Mae
Ffred yn gwbl gywir i dynnu sylw at bwysigrwydd cynnal presenoldeb y Bib yn agos at y Gymru Gymraeg. Mi fyddai llawer ohonom yn dadlau bod y Bib yng Nghymru eisoes yn llawer mwy dinesig a deheuol ei naws nag ydi llawer o'i chynulleidfa.
Cilio oddi wrth ei chynulleidfa greiddiol oedd un o brif gamgymeriadau S4C - byddai'n anffodus petai'r Bib yn ailadrodd y camgymeriad - yn arbennig ag ystyried y bydd yr holl gyfrifoldeb am ddarlledu cyfrwng Cymraeg yn syrthio ar y gorfforaeth maes o law.
2 comments:
A oes gan s4c gynlluniau i ail leoli? Mi fyddai hynny yn gwneud synwyr.
Mae pob dim yn yr awyr ar hyn o bryd mae'n debyg gen i.
Post a Comment