Tuesday, June 14, 2011

Symud ymlaen, 'ta gogor droi am bum mlynedd?


Cafwyd cryn sylw'r wythnos diwethaf i'r digwyddiad bach pan gafodd Carwyn Jones y myll efo Jocylyn Davies. Yr hyn a gafodd lai o sylw ydi pam yn union ymatebodd Carwyn yn y ffordd y gwnaeth - wedi'r cwbl 'dydi'r dyn ddim yn un am wylltio fel rheol - yn wir mae'n greadur digon lleddf a di gynnwrf.

Rwan, mae'r ffaith iddo wylltio yn awgrymu bod rhywbeth oedd wedi ei ddweud gan Jocylyn wedi taro'r targed. Wedi'r cwbl gwylltio fydd pobl gan amlaf pan maent yn teimlo o dan rhyw fath o fygythiad. Felly beth oedd wedi ei ddweud i beri'r fath ymateb? Wel, cyfeirio oedd Jocylyn at ddiffyg gweithgarwch llywodraeth Llafur hyd yn hyn. Mae'r cyhuddiad hwnnw yn cael ei ail adrodd heddiw gan y gwrthbleidiau yn sgil cyhoeddi 'blaenoriaethau'r' weinyddiaeth newydd.

'Dydi hi ddim yn gyfrinach bod gan Carwyn enw am fod yn ddiog. 'Dydw i ddim yn gwybod faint o wirionedd sydd y tu ol i'r canfyddiad yma, ond byddai synnwyr cyffredin yn awgrymu nad diogi fyddai un o brif nodweddion rhywun sydd wedi creu dwy yrfa lwyddiannus iddo'i hyn ym myd y gyfraith a gwleidyddiaeth. Serch hynny mae'r argraff o Carwyn fel dyn diog yn bodoli, a mewn gwleidyddiaeth mae argraffiadau cynnar yn tueddu i aros efo dyn. Efallai mai'r rheswm ydi osgo hamddenol di ffwdan Carwyn - felly mae pethau - mae nodweddion arwynebol yn aml yn diffinio person i bobl nad ydynt yn ei adnabod.

Mewn talwrn gwleidyddol mwy ffyrnig nag un Cymru gwneir defnydd di drugaredd o nodweddion personol arweinwyr gwleidyddol i greu delweddau negyddol o'u pleidiau. Er enghraifft 'doedd John Major ddim yn greadur llywath o bell ffordd - ond roedd yna rhyw osgo felly ganddo. Felly roedd delweddau ohono efo'i drons y tu allan i'r drywsus yn cael eu defnyddio'n ddi baid i bortreadu ei blaid fel un aneffeithiol a di glem. Yn yr un modd roedd llygaid mymryn yn lloerig yr olwg Blair yn cael eu defnyddio i symbylu delwedd o'i blaid fel corff obsesiynol a rhyfedd oedd eisiau rheoli pob dim ym mhob man ar pob achlysur - yn llwyr a chyfangwbl.

'Dydi pethau ddim mor ddi drugaredd yng Nghymru wrth gwrs, ond gallai osgo Carwyn yn hawdd ddod i symbylu llywodraeth ddiog a ddi symud - a llywodraeth felly fydd hi - nid oherwydd diffygion ar ran Carwyn, ond oherwydd natur y Blaid Lafur Gymreig.

Mae Llafur Cymru yn babell eithaf eang sy'n cynnwys amrywiaeth eang o bobl sydd a fawr ddim yn gyffredin ag eithrio eu bod yn hoffi ennill grym ac yn gweld eu plaid fel prif golofn sefydliadol Cymru. Cadw pob carfan yn hapus ydi greddf gryfaf y blaid, a dyna pam bod Llafur mor aneffeithiol am lywodraethu ar ei phen ei hun yng Nghymru. Roedd llywodraeth 2003 - 2007 yn fodel o lywodraethiant di ddim, ac mae cynghorau sy'n cael eu rheoli gan y Blaid Lafur Gymreig yn aml yn anobeithiol o aneffeithiol. Mae'n rhaid wrth gyfeiriad pendant i lywodraethu'n effeithiol - 'dydi plesio pawb ddim yn cynnig cyfeiriad i'r unman.

Y rheswm bod Cymru'n Un cymaint mwy llwyddiannus na'r llywodraeth Llafur a'i ragflaenodd oedd bod Llafur wedi gorfod sortio ei phroblemau mewnol ar y cychwyn, negydu cytundeb gyda Phlaid Cymru ac wedyn gweithredu'r cytundeb hwnnw. Os na fydd Llafur yn cael ei gorfodi i glymbleidio, yna byddwn yn ol yn sefyllfa 2003 - 2007 lle mai buddiannau'r Blaid Lafur fydd y brif ystyriaeth wrth lywodraethu Cymru - ac mi gawn bum mlynedd o ogor droi a lladd amser.

O dan yr amgylchiadau anodd presenol, ni all Cymru fforddio hynny.

7 comments:

Anonymous said...

Berffaith wir, a dyna ddagrau'r sefyllfa. Dylse'r Blaid, o'r diwedd â'i chennad yn gwneud synnwyr, fod yn medi pleidleisiau ac aelodau newydd, ac wele. Di-arweinyddiaeth!

Daeth yr awr ond ni ddaeth y dyn!

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n cytuno, i raddau helaeth efo dy gasgliadau parthed broblemau'r Blaid Lafur, ond mae "problem Llafur" yn cael effaith ar bleidiau eraill hefyd.

Llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i lywio llong Llafur trwy'r Doldrymau o 2000 i 2003, gyda pheth llwyddiant i Lywodraethu Cymru; ond Llafur, nid y Rhydd Dems cafodd y clod a'r fendith etholiadol ar ddiwedd y dydd.

Yn yr un modd bu Llywodraeth Cymru'n Un yn lled llwyddiannus ond Llafur yn unig gafodd y clod a'r fendith etholiadol yn yr etholiad canlynol.

Mae hyn yn codi cwestiwn pleidiol!

Pam ar y diawl dylai'r Rhyddfrydwyr Democrataidd neu Blaid Cymru cefnogi Llafur eto? Pa les sydd iddynt hwy trwy gynorthwyo Llafur i reoli "yn gall" am gyfnod arall?

Dyma'r cyfyng gyngor:

A ddylid caniatáu i Lafur rheoli Cymru'n wael am bum mlynedd, er mwyn profi pa mor gac yw Llywodraeth Lafur? Neu a ddylid rhoi gwlad cyn plaid er mwyn achub Cymru rhag gac Llywodraeth Llafur ond trwy hynny cryfhau record y Blaid Lafur o lywodraethu'n llwyddiannus?

Aled G J said...

Cai- dwi'n cymryd mai Cymru Un 2 ydi dy ateb di i dy gwestiwn dy hun. A falle wir bod Carwyn Jones yn taflu ambell i abwyd i PC wrth gyflwyno rhaglen ddeddfu mor uffernol o ddi-ddim ddoe, h.y dyma'i gyd y gallwn ni ei wneud yn wyneb diffyg mwyafrif- os dach chi isio mwy yna bydd rhaid wrth glymblaid.

Dwi dal i feddwl bod angen i PC wrthod yr abwyd a chanolbwyntio ar dair elfen hanfodol dros y cyfnod nesaf hwn:

i) dangos yn glir i etholwyr Cymru union hyd a lled diffyg uchelgais Llafur dros Gymru a pha mor wag oedd eu haddewid etholiadol i sefyll drosti go iawn.
ii) cyd-weithio hefo'r gwrth-bleidiau eraill i gyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol amgen i Gymru a dwyn pwysau ar Lafur i weithredu rhai ohonynt.( Roedd yna rai syniadau gwirioneddol dda gan y Lib Dems yn eu maniffesto amgen a gyhoeddwyd ganddyn nhw ddoe)
iii) Ymgynghori'n helaeth hefo'r cefnogwyr led-led Cymru ar gyfer ail-ddiffinio ei chenhadaeth genedlaethol. Gall y broses o ddewis arweinydd y flwyddyn nesaf gynnig momentwm gwirioneddol i hyn oll.

O gyflawni'r uchod, gall y cyfnod nesaf hwn ar yr wrth-feinciau fod yn gyfnod hynod o greadigol a phroffidiol i'r Blaid.

Cai Larsen said...

Mi ddylai'r Blaid fynd i glymblaid os ydi'r pris yn gywir - dylid gadael y busnes i'r Lib Dems os nad ydyw.

Mae gan Alwyn bwynt - ond yn y pen draw mae symud Cymru yn ei blaen yn bwysicach na mantais bleidiol tymor byr.

maen_tramgwydd said...

Dwi'n cytuno efo Alwyn ac Aled. Ni ddylai'r Blaid ymglymu a Llafur. Does dim grym ganddi yn ei sefyllfa bresennol i drosglwyddo unrhyw beth o bwys i Gymru.

Fe all Blaid Cymru fod yn y diffaethwch am ddeng mlynedd neu fwy os fydd hi mor ffôl a mynd i mewn efo Llafur unwaith eto. Wnaiff hynny ddim lles i Gymru o gwbl.

Aled GJ said...

Cai- O ran diddordeb, fedri di ymhelaethu ar dy sylw "mi ddylai'r Blaid fynd i glymblaid os ydi'r pris yn iawn"?

Pa bris yn union y basa ti'n ei osod ar gyfer clymblaid arall?

Er mod i'n ffan mawr o Adam Price , rhaid dweud mod i'n gweld ei bris o am glymblaid arall (WM ddoe), sef comisiwn i ystyried y goblygiadau cyfansoddiadol i Gymru yn dilyn refferendwm annibyniaeth yr Alban, braidd yn niwlog a di-ddannedd.

Elli di gryfhau ar hynny tybed?

Cai Larsen said...

Nid comisiwn oedd gen i mewn golwg Aled - y grym i drethu ydi'r peth pwysig - treth incwm a threth corfforiaethol.

Os ydi Cymru i aeddfedu yn wleidyddol rhaid i'r berthynas rhwng gwariant cyhoeddus a threth gael ei sefydlu ym meddyliau pobl.

Os ydi Cymru i gystadlu yn economaidd rhaid gallu gwneud iawn am anfanteision strwythurol trwy amrywio treth gorfforiaethol.

Fedar Llafur ar hyn o bryd ddim sicrhau hynny wrth gwrs - ond gallant wneud cais i San Steffan am y grymoedd - yn union fel mae'r Alban yn ei wneud.