Ydi hi'n bosibl bod y Royal College of Psychiatrists yn ceisio gwneud iddyn nhw eu hunain edrych yn wirion?
Mae'n ymddangos eu bod wedi argyhoeddi eu hunain ei bod yn syniad da i ddweud wrth bobl yn eu hoed a'u hamser, a sydd yn aml wedi bod yn defnyddio alcohol ers hanner canrif a mwy rhywbeth tebyg i well i chi beidio ag yfed mwy na hanner peint o gwrw rhag ofn i chi wneud eich hunan yn sal.
Rwan, er gwell neu er gwaeth mae defnyddio alcohol yn rhan o wead bywyd cymdeithasol llawer iawn o bobl yng ngwledydd y DU. Pan mae pobl yn mynd yn hyn mae eu bywydau cymdeithasol yn cael ei gyfyngu a'i erydu oherwydd bod llawer o'r bobl maent wedi treulio eu bywydau yn eu cwmni yn mynd yn sal ac yn marw.
Ydi hi mewn gwirionedd - gyda phob parch i'r seiciatryddion dysgedig - yn syniad da o safbwynt iechyd meddwl yr henoed i gynnig cyngor a fyddai o'i gymryd yn annog pobl i beidio a throi yn cylchoedd maent wedi troi ynddynt trwy gydol eu bywydau, ac felly ymddieithrio ymhellach oddi wrth eu bywydau cymdeithasol?
1 comment:
Fel arfer, lot o siarad gan yr "arbenigwyr" am unedau alcohol a dim són o gwbl am burdeb y diodydd. Hynny yw, petai'r llywodraeth yn gorfodi deddf tebyg i'r Reinheitsgebot ar gynhyrchwyr diodydd alcoholig, byddai diodydd alcoholig yn llawer iachach.
Post a Comment