Wednesday, June 08, 2011

Carwyn ddim eisiau'r hawl i drethu

Felly gofyn am £300m ychwanegol o arian cyhoeddus i Gymru ydi prif neges Carwyn Jones i lywodraeth San Steffan - yn wahanol i'r llywodraethau datganoledig eraill - maen nhw'n chwilio am fwy o bwerau trethu.

'Dydi hyn ddim yn syndod i flogmenai - 'dwi wedi dadlau yma sawl gwaith y bydd Llafur Cymru yn gwneud pob dim posibl i osgoi cymryd unrhyw gyfrifoldeb tros drethu. Ei gallu i alw am fwy a mwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru, heb orfod bygwth codi ceiniog o dreth ar neb yn y wlad, ydi prif sail poblogrwydd etholiadol Llafur yma. Byddai derbyn yr hawl i drethu yn sefydlu perthynas rhwng trethiant a gwariant - y peth diwethaf mae'r Blaid Lafur Gymreig am ei weld.

Mae gofyn am £300m ychwanegol ar y llaw arall yn gweddu'n dwt efo'r ffordd mae Llafur yn gweld y Byd a'i bethau. 'Dydi'r ffaith bod y tanwariant yma ar Gymru'n hysbys i bawb ym mlynyddoedd olaf y llywodraeth San Steffan Llafur diwethaf, ac i'r llywodraeth hwnnw wrthod yn blwmp ac yn blaen i fynd i'r afael a'r sefyllfa, ddim yn amharu mymryn ar gred arweinyddiaeth Llafur Cymru nad oes dim pwysicach na chael y £300m gan San Steffan.

3 comments:

maen_tramgwydd said...

Diffyg gweledigaeth, yn fy marn i.

Dim syndod imi chaith!

Anonymous said...

Mae Carwyn yn ffycin cysgu...we sleepwalk into a crisis...ddim cynllun a ddim strategaeth, aelodau Llafur hefyd sydd past their sell by date ac angen boost i'w pensiynau...amlwg fod pensiynau Cymunedau Gyntaf a Cyngor Sir Gar ddim yn ddigon ac angen 4 mlynedd ar y 'gravy train'

Blog Banw said...

Mae'n amlwg i bawb bod Carwyn yn ofni unrhyw gyfrifoldeb 'we don't want brodcasting, i'm not going to fight for something I don't want' ond wedyn mae ganddo'r goegni i fynd ymlaen a phwyntio bys at Lundain a hawlio ei fod e moyn BBC da a darlledu o safon yn y ddwyiaith, ond nad yw'n ddigon parod i ymgymryd ag unrhyw gyfrifoldeb drostynt? Llafur yn gwegian yn barod ac ond mis sydd wedi bod, all unrhyw un sôn am unrhyw gynlluniau radical ac uchelgeisiol sydd ganddynt ar hyn o bryd?