae'n wir i ddweud bod Rockfield yn fwy cyffredin, ond mae mapiau ordinans o 20 mlynedd yn ól cyn bodolaeth y bwrdd hyd yn ód yn galw'r pentre yn Llanoronwy, cyn unrhyw fodolaeth o arwyddion ddwyieithog hefyd. Wedyn yn achos Rockfield mae na gynsail hanesyddol i'r enw. Cross Ash yn fater hollol wahanol a chytunaf. Byddai fel galw Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin yn Groeslaw neu rywbeth felly.

Yr hyn mae'r Gymdeithas yn grac amdano ydy'r amrwy gwyn o hyd ac o hyd parthed enwau megis Llandovery yn lle Llanymddyfri, Carmarthen yn lle Caerfyrddin. Caerphilly a Chaerffili, Loughour a Llwchwr. Brynamman double m yn hytrach na Brynaman un M. Nawr mae rhain i gyd yn enwau Cymraeg sydd wedi cael eu bastardeiddio ac wedyn bod yn destun trafod ers amser maith, nawr pe byddai asgwrn cefn gyda Bwrdd yr iaith Gymraeg i warchod y Cymunedau Cymraeg byddai'n unfrydol yn gosod pwysau ar yr awdurdodau lleol i ond defnyddio'r fersiynau Cymraeg cywir yn siroedd megis Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. (Maent yn dweud taw felly y mae'r polisi ond nid yw'n wir) wedyn angen balans a thegwch ar y naill ochr, a dwi'n teimlo nad wyt wedi hwyluso ochr hynny i'r ddadl fan hyn, pam un rheol i Sir Fynwy Di Gymraeg ond yna i'r Sir Gaerfyrddin Gymraeg nad yw'n bosib cael enw Cymraeg yn unig ar dref megis Llanymddyfri? Dyna beth mae'r Gymdeithas yn gwrthwynebu.

Cai Larsen said...

Mynd ar adroddiad Golwg ydw i - wele - http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/39690-pentrefi-sir-fynwy-yn-dileu-enwau-cymraeg.

'Does yna ddim awgrym yn hwnnw fod Bethan Williams yn gwahaniaethu rhwng y naill enw na'r llall.

Mi fyddwn yn cytuno am y gweddill - does yna ddim esgys am enwau fel Llandovery.