Tuesday, June 28, 2011

Y diweddaraf o Kerry

Mae blogmenai yn ymfalchio yn y ffaith mai'r blog yma a gyflwynodd y gwleidydd penigamp o'r Iwerddon, Jackie Healy Ray i Gymru. 

Oherwydd hynny 'dwi'n teimlo rhyw ddyletswydd i ddarparu'r newyddion diweddaraf am yr arwr - hyd yn oed pan mae'r newyddion yn drist - a newyddion trist sydd gen i heddiw.

Yn anffodus mae Jackie wedi cael ei hun yn gorfod dod o hyd i swm sylweddol o bres yn ddiweddar pan ddaeth stori sy'n bedair oed  yn gyhoeddus.  Mae'n ymddangos i ffon yn senedd Iwerddon, y Dail gael ei ddefnyddio i wneud 3,600 o alwadau i RTE yn pleidleisio i fab Jackie, Michael mewn sioe realaeth (beth bynnag ydi hynny) ar RTE. Roedd y galwadau wedi costio €2,639 i'r trethdalwr Gwyddelig - ac mae'n debyg y bydd rhaid i Jackie druan ad dalu pob ceiniog, neu yn hytrach sent.

Yr unig gysur i ddod o'r holl stori ydi i Michael ennill y gystadleuaeth o filltiroedd cyn mynd ati i etifeddu sedd ei dad yn y Dail yn etholiad cyffredinol eleni.

1 comment:

Plaid Gwersyllt said...

Mae hon yn gret o stori yn tydy, lle ond yn Iwerddon fasa hyn yn digwydd?

Un dda arall ydy'r casino ma mewn ryw bentref back yng nghanol Tipperary!

Pwy ti'n ffansio ar gyfer yr Aras, dwi am fynd hefo Higgins dwi'n meddwl oherwydd ei gefndir ai gefnogaeth i'r Gaeleg.