Thursday, June 09, 2011

Storm ffug y cyfryngau a gwers 1969 / 1970

Mae gen i gryn barch at grebwyll gwleidyddol Vaughan, ond 'dwi'n meddwl ei fod yn gwneud gormod o effaith absenoldeb Ieuan Wyn Jones o'r brenhinol ddigwyddiad y diwrnod o'r blaen - mi fyddwn yn meddwl bod Dylan Iorwerth yn nes ati pan mae'n awgrymu bod absenoldeb Ieuan o waith go iawn y Cynulliad yn fwy o broblem.

Efallai y byddai cymryd cip yn ol ar ddigwyddiad brenhinol arall yng Nghymru yn helpu dangos pam na ddylid cymryd y rhuo, y myllio a'r tantro ar y radio, yn y papurau ac ar negesfyrddau gormod o ddifri.

'Dwi'n byw yng Nghaernarfon, a 'dwi wedi byw yn y dref neu yn agos ati trwy gydol fy mywyd - ar wahan i gyfnod coleg a blwyddyn yng Nghaerdydd. Mae gen i gof plentyn o'r ffraeo ddaeth yn sgil yr arwisgiad yn ol yn 1969 - er mai'r awyrgylch anymunol a'r anghytuno rhwng cymdogion rwyf yn ei gofio yn hytrach na'r manylion am y digwyddiad ei hun a'r hw ha yn yr wythnosau oedd yn arwain ato.

Flynyddoedd wedyn y deuthym yn ymwybodol o natur yr hysteria yn y wasg - a'r casineb oedd yn cael ei gyfeirio tuag at y sawl oedd yn gwrthwynebu'r jambori. Mi dreuliais flwyddyn yng nghanol yr wythdegau yn gweithio yn Archifdy Gwynedd ar yr hyn a elwid bryd hynny yn gynllun creu gwaith. Roedd y joban fach yn un ddifyr iawn, ond fel sy'n gyffredin efo gwaith sydd wedi ei greu i gael pobl oddi ar y dol, doedd pob dydd ddim yn brysur - o bell ffordd. Felly roedd digon o amser gennyf i edrych ar ddeunydd oedd o ddiddordeb personol i mi yn y strongrooms ar loriau uchaf yr adeilad sy'n gartrefi i gasgliadau'r cyngor o ddogfennau hanesyddol.

Mae yna ystafell sydd a chasgliad di ail o bapurau lleol sy'n mynd dyn yn ol ardal Caernarfon mewn cyfnodau eraill. Mi dreuliais i un prynhawn yn edrych ar bapurau lleol o gyfnod yr arwisgiad - ac fe'm rhyfeddwyd at y casineb a fynegwyd yn y colofnau llythyrau a'r adrannau golygyddol tuag at y sawl nad oeddynt yn croesawu'r digwyddiad. Rwan, dwi ddim cofio os oedd y Blaid ar y pryd yn cymryd safbwynt benodol ar y mater - ond roedd pawb yn lleol yn gwybod mai aelodau'r Blaid oedd y rhan fwyaf o'r gwrthwynebwyr - ac roedd y llythyrwyr a'r newyddiadurwyr yn gwbl glir ynglyn a phwy oedd i'w beio am ddod a 'chywilydd ar yr ardal'. 'Dwi'n cofio yn arbennig o dda erthygl olygyddol yn y Caernarvon & Denbigh oedd yn dod yn agos at orchymyn y darllenwyr i ddial ar y Blaid yn yr etholiad cyffredinol a ddisgwylwyd y flwyddyn ganlynol.

Ac wrth gwrs fe ddaeth yr etholiad honno yn ei thro - a daeth a gogwydd sylweddol tuag at y Blaid yn etholaeth Caernarfon yn ei sgil - 6,834 (21.7%) oedd y bleidlais yn 1966 - roedd yn 11,331 (33.4%) erbyn 1970. Erbyn 1974 byddai'r Blaid wedi cipio'r sedd, ac yn y degawdau canlynol daeth i ddominyddu gwleidyddiaeth yr ardal.

Rwan, ni allaf brofi bod perthynas rhwng y cynnydd ym mhleidlais y Blaid a'r arwisgiad - ond mae'n anodd dadlau bod canfyddiad bod y Blaid yn wrth frenhinol wedi gwneud llawer o ddrwgi'r achos. Efallai i ddigwyddiadau 69 godi proffil cenedlaetholdeb Cymreig, a rhoi tir gwyrdd rhwng y Blaid a'r pleidiau unoliaethol - sefyllfa a allai'n hawdd fod yn llesol heddiw.

Y gwir amdani ydi hyn - mae yna leiafrif o bobl sydd efo ymlyniad crefyddol bron tuag at y frenhiniaeth, ac maen nhw o dan yr argraff ei bod yn ddyletswydd ar bawb i gytuno efo'u barn ar y mater. Pan mae rhywun neu'i gilydd yn cicio'n rhy galed yn erbyn eu tresi mae'r ymateb yn aml yn ffyrnig, swnllyd a hysteraidd. 'Dydi hynny ddim yn golygu bod yna lawer o bobl yn rhannu eu hobsesiwn. Yn bersonol fedra i ddim meddwl am fawr neb sydd a llawer o ddiddordeb mewn materion brenhinol.

Difaterwch ydi prif nodwedd agwedd y rhan fwyaf o bobl at y teulu brenhinol heddiw - a 'doedd pethau ddim mor wahanol a hynny yn 69. Dyna pam mai ychydig iawn o bobl drafferthodd fynd i'r Bae i weld y pedwarawd brenhinol yr wythnos yma, a dyna pam bod y parciau ceir dros dro anferth oedd wedi eu hagor o gwmpas tref Caernarfon yn 69 yn dri chwarter gwag.

9 comments:

Anonymous said...

Mae Vaughan yn gwybod yn iawn beth mae e'n gwneud ac mae e'n gwybod nad yw hwn yn stori far ar y stryd ac yn y dafarn. Mae'n gweithio i'r BBC ac yn ennill cyflog gall y rhan fwyaf ohonom jysd freuddwydio amdano. Llais y sefydliad yw'r BBC ac mae'r frenhiniaeth yn gonglfaen i'r sefydliad Prydeinig. Mae Vaughan yn gwybod yn iawn pa ochr mae'r menyn are ei darn swmpus o far (hynna'n gwneud synwyr?) fel ag y mae Huw Edwards, Mal Pope, J Mohammed a llu arall o'r rhai o'r Bib aeth dros ben llestri yn ddiweddar gyda'r frenhinieath.

maen_tramgwydd said...

Di-enw 1.06

'Llais y sefydliad yw'r BBC ac mae'r frenhiniaeth yn gonglfaen i'r sefydliad Prydeinig'

Yn hollol!

Anonymous said...

"Mae gen i gryn barch at grebwyll gwleidyddol Vaughan,......."

Mae'n amlwg dy fod eisiau cadw ei gap e'n gywir.

Anonymous said...

Mae llawer yn cael ei wneud o ail dy Ieuan Wyn Jones yn Ffrainc. Oes ganddo ail dy yno? Oes yna broblem i'r bobl leol yno i brynu tai? Os mae 'oes' yw'r ateb dyma gwestiwn arall. Ydyw hi'n ddoeth i aelod o Blaid Cymru brynu ail dy yn enwedig mewn gwlad arall? Beth wyt ti'n meddwl? Yn bersonnol rwy'n gobeithio na fod ganddo ail dy ond nid yw gwleidyddion yn aml yn byw ar yr un planed a paw arall felly nid oes gennyf lawer o ffydd.

Anonymous said...

Dwi'n meddwl os da chi'n gweithio i'r beeb rhaid bigio fyny'r frenhiniaeth.

Nes i edrych ar rhaglen BBC One gyda Jamie Owens am yr agoriad pan nath o son am "big crowd here to see the queen".

Yna troi i S4C lle roedd na llun panorama o'r bae- bron neb yno. Mwy o bobol yno yn protestio am pylons- deud y cyfan. Ond pam nath y beeb ddim jest deud "dissapointing crowds here to see the queen"????

Anonymous said...

Meddai rhywun wrth ymateb i flogiad blaenorol ar FlogMenai:

"Mae'n amlwg fod cyfarwyddid ar lafar, yn ysgrifenedig, neu fod sonia Nick Cohen yn rhifyn cyfredol Prospect magazine o ran diwylliant y lle, i hyrwyddo Prydeindod."

Cytunaf 100%! Mae nhw i gyd wrthi. Rhaid eu bod nhw i gyd yn gobeithio cael gong.

Anonymous said...

http://www.dailymail.co.uk/money/article-2002257/Bankers-favour-Bank-England-governor-Mervyn-King-gets-OBE.html

Fel y dywedais.....conglfain y sefydliad. :-))

Anonymous said...

Methaist ag ymateb gyfaill. Rwyt ti dy hun erbyn hyn yn rhan o'r sefydliad. ;-)

Anonymous said...

wedi bod erieod!