Wednesday, June 29, 2011

Alan Trench, Carwyn Jones a threth incwm

Felly 'dydi Alan Trench methu deall pam bod galwadau Carwyn Jones am rymoedd trethu i Gymru mor ddi sylwedd.

Mae Mr Trench yn crafu ei ben oherwydd bod Carwyn Jones yn gofyn am rym i fenthyg pres, ond yn gwrthwynebu'r hawl i godi treth incwm - rhywbeth a fyddai yn cynyddu'r gallu i fenthyg yn sylweddol.

Efallai y dyliwn egluro.  Camgymeriad Mr Trench ydi rhagdybio bod Plaid Lafur Cymru yn rhoi Cymru'n gyntaf.  Yn hanesyddol mae Plaid Lafur Cymru pob amser yn rhoi Plaid Lafur Cymru o flaen pob dim arall. Y peth diwethaf mae Plaid Lafur Cymru ei eisiau ydi sefydlu perthynas rhwng gwariant cyhoeddus a threthiant.  Mae eu holl apel yn ddibynnol ar eu gallu i ofyn am fwy a mwy o wariant cyhoeddus heb orfod codi treth ar neb i sicrhau hynny.

Ni fydd Plaid Lafur Cymru byth yn gofyn am y gallu i godi treth incwm oherwydd bod hynny yn erbyn eu buddiannau pleidiol nhw.

Tuesday, June 28, 2011

Y diweddaraf o Kerry

Mae blogmenai yn ymfalchio yn y ffaith mai'r blog yma a gyflwynodd y gwleidydd penigamp o'r Iwerddon, Jackie Healy Ray i Gymru. 

Oherwydd hynny 'dwi'n teimlo rhyw ddyletswydd i ddarparu'r newyddion diweddaraf am yr arwr - hyd yn oed pan mae'r newyddion yn drist - a newyddion trist sydd gen i heddiw.

Yn anffodus mae Jackie wedi cael ei hun yn gorfod dod o hyd i swm sylweddol o bres yn ddiweddar pan ddaeth stori sy'n bedair oed  yn gyhoeddus.  Mae'n ymddangos i ffon yn senedd Iwerddon, y Dail gael ei ddefnyddio i wneud 3,600 o alwadau i RTE yn pleidleisio i fab Jackie, Michael mewn sioe realaeth (beth bynnag ydi hynny) ar RTE. Roedd y galwadau wedi costio €2,639 i'r trethdalwr Gwyddelig - ac mae'n debyg y bydd rhaid i Jackie druan ad dalu pob ceiniog, neu yn hytrach sent.

Yr unig gysur i ddod o'r holl stori ydi i Michael ennill y gystadleuaeth o filltiroedd cyn mynd ati i etifeddu sedd ei dad yn y Dail yn etholiad cyffredinol eleni.

Llongyfarchiadau Carlo


Hwyrach y dylid llongyfarch Tywysog Cymru am wneud joban mor dda o osgoi effaith y dirwasgiad sydd wedi tanseilio safon byw y gweddill ohonom. O'r holl fanylion am wariant Charles - y cynnydd o 17%( i £1,962,000) yn yr arian mae'n ei hawlio gan y pwrs cyhoeddus pan mae pawb arall efo'i gyflog wedi ei rewi, y 158.9 (cynnydd o 26 ers y llynedd) staff llawn amser yn cynnwys 26 o staff personol i roi tendans i Charles a'i wraig er enghraifft - ei gostau teithio o £1.08 miiwn ydi'r mwyaf trawiadol i mi.

Mae hyn yn gyfystyr a £31.50 am pob un o'r 34,287 milltir a deithwyd ganddo ef, ei wraig a'r fintai fechan o lyfwrs a llempiwrs proffesiynol sy'n mynd efo nhw i bob man. Rwan mae hyn yn uffernol o ddrud - digon i wneud i wallt rhywun fel Nick Ramsey sefyll i fyny.

Ystyrier y canlynol:

Byddai awyren cargo Boeing 747-400 yn defnyddio tua 3,200 galwyn yr awr petai'n hedfan ar ei chyflymder arferol o tua 600 mya. Felly byddai'n defnyddio tua 5.5 galwyn y filltir. Mae cost tanwydd awyren yn amrywio rhwng £2.20 i £3.50 y galwyn, felly mae'n rhesymol casglu bod cost teithio jet cargo anferth o gwmpas £16 y filltir.

Felly mae'n costio ddwywaith cymaint i anfon Charles o un lle i'r llall nag ydi hi i anfon jet anferth sy'n llwythog efo cargo.

Monday, June 27, 2011

Toriaid Cymru yn poeni bod y Cynulliad yn cael ei gynnal a'i gadw


Felly mae'r Toriaid yn flin bod costau cynnal a chadw ynghlwm a'r Cynulliad Cenedlaethol - £25,000 y llynedd a £157,000 ers iddo agor. Yn ol eu llefarydd Nick Ramsey:

Mae’r Senedd bellach yn adeilad eiconaidd ac mae Cymru gyfan yn cymryd balchder ynddo

Ond rydyn ni’n pryderu am faint o arian sy’n cael ei wario ar atgyweirio’r adeilad. Dim ond pump oed yw’r adeilad ac roedd disgwyl iddo barhau am 100 mlynedd. Bydd trethdalwyr yn pryderu fod cymaint o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar adeilad gostiodd cymaint yn y lle cyntaf

Mae'n ddifyr deall bod y Ceidwadwyr y Cynulliad yn erbyn gwario ar gynnal a chadw adeiladau llywodraethol. Efallai y byddai o ddiddordeb iddynt wybod beth ydi costau cynnal a chadw y lle arall hwnnw yn Llundain mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dymuno bod yn aelod ohono mwy na dim arall yn y Byd mawr crwn:

2004-05 £6,183,000
2005-06 £7,524,000
2006-07 £10,057,000
2007-08 £9,743,000
2008-09 £2,559,000


Neu efallai y byddai hefyd o ddiddordeb iddynt ddeall i bron i £100,000,000 gael ei wario ar gartrefi'r frenhines rhwng 2001 / 2002 a 2007 / 2008.

Sunday, June 26, 2011

Ydi Michael Gove wedi clywed am ymholiadau CRB?


Dydi blogmenai ddim yn siarad siop yn aml iawn, ond mae'n anodd peidio a gwneud hynny ar ol darllen sylwadau gweinidog addysg Lloegr, Michael Gove.

Mae'n ymddangos bod Mr Gove eisiau anfon rhieni i gymryd lle athrawon yn ystod y streic sydd i'w chynnal gan rai undebau ddydd Iau. Ydi'r dyn mewn gwirionedd eisiau caniatau i nifer sylweddol o oedolion fynd i ddosbarthiadau ar hyd a lled y DU, er na fydd y mwyafrif llethol ohonynt wedi eu clirio i weithio efo plant yn dilyn gwiriad CRB?

Ydi hi'n bosibl bod y dyn mor awyddus i wneud y streic yn aneffeithiol nes ei fod yn fodlon rhoi miloedd o blant mewn perygl?

Friday, June 24, 2011

Udo, wylofain a rhincian dannedd yng Nghaernarfon

Mae'n un o nodweddion Cyngor Tref Caernarfon bod yna ychydig o dan gwyllt yn ffrwydro ar ei ffurfafen o bryd i'w gilydd. Noswaith felly oedd nos Fawrth diwethaf pan gafwyd homar o ffrae ynglyn a chyfethol cynghorydd newydd yn dilyn marwolaeth diweddar Y Cynghorydd Trefor Owen - Pleidiwr oedd yn cynrychioli Peblic, ward sy'n cwmpasu ardal Sgubor Goch ynghyd ag ychydig o strydoedd eraill.

Yr unigolyn a gyfetholwyd oedd Llyr ap Alwyn sy'n byw yn y ward. Roedd nifer o'r cynghorwyr a bleidleisiodd yn ei erbyn wedi eu cythruddo'n lan gan y penderfyniad. Yn wir roedd un o'r cynghorwyr hynny, Tony Yendell Williams, mor flin nes iddo redeg allan o'r siambr gan adael ei ffon gerdded ar ei ol, mynnu bod ei fanylion personol yn cael eu dileu oddi ar wefan y cyngor ac addo i beidio mynychu unrhyw gyfarfod eto tra bod maer sy'n perthyn i Blaid Cymru yn arwain y Cyngor. Yn wir aeth cyn belled a dweud wrth y Caernarfon & Denbigh bod Plaid Cymru wedi difetha'r cyngor. Petai'n fabi mae'n debyg y byddai'r morthwyl sinc, y dwmi, y baby grow ac yn wir y clwt budur wedi eu taflu'n ddi seremoni allan o'r goets.

Dadl Yendell ydi nad oedd Llyr cystal ymgeisydd na'i wrthwynebyddl Dylan Williams oherwydd nad ydyw ond wedi byw yng Nghaernarfon am ddegawd. Mae'n dadlau ymhellach y dylai pawb gydnabod sail y 'rhagoriaeth' yma a phleidleisio i Dylan, ac mai mater pleidiol llwyr felly oedd pleidleisio i Llyr. Mae'n ymddangos bod yna rhyw reol neu'i gilydd yng nghyfansoddiad y Cyngor sy'n mynnu na ddylid cyfethol ar sail pleidiol. Hyd y gwn i 'does yna ddim rheol arall sy'n datgan mai'r sawl sydd wedi byw yng Nghaernarfon hiraf ddylai gael ei gyfethol. Mae Yendell yn mynd ymlaen i honni bod y Pleidwyr ar y Cyngor wedi pleidleisio mewn bloc i Llyr, a bod hynny'n beth ofnadwy, ofnadwy, ofnadwy.

Rwan, mae'n anodd gweld sut yn union mae Yendell yn gwybod sut y pleidleisiodd ei gyd gynghorwyr gan fod y bleidlais yn un gudd. Yr unig ddau aelod mae'n gwybod i sicrwydd i bwy y pleidleisiodd ydi fo ei hun a'r maer, y Cynghorydd Ioan Thomas - bu'n rhaid i Ioan ddefnyddio ei bleidlais fwrw oherwydd bod y bleidlais wreiddiol wedi ei chlymu ar 8-8.

Serch hynny, petai Yendell yn gywir, a bod yr holl gynghorwyr Plaid Cymru wedi pleidleisio i Llyr, byddai hynny'n golygu i'r tri Llafurwr ar y cyngor - Gerald Parry, Glyn Thomas ac Andrew Bohana - wedi bod mor rhyfeddol o 'wrthrychol' nes pleidleisio i ddyn a safodd yn ddiweddar i fynd ar y cyngor yn enw'r Toriaid, i gynrychioli un o wardiau mwyaf difreintiedig Gogledd Cymru.

Petai hynny'n wir byddai'r slogan Vote Labour, Get Tory yn un hynod o addas.

Plaid Cymru yn ennill is etholiad cyngor unwaith eto

Yn Sir Gaerfyrddin y tro hwn.

Mae'n gryn berfformiad ar ran y Blaid - trydydd oedd yn 2008 - er bod Mansel Charles, ymgeisydd llwyddiannus neithiwr, yn ail bryd hynny. Nid oedd, fodd bynnag yn sefyll yn enw'r Blaid y tro hwnnw.

Daw hyn a chyfanswm aelodau'r Blaid ar y cyngor i 31 o gymharu a 28 i'r grwp annibynnol..

Wednesday, June 22, 2011

Hanner o be gymerwch chi hogia?

Ydi hi'n bosibl bod y Royal College of Psychiatrists yn ceisio gwneud iddyn nhw eu hunain edrych yn wirion?

Mae'n ymddangos eu bod wedi argyhoeddi eu hunain ei bod yn syniad da i ddweud wrth bobl yn eu hoed a'u hamser, a sydd yn aml wedi bod yn defnyddio alcohol ers hanner canrif a mwy rhywbeth tebyg i well i chi beidio ag yfed mwy na hanner peint o gwrw rhag ofn i chi wneud eich hunan yn sal.

Rwan, er gwell neu er gwaeth mae defnyddio alcohol yn rhan o wead bywyd cymdeithasol llawer iawn o bobl yng ngwledydd y DU. Pan mae pobl yn mynd yn hyn mae eu bywydau cymdeithasol yn cael ei gyfyngu a'i erydu oherwydd bod llawer o'r bobl maent wedi treulio eu bywydau yn eu cwmni yn mynd yn sal ac yn marw.

Ydi hi mewn gwirionedd - gyda phob parch i'r seiciatryddion dysgedig - yn syniad da o safbwynt iechyd meddwl yr henoed i gynnig cyngor a fyddai o'i gymryd yn annog pobl i beidio a throi yn cylchoedd maent wedi troi ynddynt trwy gydol eu bywydau, ac felly ymddieithrio ymhellach oddi wrth eu bywydau cymdeithasol?

Tuesday, June 21, 2011

Rhestr siopa Jones y Gombin


Mae blogmenai'n rhyw ymfalchio iddo gyflwyno'r term gwleidyddiaeth y gombin i Gymru. Term ydyw sy'n cyfeirio at hen draddodiad Gwyddelig o gynhyrchu gwleidyddion sy'n arbenigo mewn cysylltu eu hunain gyda phob penderfyniad poblogaidd, a dad gysylltu eu hunain oddi wrth pob penderfyniad amhoblogaidd. Fel rheol 'dydi diddordeb y gombin ddim yn ymestyn y tu hwnt i'r bobl hynny sydd mewn sefyllfa i bleidleisio iddo, ac oherwydd hynny mae'n sobor o blwyfol ac un llygeidiog.

Ceir gombins yn y rhan fwyaf o'r pleidiau Gwyddelig, ond gwleidyddion annibynnol ydi'r arch gombins fel rheol - nhw sydd wedi perffeithio eu crefft orau. Rydym eisoes wedi chwerthin ar ben Jackie Healy Rae, ond mae yna nifer o arch gombins eraill - pobl fel Mattie McGrath a Michael Lowry. Mae'r gombin ar ei hapusaf yn ystod senedd grog pan mae'n gallu hawlio pob math o ffafrau cwbl anhaeddiannol i'w etholwyr am gefnogi'r llywodraeth. Dyna pam rydych yn dod o hyd i gasino €460 miliwn yn Tipperary ac is strwythur trafnidiaeth penigamp ac ysgolion newydd sbon yn niffeithwch De Kerry. Gombins lleol gyda llaw sy'n gyfrifol am yr holl blasdai modern enfawr yng nghanol caeau sy'n creithio llawer o'r Iwerddon.

A barnu oddi wrth ddigwyddiadau heddiw a ddoe mae Carwyn Jones yn ceisio mynd cam ymhellach a sefydlu llywodraeth sydd wedi ei seilio ar egwyddorion y gombin. Mae'n arfogi ei lywodraeth i fod mewn sefyllfa i gymryd cymaint o benderfyniadau poblogaidd a phosibl tra'n ei gwneud yn anodd iddi gymryd rhai amhoblogaidd.

Mae Carwyn eisiau'r hawl i gyfyngu ar beilonau a melinau gwynt, mae eisiau cael gwario £300m Gerry Holtham, mae eisiau'r hawl i dorri man drethi, mae eisiau'r hawl i fenthyg i wario ar brosiectau cyfalaf, ac mae eisiau arbed moch daear.

'Dydi o ddim yn hoff o'r syniad o gael grym i dorri treth corfforaethol - byddai hynny'n arwain at dorri gwariant cyhoeddus yn y tymor byr o leiaf; a dydi o'n sicr ddim eisiau hyd yn oed ystyried y posibilrwydd o gael yr hawl i gynyddu treth incwm - byddai hynny'n amhoblogaidd efo pawb sy'n talu'r dreth honno.

Felly dyna ni - mae'n ymddangos bod Jones y Gombin eisiau arwain llywodraeth gombinaidd - llywodraeth efo'r grym a'r anian i blesio, ond sydd heb yr asgwrn cefn (nac yn wir yr hawl) i bechu fawr neb.

Monday, June 20, 2011

Melinau gwynt Carwyn Jones

Hmm - felly mae Carwyn Jones yn meddwl ei bod yn annealladwy nad ydi penderfyniadau ynglyn a chynlluniau sy'n arwain at gynhyrchu mwy na 50 megawatt y diwrnod yn nwylo'r Cynulliad.


Efallai ei fod - ond mi gafodd plaid Carwyn dair blynedd ar ddeg i ddelio efo'r sefyllfa annealladwy yma, ond dewiswyd peidio a gwneud hynny. Dewiswyd hefyd beidio a mynd i'r afael a'r tan wariant ar Gymru o £300m y flwyddyn - er bod bron i flwyddyn rhwng cyhoeddi adroddiad Gerry Holtham a'r etholiad cyffredinol. Mae'n ymddangos bod Carwyn yn ystyried hynny'n fater o bwys mawr bellach hefyd.



Mae datganoli pwerau tros godi melinau gwynt, peilons ac ati yn berffaith o safbwynt y Blaid Lafur Gymreig - mae'n rhoi grym iddynt tros faterion ymddangosiadol 'fawr' a gweladwy ac mae'n cynnig manteision tactegol iddynt o safbwynt gwleidyddol (gallant gymryd penderfyniadau 'poblogaidd', heb wynebu ystyriaethau rhy anodd - nid eu cyfrifoldeb nhw fydd sicrhau bod digon o ynni yn cyrraedd y Grid Cenedlaethol).

Yn bwysicach mae'n rhoi'r cam argraff eu bod yn cadw i fyny efo'r Salmonds a'r Robinsons o ran dangos uchelgais i reoli agweddau pwysig ar ein bywyd cenedlaethol. Mewn gwirionedd gofyn am rym heb lawer o gyfrifoldeb maent.

Byddai gofyn am bwerau i drethu yn fater cwbl wahanol wrth gwrs - byddai pwerau felly yn gorfodi'r llywodraeth i dderbyn cyfrifoldeb yn ogystal a grym. Ond dydi hynny ddim am ddigwydd - grym heb rhyw lawer o gyfrifoldeb ydi'r hyn mae'r Blaid Lafur Gymreig ei eisiau. Ac yn y pen draw nid grym go iawn ydi hynny.

Beth sy'n fwy nodweddiadol o'r Blaid Lafur Gymreig na throi llywodraethiant Cymru yn gem bach anaeddfed o hel pwerau er mwyn cael manteision etholiadol a hanner ymarfer grym? Mae'r stori yn crisialu'n dwt yr hyn ydi'r Blaid Lafur Gymreig.

Sunday, June 19, 2011

Peidiwch ag anghofio am y ceffylau!

Roedd yn ddiddorol deall gan y Sunday Times heddiw bod y frenhines yn poeni'n fawr am y cyswllt rheilffordd cyflym arfaethedig rhwng Birmingham a Llundain. Y broblem ydi y gallai'r cynllun £34bn dorri trwy Stonleigh Park, sy'n rhywbeth neu'i gilydd i wneud efo ceffylau. Mae'r frenhines yn hoffi ceffylau ac mae'n berchen ar lawer ohonynt, a dydi hi ddim eisiau i'r trenau ddychryn y creaduriaid. Ymddengys bod ei hail fab, Andrew wedi codi'r mater mewn cyfarfod efo swyddogion o'r trysorlys yn gynharach eleni. 'Doedd yna neb yn y cyfarfod hwnnw i siarad ar ran y canoedd o filoedd o bobl nad ydynt yn berchnogion ceffylau, ond a fyddai'n elwa'n fawr petai'r cyswllt trenau yn cael ei uwchraddio.

Rwan mae'n greiddiol i unrhyw drefn ddemocrataidd lwyddiannus bod llywodraethu yn digwydd mewn modd sydd o fudd i'r boblogaeth yn gyffredinol yn hytrach nag er budd unigolion, neu grwpiau o unigolion. Yr egwyddor yma sydd y tu cefn i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mewn gwirionedd - mae'r ddeddf yn rhoi cyfle i ddinasyddion sicrhau bod y llywodraeth yn llywodraethu mewn modd priodol - ac nad ydyw yn llywodraethu er budd rhyw elit hunan etholedig neu'i gilydd.

Yn anffodus 'dydi'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ddim yn berthnasol i'r teulu brenhinol - felly mae'n amhosibl ei defnyddio er mwyn darganfod i ba raddau y mae'r teulu hwnnw yn defnyddio ei gysylltiadau gwleidyddol er ei fudd ei hun.

Mae lle i gredu bod cryn dipyn o lobio a dylanwadu yn digwydd gan ac ar ran y teulu. Mi fyddwn o bryd i'w gilydd - fel mae stori'r Sunday Times heddiw yn ei brofi - yn cael cip ar y lobio brenhinol. Ond ar hap mae hynny'n digwydd - fel rheol o ganlyniad i ymholiadau newyddiadurol, neu rhywun yn datgelu gwybodaeth i'r wasg neu i Wikileaks. 'Dydi'r darlun yr ydym yn cael cip arno ddim yn un hyfryd.

Er enghraifft mae sawl stori wedi ymddangos am Andrew yn ddiweddar, a'r defnydd mae wedi ei wneud o'i rol lled swyddogol yn hybu busnes Prydeinig – ei gyfeillgarwch efo troseddwr rhyw cyfoethog o’r enw Jeffrey Epstein, defnyddio taith swyddogol i geisio dod o hyd i brynwr i’w dy, mynd ar wyliau efo smyglwr arfau o Libya, gwledda ym Mhalas Buckingham efo aelod o weinyddiaeth unbeniaethol Tunisia, gadael i Timor Kulibayev, mab yng nghyfraith arlywydd Kazakhstan brynu ei dy am £3m mwy na’i werth ar y farchnad, taranu yn erbyn ymchwiliadau gwrth lygredd gan y llywodraeth ac ati.

Mae gan frawd Andrew, Charles amrywiaeth o gredoau rhyfedd, ac rydym yn gwybod ei fod yn gwneud cryn ddefnydd o'i gysylltiadau er mwyn hyrwyddo'r rheiny. Er enghraifft am rhyw reswm neu'i gilydd mae'n grediniol y dylid codi adeiladau modern yn unol ag arddulliau pensaerniol cyfnodau eraill. Mae hefyd o'r farn y dylid trin cancr gydag enemas coffi, a bydd yn sgwrsio efo'i nionod.

Rwan, mae gan pawb yr hawl i gredu pethau rhyfedd, ond nid pawb sydd mewn sefyllfa i hybu'r credoau hynny y tu allan i'r trefniadau arferol - mae Charles mewn sefyllfa felly, ac mae'n gwneud defnydd mynych o'i amgylchiadau a'i statws. Y stori fwyaf diweddar am ei ymyryd ydi'r un lle aeth ati i ddwyn perswad ar deulu brenhinol Qatar i beidio ag anrhydeddu cytundeb £34bn gyda CPC Group i ddatblygu safle yn Chelsea, oherwydd nad oedd yn or hoff o gynlluniau ei hen elyn Richard Rogers ar gyfer y datblygiad. Costiodd yr holl fusnes £81m i deulu brenhinol Qatar mewn iawndal i CPC.

Ac mae'r frenhines hithau yn ei thro yn 'boenus' ynglyn ag annibyniaeth posibl yr Alban, ac wedi mynnu cyfarfod efo David Cameron i drafod y posibilrwydd. Mae gan y ddynas fuddiant personol yn y mater - mae ganddi gryn dipyn o eiddo yn yr Alban - gan gynnwys 49,000 acer o dir ar ystad Balmoral.

Mae'n debyg mai copa'r mynydd ia (a benthyg idiom Saesneg) yn unig sy'n dod i'r amlwg yn y papurau - a bod statws cyfansoddiadol rhyfedd ac afresymegol y teulu yma yn cael ei ddefnyddio'n ddi drugaredd i hyrwyddo buddianau teuluol.

Yn y cyfamser mae'r BBC ac elfennau o'r wasg wedi treulio cryn dipyn o amser ac ynni tros y misoedd diwethaf yn canu clodydd pobl sy'n gweithredu'n rheolaidd, yn systematig ac yn ddirgel y tu allan i'r strwythurau mae'r rhan fwyaf ohonom yn gaeth iddynt, er mwyn hyrwyddo eu budd eu hunain ar draul rhai y gweddill ohonom.

Deiseb y cofnod Cymraeg

Mi fydd llawer o ddarllenwyr blogmenai yn ymwybodol nad yw'r cofnod o'r hyn sy'n digwydd yn y Cynulliad bellach ar gael yn gwbl ddwyieithog. Mae hyn yn ddatblygiad newydd ac yn gam yn ol i'r Gymraeg o ran ei statws cenedlaethol.

Os ydych am fynegi anfodlonrwydd ynglyn a'r datblygiad, un ffordd o wneud hynny ydi trwy arwyddo'n ddeiseb ar lein yma.

Thursday, June 16, 2011

Noson dda arall i Blaid Cymru yn Arfon

Wedi llwyddiant ysgubol y Blaid yn Arfon yn etholiadau'r Cynulliad eleni, mae'n braf nodi ei bod yn mynd o nerth yn yr etholaeth.

Cynhalwyd is etholiad heddiw yn ward mwyaf dwyreinol Gwynedd - Arllechwedd - yn dilyn marwolaeth y cynghorydd Lib Dem, J R Jones yn gynharach eleni.

Y canlyniad oedd:

Douglas-Pennant, Edmond Hugh Lib Dems 93

Edwards, David Gwynfor

Lewis, Jennie

Meurig, Dafydd

Llafur 72

Tori 35

Plaid Cymru 255



Mae'n arbennig o galonogol gweld Llafur yn gwneud mor sal ar ol i'w hoelion wyth lleol a chyn aelod seneddol weithio cymaint trostynt yn ystod yr etholiad.

Gwersi oddi wrthi y Blaid Lafur Wyddelig

Mi fydd blogmenai yn cymharu weithiau rhwng gwleidyddiaeth Iwerddon a gwleidyddiaeth Cymru. Gan fod gwleidyddiaeth y ddwy wlad mor wahanol mae yna ben draw i'r hyn y gellir ei ddysgu o gymharu, ond mae'r ymarferiad yn gallu bod yn un digon diddorol serch hynny - ac yn achos y blogiad yma (ac ambell un arall) mae yna gymhariaeth digon addas i'w gwneud hefyd.

Fy mwriad ydi cychwyn trwy edrych ar ddamcaniaeth sy'n dipyn o wireb yng Nghymru - mai'r blaid leiaf sydd pob amser yn dioddef yn etholiadol wedi clymbleidio, a'r un fwyaf sy'n elwa - ac edrych os ydi hyn yn wir yn hanes diweddar Iwerddon - mae clymbleidio yn gyffredin yn yr Iwerddon wrth gwrs. Mi fyddwn yn edrych ar hynt etholiadaol pleidiau llywodraethol yn syth wedi iddynt glymbleidio. Wnawn ni ddim mentro yn ol cyn yr Ail Ryfel Byd - mae pethau braidd rhy gymhleth yn y blynyddoedd hynny.

Y llywodraeth glymbleidiol cyntaf wedi'r rhyfel oedd un John A Costello yn 1948, ac roedd pedair plaid yn perthyn i'r glymblaid yma - Fine Gael, Llafur, Clann na Talmhan, Clann na Poblachta a'r National Labour Party. Yn yr etholiad nesaf ym 1951 aeth pleidlais Fine Gael i fyny o 19.8% i 25.8%, aeth pleidlais Llafur o 11.3% i 11.4%, syrthiodd pleidlais Clann na Talmhan o 5.5% i 2.9%, ail ymunodd yr NLP efo Llafur a syrthiodd pleidlais Clann na Poblachta o 13.3% i 4.1%.

Cafwyd clymblaid arall yn dilyn etholiad 1954, a chafodd yr etholwyr y cyfle i ddweud ei dweud am honno ym 1957. Fine Gael, Llafur a Clann na Talmhan oedd y partneriaid y tro hwnnw. Cwympodd pleidlais Fine Gael o 32% i 26.6%, syrthiodd un Llafur o 12.1% i 9.1% a syrthiodd un Clann na Talmhan o 2.4% i 1,5%.

Ni chafwyd clymblaid arall hyd 1973, a Llafur a Fine Gael yn unig oedd yn rhan o honno. Collodd y ddwy blaid gryn dipyn o bleidleisau yn etholiad 1977 gyda Fine Gael yn cwympo o 35.1% i 30.6% a Llafur yn mynd o 13.7% i 11.6%.

Cafwyd llywodraeth fyrhoedlog Llafur a Fine Gael ym 1981, ond doedd yna ddim newid mawr yn eu perfformiad erbyn 1982 gyda Fine Gael yn codi o 36.5 i 37.1 a Llafur yn syrthio o 9.9% i 9.1%. Doedd yna ddim newid yn nifer seddi y naill blaid na'r llall gyda llaw.

Yn anarferol i'r Iwerddon cafwyd llywodraeth nad oedd yn cynnwys Fianna Fail yn parhau am bum mlynedd llawn o 1982 hyd 1987. Clymblaid Llafur a Fine Gael oedd hon eto. Syrthiodd pleidlais y ddwy blaid yn sylweddol iawn y tro hwn gyda Fine Gael yn mynd o 39.2% i 27.1% a Llafur yn syrthio o 9.4% i 6.5%.

Aeth Llafur i ddwy glymblaid rhwng 1992 a 1997 - y tro cyntaf efo Fianna Fail, a'r ail dro efo'r Democratic Left a Fine Gael. Syrthiodd ei phleidlais fel carreg ym 1997 - o 19.5% i 10.4%. Cododd pleidlais Fine Gael o 24.4% i 27.9%, ac ychydig o newid fu ym mhleidlais y ddwy blaid arall.

Cafwyd dwy glymblaid PDs a Fianna Fail wedyn o 1997 i 2002 ac o 2002 i 2007. Cynyddu mymryn wnaeth pleidlais FF yn 2002 (39.3% i 41.5%). Syrthiodd pleidlais y PDs o 4.7% i 4% - ond dwblwyd eu seddi o 4 i 8. Aros yn ei hunfan wnaeth pleidlais Fianna Fail yn 2007 ond syrthiodd un y PDs i 2.7%.

Clymblaid Fianna Fail, Gwyrdd a PD gafwyd o 2007 i 2011 ac fe chwalwyd pleidlais pob un o bleidiau'r glymblaid yn sgil y llanast economaidd - FF o 41.5% i 17.4%, y Blaid Werdd o 4.6% i 1.8% ac ni thrafferthodd y PDs i sefyll.

Rwan mae'r patrwn yma'n gymhleth. Mae cydadrannau lleiaf y clymbleidiau yn tueddu i golli llawer o bleidleisiau - ond mae pleidiau bach yn tueddu i golli pleidleisiau ym mhob etholiad yn yr Iwerddon beth bynnag. Mae yna batrwm mewn gwleidyddiaeth Gwyddelig lle ceir pleidiau newydd yn ymddangos, yn gwneud yn dda am ychydig flynyddoedd ac yna yn colli pleidleisiau etholiad ar ol etholiad, ac yn y diwedd yn marw.

O ran y ddwy blaid fawr does yna ddim patrwm - maent yn elwa o glymbleidio weithiau, tra'n dioddef dro arall. O ran Llafur serch hynny mae yna batrwm pendant o golli pleidleisiau ar ol clymbleidio - ond hyd yn oed pan nad ydynt mewn llywodraeth am gyfnodau maith, nid ydynt yn llwyddo i dorri allan o'r rhychwant 10% i 20%. Dyna ydi eu norm hanesyddol - ac nid ydynt yn ymddangos i fod gyda'r gallu symud oddi yno - clymblaid neu beidio.

A daw hyn a ni yn ol at Gymru, a Phlaid Cymru. Fel y Blaid Lafur Wyddelig, mae'r Blaid yn sownd mewn rhychwant gweddol gul o ran cefnogaeth etholiadol - er bod amrediad y Blaid wedi cynyddu ers dyfodiad datganoli, ac er iddi ddangos ei bod yn bosibl iddi dorri allan o'r amrediad hwnnw yn 1999. Fel y Blaid Lafur Wyddelig mae'n cael trafferth apelio at garfannau sylweddol o etholwyr. Mae'r Blaid yn cael trafferth efo elfennau arwyddocaol o'r Gymru ddi Gymraeg - yn arbennig yn y dinasoedd, ar hyd y gororau ac ar hyd arfordir deheol y wlad. Ni all y Blaid Lafur Wyddelig gysylltu efo pobl sy'n byw y tu allan i drefi a dinasoedd, efo pobl sy'n byw yn agos at y ffin, nag efo elfennau o'r dosbarth gweithiol trefol hyd yn oed. Mae ei delwedd ol genedlaetholgar yn broblem sylweddol i lawer iawn o bobl dosbarth gweithiol.

Rwan 'dydi'r Blaid Lafur heb newid i ddelio gyda'i phroblemau etholiadol, ond mae wedi llwyddo i fod mewn llywodraeth am gyfnodau rhesymol, ac wedi llwyddo i wireddu rhai o'i delfrydau rhyddfrydig yn sgil hynny. 'Dydi hi heb addasu llawer, ond mae wedi dylanwadu ar sut wlad ydi Iwerddon.

Hyd y gwelaf i mae gan y Blaid ddau ddewis - efelychu Llafur Iwerddon a pharhau yn ffyddlon i'r hyn ydyw, tra'n bachu ar pob cyfle i reoli er mwyn gwneud y wlad yn fwy tebyg iddi hi ei hun ydi un dewis. Newid mewn modd radicalaidd sy'n gwneud y Blaid yn fwy tebyg i'r Gymru gyfoes ydi'r llall. Byddai hyn yn ehangu'r potensial am gefnogaeth yn sylweddol,
byddai hefyd yn hynod o anghyfforddus i lawer o'i chefnogwyr traddodiadol. 'Dydi hynny ddim o anghenrhaid yn golygu na ddylid clymbleidio - ond 'does yna ddim rheidrwydd i wneud hynny os mai dyma'r dewis.

Ond yr hyn sy'n sicr ydi nad ydi gwrthod newid a hefyd peidio a chymryd mantais o gyfleoedd i reoli yn opsiwn. Byddai'r dewis yma yn caniatau i'n gelynion gwleidyddol newid y wlad yn raddol ar eu llun a'u delwedd eu hunain tra'r ydym ninnau'n aros yn yr unfan - yn mynd yn llai a llai tebyg i'r etholwyr yr ydym yn ceisio apelio atynt, ac yn mynd yn raddol fwy a mwy amherthnasol.


Tuesday, June 14, 2011

Symud ymlaen, 'ta gogor droi am bum mlynedd?


Cafwyd cryn sylw'r wythnos diwethaf i'r digwyddiad bach pan gafodd Carwyn Jones y myll efo Jocylyn Davies. Yr hyn a gafodd lai o sylw ydi pam yn union ymatebodd Carwyn yn y ffordd y gwnaeth - wedi'r cwbl 'dydi'r dyn ddim yn un am wylltio fel rheol - yn wir mae'n greadur digon lleddf a di gynnwrf.

Rwan, mae'r ffaith iddo wylltio yn awgrymu bod rhywbeth oedd wedi ei ddweud gan Jocylyn wedi taro'r targed. Wedi'r cwbl gwylltio fydd pobl gan amlaf pan maent yn teimlo o dan rhyw fath o fygythiad. Felly beth oedd wedi ei ddweud i beri'r fath ymateb? Wel, cyfeirio oedd Jocylyn at ddiffyg gweithgarwch llywodraeth Llafur hyd yn hyn. Mae'r cyhuddiad hwnnw yn cael ei ail adrodd heddiw gan y gwrthbleidiau yn sgil cyhoeddi 'blaenoriaethau'r' weinyddiaeth newydd.

'Dydi hi ddim yn gyfrinach bod gan Carwyn enw am fod yn ddiog. 'Dydw i ddim yn gwybod faint o wirionedd sydd y tu ol i'r canfyddiad yma, ond byddai synnwyr cyffredin yn awgrymu nad diogi fyddai un o brif nodweddion rhywun sydd wedi creu dwy yrfa lwyddiannus iddo'i hyn ym myd y gyfraith a gwleidyddiaeth. Serch hynny mae'r argraff o Carwyn fel dyn diog yn bodoli, a mewn gwleidyddiaeth mae argraffiadau cynnar yn tueddu i aros efo dyn. Efallai mai'r rheswm ydi osgo hamddenol di ffwdan Carwyn - felly mae pethau - mae nodweddion arwynebol yn aml yn diffinio person i bobl nad ydynt yn ei adnabod.

Mewn talwrn gwleidyddol mwy ffyrnig nag un Cymru gwneir defnydd di drugaredd o nodweddion personol arweinwyr gwleidyddol i greu delweddau negyddol o'u pleidiau. Er enghraifft 'doedd John Major ddim yn greadur llywath o bell ffordd - ond roedd yna rhyw osgo felly ganddo. Felly roedd delweddau ohono efo'i drons y tu allan i'r drywsus yn cael eu defnyddio'n ddi baid i bortreadu ei blaid fel un aneffeithiol a di glem. Yn yr un modd roedd llygaid mymryn yn lloerig yr olwg Blair yn cael eu defnyddio i symbylu delwedd o'i blaid fel corff obsesiynol a rhyfedd oedd eisiau rheoli pob dim ym mhob man ar pob achlysur - yn llwyr a chyfangwbl.

'Dydi pethau ddim mor ddi drugaredd yng Nghymru wrth gwrs, ond gallai osgo Carwyn yn hawdd ddod i symbylu llywodraeth ddiog a ddi symud - a llywodraeth felly fydd hi - nid oherwydd diffygion ar ran Carwyn, ond oherwydd natur y Blaid Lafur Gymreig.

Mae Llafur Cymru yn babell eithaf eang sy'n cynnwys amrywiaeth eang o bobl sydd a fawr ddim yn gyffredin ag eithrio eu bod yn hoffi ennill grym ac yn gweld eu plaid fel prif golofn sefydliadol Cymru. Cadw pob carfan yn hapus ydi greddf gryfaf y blaid, a dyna pam bod Llafur mor aneffeithiol am lywodraethu ar ei phen ei hun yng Nghymru. Roedd llywodraeth 2003 - 2007 yn fodel o lywodraethiant di ddim, ac mae cynghorau sy'n cael eu rheoli gan y Blaid Lafur Gymreig yn aml yn anobeithiol o aneffeithiol. Mae'n rhaid wrth gyfeiriad pendant i lywodraethu'n effeithiol - 'dydi plesio pawb ddim yn cynnig cyfeiriad i'r unman.

Y rheswm bod Cymru'n Un cymaint mwy llwyddiannus na'r llywodraeth Llafur a'i ragflaenodd oedd bod Llafur wedi gorfod sortio ei phroblemau mewnol ar y cychwyn, negydu cytundeb gyda Phlaid Cymru ac wedyn gweithredu'r cytundeb hwnnw. Os na fydd Llafur yn cael ei gorfodi i glymbleidio, yna byddwn yn ol yn sefyllfa 2003 - 2007 lle mai buddiannau'r Blaid Lafur fydd y brif ystyriaeth wrth lywodraethu Cymru - ac mi gawn bum mlynedd o ogor droi a lladd amser.

O dan yr amgylchiadau anodd presenol, ni all Cymru fforddio hynny.

Monday, June 13, 2011

Llofruddio o bell


Mae'r defnydd o drones - awyrennau di beilot sy'n cael eu rheoli o America ond sy'n cael eu defnyddio i ladd targedau ymhell bell i ffwrdd mewn gwledydd fel Pacistan - yn un o nodweddion newydd rhyfela.

Y ddadl mae gweinyddiaeth Obama yn ei gynnig o'u plaid ydi eu bod yn gywir ac yn effeithiol. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod lle i gredu eu bod yn lladd 50 o bobl yn anfwriadol am pob person maent yn ei ladd yn fwriadol.

Mewn ardal lle mae canran uchel o bobl yn arfog ac yn elyniaethus i'r Gorllewin 'dydi defnyddio'r dull hwn fawr gwell na mynd at rhywun ar hap, ei saethu a gobeithio ei fod yn elyn.

Saturday, June 11, 2011

Sut i ennill etholiadau mewn pum cam syml

Mae'r Blaid ar hyn o bryd yn edrych ar y gwersi sydd i'w dysgu yn sgil ei pherfformiad siomedig yn etholiadau'r Cynulliad eleni. 'Dwi'n siwr y bydd y broses yn gynhwysfawr ac yn edrych ar pob dim gan gynnwys strategaeth a thactegau etholiadol, lleoliad gwleidyddol y Blaid, trefniadaeth mewnol, defnydd o adnoddau ac ati.

Rwan mae'r ymarferiad yn sicr o fod yn un gymhleth - ac mae'n rhaid wrth ymarferiad felly os ydi'r adolygiad i gwmpasu pob dim sydd angen ei gwmpasu. Ond mae hefyd yn bwysig cofio mai mater syml ydi gwneud yn dda mewn etholiadau yn y bon. Gellir torri'r broses o lwyddo yn etholiadol i bump cam syml:

(1) Llunio 'stori wleidyddol' glir sy'n apelio at grwpiau cymharol fawr o bobl.
(2) Arenwi'r bobl mae ein 'stori'n apelio atynt.
(3) Cysylltu efo'r bobl hynny.
(4) Cadw mewn cysylltiad rhwng etholiadau, ac yn ystod ymgyrchoedd etholiadol.
(5) Sicrhau eu bod yn pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.

Byddai gwella ar pob un o'r pwyntiau uchod yn gam sylweddol i'r cyfeiriad cywir o ran llwyddo'n etholiadol.

Yr hen reddf i gadw pobl allan o wleidyddiaeth yn ail ymddangos

Fedrwn i ddim peidio meddwl am Winston Churchill wrth ddarllen y canlynol ar flogiad diweddaraf Derwydd y Goban Las:

On Tuesday four Plaid Cymru AMs boycotted the official opening of the Welsh Assembly on the grounds that their desire for an independent republic of Wales was incompatible with attending a ceremony presided over by the Queen. Strangely this idealism hasn't prevented any of the four from taking the oath of alleigence to the same Queen — a pre-requisite to taking up their positions (and, more importantly I suspect, their taxpayer-funded salaries);

Roedd Churchill yn berson oedd a greddfau gwrth ddemocrataidd er bod llawer i un yn ei ystyried yn ganolog i oroesiad democratiaeth yn y ganrif ddiwethaf. Mae'r dyfyniad yma o un o'i areithiau yn erbyn ymestyn yr hawl i bleidleisio i ferched yn esiampl o hyn.

The women’s suffrage movement is only the small end of the wedge. If we allow women to vote it will mean the loss of social structure and the rise of every liberal cause under the sun. Women are well represented by their fathers, brothers and husbands.

Mae gan plaid Paul hanes hir iawn o geisio torri grwpiau o bobl allan o wleidyddiaeth.

Er enghraifft roedd y rhan fwyaf o Doriaid yn erbyn y Catholic Relief Act 1829 (oedd yn rhoi hawl i Babyddion dosbarth canol bleidleisio am y tro cyntaf), a'r unig reswm i Robert Peel a Dug Wellington newid eu meddyliau a chefnogi'r ddeddf oedd oherwydd eu bod yn ei hystyriedl ffordd o atal yr anhrefn oedd yn lledaenu yn yr Iwerddon ar y pryd.

Roedd ei blaid yn erbyn Deddf Diwygio 1832 - deddf oedd yn ymestyn hawliau pleidleisio i tua miliwn o ddynion ac yn mynd rhan o'r ffordd i ddelio efo'r gyfundrefn lle'r oedd rhai 'etholaethau' seneddol i bob pwrpas yn perthyn i berchnogion tir, a gallai'r rheiny i bob pwrpas ddewis aelodau seneddol - yr enwog rotten boroughs.


Roeddynt hefyd yn erbyn Deddf Diwygio 1866 oedd yn rhoi hawl pleidleisio i bob dyn oedd yn ennill mwy na 26 swllt yr wythnos - er bod eironi yma - gorfodwyd Disraeli gan y bygythiad o anhrefn ar y strydoedd yn dilyn methiant y ddeddf, i gefnogi deddf llawer mwy radicalaidd y flwyddyn ganlynol - un a roddodd hawliau pleidleisio i pob dyn - er bod y cyfoethog a'r addysgiedig (yr un pobl gan amlaf) yn cael pleidleisiau ychwanegol.

Ac rwan mae Paul yn adleisio cwestiwn Gareth Glyn y diwrnod o'r blaen trwy ddadlau mai rhagrith ydi hi i bobl sydd wedi cael eu gorfodi i dyngu llw i'r frenhines i brotestio yn erbyn y frenhiniaeth. Dadl Paul felly ydi y dylid dewis rhwng yr hawl i fynegi daliadau gweriniaethol a'r hawl i wleidydda - yn broffesiynol o leiaf. Yn wir mae ymhlyg yn ei ddadl na ddylai pobl sy'n gwrthwynebu'r frenhiniaeth wasanaethu fel cynrychiolwyr etholiadol.

Rwan, 'dwi'n gwybod bod llawer o bobl yn y DU yn ystyried cred na ddylid dewis pwy sydd i arwain y wladwriaeth ar sail pwy yw ei deulu a'i bod yn beth amhriodol i dyngu llw o deyrngarwch i'r unigolyn hwnnw / honno, yn un ryfedd. Ond i lawer o bobl y tu allan i'r DU y gwrthwyneb sy'n wir - mae'r drefn Brydeinig yn cael ei hystyried yn rhyw ran rhyfedd o'r Byd ffiwdal sydd wedi goroesi rhywfodd neu'i gilydd. Mae'n debygol bod daliadau Leanne, Bethan, Llyr a Lindsey yn llawer nes at norm y rhan fwyaf o'r byd democrataidd nag ydi rhai eu beirniaid. Does yna ddim oll o'i le mewn bod a'u hagwedd nhw at y frenhiniaeth.

Cafwyd is etholiad West Belfast ddydd Iau, ac nid oedd o syndod i neb i'r ymgeisydd Sinn Fein, Paul Maskey ennill. Mi fydd Paul Maskey yn ymddwyn yn unol a chyngor Paul (Williams) i'r pleidwyr hynny na aethant i'r Cynulliad, ac yn gwrthod cymryd ei sedd. Canlyniad hyn ydi na fydd ei etholaeth yn cael ei chynrychioli yn San Steffan - ac nid ydi'r etholaeth arbennig yma wedi anfon cynrychiolaeth yno am ugain mlynedd. Efallai mai sefyllfa felly hoffai Paul ei gweld yng Nghymru.

Rwan dwi'n gwybod bod llawer o'r digwyddiadau gwleidyddol rydym wedi edrych arnynt yn y blogiad yma yn hen hanes, ond mae'n rhyfedd fel mae'r reddf i fod eisiau torri grwpiau o bobl allan o'r broses wleidyddol yn ail godi dro ar ol tro ar amryiol ffurfiau mewn gwleidyddiaeth geidwadol Brydeinig - ac mae'n ail godi hyd heddiw.

Thursday, June 09, 2011

Storm ffug y cyfryngau a gwers 1969 / 1970

Mae gen i gryn barch at grebwyll gwleidyddol Vaughan, ond 'dwi'n meddwl ei fod yn gwneud gormod o effaith absenoldeb Ieuan Wyn Jones o'r brenhinol ddigwyddiad y diwrnod o'r blaen - mi fyddwn yn meddwl bod Dylan Iorwerth yn nes ati pan mae'n awgrymu bod absenoldeb Ieuan o waith go iawn y Cynulliad yn fwy o broblem.

Efallai y byddai cymryd cip yn ol ar ddigwyddiad brenhinol arall yng Nghymru yn helpu dangos pam na ddylid cymryd y rhuo, y myllio a'r tantro ar y radio, yn y papurau ac ar negesfyrddau gormod o ddifri.

'Dwi'n byw yng Nghaernarfon, a 'dwi wedi byw yn y dref neu yn agos ati trwy gydol fy mywyd - ar wahan i gyfnod coleg a blwyddyn yng Nghaerdydd. Mae gen i gof plentyn o'r ffraeo ddaeth yn sgil yr arwisgiad yn ol yn 1969 - er mai'r awyrgylch anymunol a'r anghytuno rhwng cymdogion rwyf yn ei gofio yn hytrach na'r manylion am y digwyddiad ei hun a'r hw ha yn yr wythnosau oedd yn arwain ato.

Flynyddoedd wedyn y deuthym yn ymwybodol o natur yr hysteria yn y wasg - a'r casineb oedd yn cael ei gyfeirio tuag at y sawl oedd yn gwrthwynebu'r jambori. Mi dreuliais flwyddyn yng nghanol yr wythdegau yn gweithio yn Archifdy Gwynedd ar yr hyn a elwid bryd hynny yn gynllun creu gwaith. Roedd y joban fach yn un ddifyr iawn, ond fel sy'n gyffredin efo gwaith sydd wedi ei greu i gael pobl oddi ar y dol, doedd pob dydd ddim yn brysur - o bell ffordd. Felly roedd digon o amser gennyf i edrych ar ddeunydd oedd o ddiddordeb personol i mi yn y strongrooms ar loriau uchaf yr adeilad sy'n gartrefi i gasgliadau'r cyngor o ddogfennau hanesyddol.

Mae yna ystafell sydd a chasgliad di ail o bapurau lleol sy'n mynd dyn yn ol ardal Caernarfon mewn cyfnodau eraill. Mi dreuliais i un prynhawn yn edrych ar bapurau lleol o gyfnod yr arwisgiad - ac fe'm rhyfeddwyd at y casineb a fynegwyd yn y colofnau llythyrau a'r adrannau golygyddol tuag at y sawl nad oeddynt yn croesawu'r digwyddiad. Rwan, dwi ddim cofio os oedd y Blaid ar y pryd yn cymryd safbwynt benodol ar y mater - ond roedd pawb yn lleol yn gwybod mai aelodau'r Blaid oedd y rhan fwyaf o'r gwrthwynebwyr - ac roedd y llythyrwyr a'r newyddiadurwyr yn gwbl glir ynglyn a phwy oedd i'w beio am ddod a 'chywilydd ar yr ardal'. 'Dwi'n cofio yn arbennig o dda erthygl olygyddol yn y Caernarvon & Denbigh oedd yn dod yn agos at orchymyn y darllenwyr i ddial ar y Blaid yn yr etholiad cyffredinol a ddisgwylwyd y flwyddyn ganlynol.

Ac wrth gwrs fe ddaeth yr etholiad honno yn ei thro - a daeth a gogwydd sylweddol tuag at y Blaid yn etholaeth Caernarfon yn ei sgil - 6,834 (21.7%) oedd y bleidlais yn 1966 - roedd yn 11,331 (33.4%) erbyn 1970. Erbyn 1974 byddai'r Blaid wedi cipio'r sedd, ac yn y degawdau canlynol daeth i ddominyddu gwleidyddiaeth yr ardal.

Rwan, ni allaf brofi bod perthynas rhwng y cynnydd ym mhleidlais y Blaid a'r arwisgiad - ond mae'n anodd dadlau bod canfyddiad bod y Blaid yn wrth frenhinol wedi gwneud llawer o ddrwgi'r achos. Efallai i ddigwyddiadau 69 godi proffil cenedlaetholdeb Cymreig, a rhoi tir gwyrdd rhwng y Blaid a'r pleidiau unoliaethol - sefyllfa a allai'n hawdd fod yn llesol heddiw.

Y gwir amdani ydi hyn - mae yna leiafrif o bobl sydd efo ymlyniad crefyddol bron tuag at y frenhiniaeth, ac maen nhw o dan yr argraff ei bod yn ddyletswydd ar bawb i gytuno efo'u barn ar y mater. Pan mae rhywun neu'i gilydd yn cicio'n rhy galed yn erbyn eu tresi mae'r ymateb yn aml yn ffyrnig, swnllyd a hysteraidd. 'Dydi hynny ddim yn golygu bod yna lawer o bobl yn rhannu eu hobsesiwn. Yn bersonol fedra i ddim meddwl am fawr neb sydd a llawer o ddiddordeb mewn materion brenhinol.

Difaterwch ydi prif nodwedd agwedd y rhan fwyaf o bobl at y teulu brenhinol heddiw - a 'doedd pethau ddim mor wahanol a hynny yn 69. Dyna pam mai ychydig iawn o bobl drafferthodd fynd i'r Bae i weld y pedwarawd brenhinol yr wythnos yma, a dyna pam bod y parciau ceir dros dro anferth oedd wedi eu hagor o gwmpas tref Caernarfon yn 69 yn dri chwarter gwag.

Wednesday, June 08, 2011

Carwyn ddim eisiau'r hawl i drethu

Felly gofyn am £300m ychwanegol o arian cyhoeddus i Gymru ydi prif neges Carwyn Jones i lywodraeth San Steffan - yn wahanol i'r llywodraethau datganoledig eraill - maen nhw'n chwilio am fwy o bwerau trethu.

'Dydi hyn ddim yn syndod i flogmenai - 'dwi wedi dadlau yma sawl gwaith y bydd Llafur Cymru yn gwneud pob dim posibl i osgoi cymryd unrhyw gyfrifoldeb tros drethu. Ei gallu i alw am fwy a mwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru, heb orfod bygwth codi ceiniog o dreth ar neb yn y wlad, ydi prif sail poblogrwydd etholiadol Llafur yma. Byddai derbyn yr hawl i drethu yn sefydlu perthynas rhwng trethiant a gwariant - y peth diwethaf mae'r Blaid Lafur Gymreig am ei weld.

Mae gofyn am £300m ychwanegol ar y llaw arall yn gweddu'n dwt efo'r ffordd mae Llafur yn gweld y Byd a'i bethau. 'Dydi'r ffaith bod y tanwariant yma ar Gymru'n hysbys i bawb ym mlynyddoedd olaf y llywodraeth San Steffan Llafur diwethaf, ac i'r llywodraeth hwnnw wrthod yn blwmp ac yn blaen i fynd i'r afael a'r sefyllfa, ddim yn amharu mymryn ar gred arweinyddiaeth Llafur Cymru nad oes dim pwysicach na chael y £300m gan San Steffan.

Tuesday, June 07, 2011

Y BBC a'r gweriniaethwyr ym Mae Caerdydd

Oes yna unrhyw un oni bai amdanaf i yn anghyfforddus ynglyn a'r ffordd mae Bib yn trin yr ACau hynny wnaeth gadw draw o'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw?

Er enghraifft, pan roedd Gareth Glyn yn holi Bethan Jenkins ar Post Prynhawn heddiw, roedd dwy ragdybiaeth y tu ol i'w holi mewn gwirionedd - bod Ms Jenkins yn ceisio tynnu sylw ati hi ei hun, ac na ddylai gweriniaethwraig fod wedi tyngu llw i'r frenhines wrth gael ei derbyn i'r Cynulliad. Mae awgrymiadau o ragrith ac o chwilio am sylw yn rhai digon personol ac annifyr - rhai na fydd yn codi eu pennau ar Post Prynhawn yn aml iawn.

Rwan mae'r rhagdybiaethau hyn yn rhagfarnau mewn gwirionedd - ac yn rhai digon gwirion ar hynny. Gallai Gareth gyfeirio'r cwestiwn o hunan gyhoeddusrwydd at lawer iawn o bobl sy'n ymddangos ar ei raglen. Cyn ymddangos ar Post Prynhawn mae pobl fel rheol wedi gwneud rhywbeth neu'i gilydd sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd. Hwyrach y dylai Gareth groesawu pawb mae'n ei holi trwy ofyn os mai chwilio am gyhoeddusrwydd personol oeddynt tra'n gwneud beth bynnag roeddynt wedi ei wneud i Gareth fod eisiau eu holi nhw.

Mae tyngu llw i'r frenhines yn rhywbeth sy'n cael ei orfodi ar bron i bawb sydd eisiau bod yn wleidydd proffesiynol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. 'Dydi'r ffaith bod rhywun wedi tyngu llw o dan amgylchiadau felly ddim yn golygu y dylai'r person hwnnw sicrhau ei fod yn ymbresenoli ei hun pob tro mae'r frenhines yn ymddangos. 'Dydi o ddim chwaith yn dystiolaeth bod ganddyn nhw safonau dwbl.

Ymhlyg yn yr awgrym bod Bethan Jenkins yn y joban anghywir os nad ydi hi'n fodlon mynegi teyrngarwch i'r frenhines mae cred digon anymunol bod rhai credoau ynglyn a threfniant gyfansoddiadol y DU yn amddifadu'r sawl sy'n eu harddel o'r hawl i wleidydda yn broffesiynol.

Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol mai corff sefydliadol ydi'r Bib yn ei hanfod - a bod amddiffyn sefydliadau eraill yn dod mor naturiol i'r gorfforaeth nag ydi anadlu. 'Dwi'n meddwl bod cyfweliad bach annifyr Gareth Glyn yn tanlinellu'r pwynt hwnnw.

Monday, June 06, 2011

Newidiadau i ffiniau etholaethol Cymru

Mae Golwg 360 heddiw yn tynnu sylw at y goblygiadau i Gymru o astudiaeth y Guardian o'r hyn sy'n debygol o ddigwydd yn sgil y newidiadau yn ffiniau sydd ar y gweill ar gyfer etholaethau San Steffan.

Mae'r astudiaeth yn un ddiddorol, a digon treiddgar.Yn sicr mae egwyddorion yr ymchwil yn ymddangos yn eithaf rhesymol. Byddai dyn yn disgwyl i Lafur wneud yn well na neb arall yng Nghymru (i'r graddau eu bod yn colli canran is o'u seddi na Phlaid Cymru a'r Toriaid) ac i'r Toriaid wneud hynny tros y DU. Byddai dyn hefyd yn disgwyl i'r Lib Dems gael cryn glec cyn bod llawer o'u seddi nhw wedi eu hamgylchu gan rai Toriaidd. Mae unrhyw broses sydd yn arwain at lai o seddi yn debygol o ffafrio'r pleidiau mwyaf ar draul y rhai llai.

Ond, os ydym yn edrych ar bethau mewn cyd destun Cymreig, mae'n anodd bod yn sicr beth yn union fydd yn digwydd - the devil is in the detail chwadl y Sais. Mae yna ambell i ardal lle mae'n bosibl rhagweld yn fras gyda pheth hyder beth fydd yr effaith, ond mae'n fwy anodd darogan yn union beth fydd effaith y newid mewn ardaloedd eraill.

Er enghraifft gallwn dybio y bydd Sir Gar sydd efo dwy etholaeth a hanner ar hyn o bryd yn dychwelyd at ei phatrwm hanesyddol o ddwy etholaeth - y naill gyda thref Caerfyrddin yn ganolbwynt iddi, a'r llall wedi ei lleoli o gwmpas Llanelli. Mae union natur yr etholaethau yn dibynnu'n llwyr ar pa wardiau sy'n mynd i pa etholaeth - ac oherwydd hynny mae'n anodd dweud os mai mewn etholaeth Llafur neu Blaid Cymru y bydd Llanelli a Chaerfyrddin wedi 2015.

Mae'n anodd hefyd gweld sut y gellir ymestyn Mon heb gynnwys Bangor yn yr etholaeth newydd. Byddai hynny (mewn etholiad San Steffan o leiaf) o gymorth i Lafur ym Mon, ond byddai yn chwalu ei phleidlais yng ngweddill Gwynedd. Ond ni fyddai ychwanegu Bangor at Fon yn ddigon o bell ffordd i greu etholaeth o'r maint cywir. Byddai ffawd yr etholaeth yn ddibynnol ar pa wardiau eraill fyddai'n cael eu hychwanegu - mae mwyafrif llethol y gweddill yn pleidleisio i Blaid Cymru - rhai yn drwm iawn, rhai yn llai trwm. Byddai pob dim yn dibynnu ar pa wardiau yn union fyddai'n cael eu hychwanegu at yr etholaeth newydd.

Un peth sy'n sicr - 'does yna ddim ffordd o ychwanegu rhannau o Arfon at Fon heb ei gwneud yn amhosibl i'r Toriaid ennill. 'Does yna ddim rhan arwyddocaol o Arfon gyda mwy na thua 20% o'r bleidlais yn mynd i'r Toriaid, ac mae'r ffigyrau yn y rhan helyw o'r etholaeth yn is o lawer na hynny. 'Does yna ddim ffordd chwaith o wybod i ba raddau y byddai pobl yn pleidleisio am resymau daearyddol - gallai hynny yn hawdd ddigwydd mewn etholaeth sy'n cynnwys Mon a rhan o Wynedd.

'Does yna ddim digon o etholwyr i gael dwy etholaeth yn Sir Benfro, ond mae yna ormod ar gyfer un. Mae'n rhesymol felly cymryd y bydd rhan o ardal y Preseli yn mynd yn ol at Sir Geredigion. Unwaith eto mae'n anodd dweud pa effaith gaiff hynny - cymharol ychydig o bleidleisiau Lib Dem a Phlaid Cymru oedd yn y Preseli y llynedd, ond ychydig o rai Llafur a Cheidwadol oedd yn Sir Geredigion. Mae'n debyg bod yna gryn dipyn o bleidleisio tactegol yn y ddwy etholaeth ar hyn o bryd - byddai canfyddiad bod gan pob un o'r pleidiau rhyw fath o obaith yn lleihau'r duedd i bleidleisio'n dactegol, a gellir yn hawdd dychmygu newid sylweddol ym mhatrymau pleidleisio yn yr etholaeth newydd.

Mae yna ambell i ardal lle mae pethau'n ymddangos yn dwtiach. Byddwn yn tybio y bydd Caerdydd yn colli un etholaeth (o'i phedair) ac y bydd ardal Penarth o etholaeth De Caerdydd yn mynd at Fro Morgannwg - ei gartref naturiol, ac y byddai ambell i ardal arall ar gyrion y ddinas yn cael eu colli. Wedyn byddai'n rhaid addasu ffiniau etholaethau Caerdydd i gael tair etholaeth gyfartal. Mae'n debyg y byddai trefniant felly yn cryfhau Llafur yng Nghaerdydd, ond yn gwneud pethau'n haws i'r Toriaid ym Mro Morgannwg.

Felly tra bod yr ymarferiad yn un digon diddorol, mae'n anodd darogan yr union effaith yn y rhan fwyaf o Gymru - hyd y byddwn yn gweld y manylion - ym mis Medi mae'n debyg.

Sunday, June 05, 2011

Attention seeker

Felly mae Chris Bryant o'r farn bod Leanne Wood yn attention seeker oherwydd ei bod yn bwriadu mynd i bacio bocsus bwyd ar gyfer pobl dlawd ddydd Mawrth yn hytrach na gwneud ei ffordd i Fae Caerdydd i weld y frenhines.

Chris Bryant yn galw Leanne Wood yn attention seeker.

Chris Bryant?

Chris Bryant?

Profiad prin i mi ydi methu dod o hyd i eiriau, ond mae heddiw'n eithriad - felly wna i ddim trio.

Chris yn gwneud ei orau glas i osgoi sylw'r Daily Mail

Saturday, June 04, 2011

A'r diweddaraf am y teulu brenhinol _ _ _

Diolch yn fawr i Golwg360 am adael i ni wybod bod William, Dug Caergrawnt wedi reidio ceffyl o'r enw Wellesley.

Ag ystyried cymaint o straeon brenhinol sy'n ymddangos ar Golwg360 yn ddiweddar, mae'n fy nharo y gallant greu adran benodol ar eu gwefan i ymdrin a'r pwnc hynod ddiddorol yma - rhywbeth tebyg i Court Circular y Times efallai, ond gydag ymroddiad gallai fod hyd yn oed yn well na hynny.

Mewn oes pan mae pob cyfrwng newyddion masnachol yn chwilio am bwynt gwerthu unigryw, mae'n anodd meddwl am unrhyw beth mwy unigryw na chael darllen trwy gyfrwng y Gymraeg am pob ffesant sy'n cael ei saethu yn Balmoral, hynt a helynt y corgwn brenhinol a manylion am arlwy pob parti harti ym Mhalas Buckingham.

Perfformiad yr SNP eleni

'Dwi'n dwyn y ffigyrau a'r stori ganlynol o'r blog penigamp o Ogledd Iwerddon, Slugger O'Toole.

Y pwynt mae Slugger yn ei wneud ydi bod yr SNP wedi dod yn rhyfeddol o agos at ennill pob sedd uniongyrchol yn etholiadau Senedd yr Alban eleni:

Coatbridge and Chryston 2,741 Llaf
Motherwell and Wishaw 587 Llaf
Uddingston Bellshill 714 Llaf
Glasgow Maryhill and S’burn 1,292 Llaf
Glasgow Pollock 623 Llaf
Glasgow Provan 2,079 Llaf
Glasgow Rutherglen 1,779 Llaf
Orkney 868 Lib Dem
Shetland 3,328 Lib Dem
Edinburgh North and Leith 595 Llaf
Cowdenbeath 1,247 Llaf
Ayr 1,113 Tori
Dumfrieshhire 4,274 Llaf
East Lothian 151 Llaf
Ettrick, Roxburgh & Ber’shre 5,334 Tori
Galloway and West Dumfries 862 Tori
Dumbarton 1,639 Llaf
Eastwood 4,885 Llaf
Greenock and Inverclyde 511 Llaf
Renfrewshire South 2,587 Llaf

Yn ol Slugger mi fyddai 18,624 pleidlais (yn y lleoedd cywir) i'r SNP yn hytrach na phleidiau eraill wedi rhoi pob sedd etholaethol iddyn nhw.

'Rwan, dyna beth fyddai stori etholiadol.

Thursday, June 02, 2011

Libya - astudiaeth mewn rhagrith

Mae penderfyniad Elfyn Llwyd i alw am ddadl ynglyn ag ymyraeth y DU yn Libya yn amserol, ac yn gyfle i wneud ambell i sylw ynglyn a'r holl sefyllfa.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi ei bod yn weddol amlwg bod bwriad yr ymyraeth wedi newid, ac mai nid amddiffyn sifiliaid ydi'r bwriad bellach, ond newid y llywodraeth. Tra ei bod yn anodd iawn dod o hyd i rithyn o gydymdeimlad efo Gadaffi, mae'r hyn sydd yn digwydd yn taflu goleuni di drugaredd ar ragrith parhaol a pharhaus gwledydd gorllewinol pan maent yn ymdrin a llywodraethau unbeniaethol.

Mae hefyd werth nodi nad yw pob ymyraeth militaraidd gan y Gorllewin yn rhagrithiol nag yn negyddol o ran canlyniadau. Lleiafrif fyddai'n beirniadu cyrchoedd lluoedd awyr NATO yn Kosovo a Serbia yn 1999 - erbyn heddiw o leiaf.

Beth bynnag, ystyrier y canlynol:
  • Mae Prydain ar hyn o bryd yn hyfforddi gwarchodlu cenedlaethol Saudi Arabia - ac yn eu hyfforddi (ymysg pethau eraill) i 'reoli' torfeydd. Mae'r gwarchodlu wedi cael ei ddefnyddio yn ddiweddar i ymosod ar bobl sydd eisiau mwy o ddemocratiaeth yn Saudi Arabia, ac yn Bahrain. Doedd hyn ddim yn atal William Hague rhag dweud we stand today with the people’ rising up against tyrannical regimes,yn ei araith yn y Mansion House fis diwethaf.
  • Cafodd llywodraethau unbeniaethol Libya a Bahrain wahoddiad gan lywodraeth Prydain i ffair arfau y DSEi yn Llundain yn 2009. Ddeunaw mis yn ddiweddarach roedd rhai o'r arfau a brynwyd yn cael eu defnyddio gan y llywodraethau hynny i lofruddio eu dinasyddion eu hunain. Yn wir mae gwerthiant arfau Prydain i'r ardal hynod ansefydlog yma sydd wedi ei ddominyddu gan arweinwyr unbeniaethol creulon yn sylweddol - fel mae'r map isod yn ei ddangos.
  • Mae'n debyg i o leiaf 800 o sifiliaid gael eu lladd yn Syria tros y misoedd diwethaf gan luoedd diogelwch y wlad - mae'n ddigon tebygol bod hyn yn dywallt gwaed mwy sylweddol nag a ddigwyddodd yn Libya cyn i'r bomiau ddechrau syrthio - ac eto dydan ni ddim hyd yn oed yn gallu perswadio ein hunain i awgrymu i Bashar al-Assad ei fod yn dod o hyd i rhywbeth arall i'w wneud efo'i amser heb son am anfon awyrennau rhyfel i'r ardal.
  • Mae gan wledydd y Gorllewin hanes hir, hir o gynnig cefnogaeth i arweinwyr unbeniaethol ar hyd a lled y Byd - o Shah Iran i Pinochet.
Rwan mae yna reswm syml tros hyn oll wrth gwrs - pan mae gwledydd yn gweithredu maent yn gwneud hynny er eu budd eu hunain gan amlaf - mae yna eithriadau, ond hunan les ydi prif gymhelliant polisi tramor fel rheol. Mae smalio mai rhyw resymau dyngarol sy'n gyfrifol am ymyryd mewn materion mewnol gwledydd eraill yn gwneud yr ymyraeth yn fwy derbyniol i'r cyhoedd tros dro, ond mae'n creu canfyddiad o ragrith a safonau dwbl yn yr hir dymor.

Weithiau mae dyn yn teimlo y byddai dweud mae Gadaffi yn sinach, mae gennym sgor i setlo efo fo, mae ei wlad yn nofio mewn olew yn ffordd mwy derbyniol o gyfiawnhau yr hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd nag ydi'r holl ddoethinebu rhagrithiol am amddiffyn hawliau dynol.

Wednesday, June 01, 2011

Croeso (hwyr ar y diawl) Dylan

Croeso i flog newydd uniaith Gymraeg - Anffyddiaeth. Mae'n debyg ei bod yn anorfod y byddai yna flog yn ymwneud a'r pwnc yn siwr o ymddangos yn hwyr neu'n hwyrach.

'Dwi'n siwr y bydd Dylan (awdur y blog) a Rhys Llwyd yn cael oriau o hwyl di niwed yn darllen blogiau eu gilydd.

Cymdeithas yr Iaith, Bwrdd yr Iaith a ffrae Rockfield a Cross Ash

Mae'r ffrae fach rhwng y Bwrdd Iaith a Chymdeithas yr Iaith yn codi cwestiynau digon diddorol.

Asgwrn y gynnen ydi penderfyniad cynghorau plwyf pentrefi Rockfield a Cross Ash ym Mynwy i ddileu'r enwau Cymraeg arnynt ar y sail i'r rheiny gael eu cyflwyno yn ddiweddar ac nad oes yna ddefnydd wedi ei wneud ohonynt yn hanesyddol. Mae Bwrdd yr Iaith yn derbyn y rhesymeg tra bod Cymdeithas yr Iaith yn meddwl bod y penderfyniadau yn gosod cynsail peryglus - ac hynny yng nghyd destun y ffaith bod arwyddion ffordd yng Nghymru yn ddwyieithog.

Rwan mae'n ymddangos i mi yn gwbl amlwg mai Bwrdd yr Iaith sydd yn gywir yma - os ydym yn cymryd mai statws y Gymraeg ydi'r peth pwysig. Mae mwyafrif llethol enwau lleoedd yng Nghymru yn enwau Cymraeg. Y cynsail gwirioneddol beryglus ydi'r un mae Cymdeithas yr Iaith yn ei gefnogi - sef ei bod yn iawn i boetian efo enwau llefydd yn enw dwyieithrwydd. Mae gan y Gymraeg lawer iawn mwy i'w golli os ydym yn derbyn newid enwau lleoedd yn enw dwyieithrwydd.

Ydi'r Gymdeithas o ddifri eisiau gweld Cwmey ar yr un arwydd a Cwm y Glo, The Rivals efo'r Eifl a Dingle Dingle efo Dinas Dinlle?

Y BBC ym Mangor


Mae Ffred yn gwbl gywir i dynnu sylw at bwysigrwydd cynnal presenoldeb y Bib yn agos at y Gymru Gymraeg. Mi fyddai llawer ohonom yn dadlau bod y Bib yng Nghymru eisoes yn llawer mwy dinesig a deheuol ei naws nag ydi llawer o'i chynulleidfa.

Cilio oddi wrth ei chynulleidfa greiddiol oedd un o brif gamgymeriadau S4C - byddai'n anffodus petai'r Bib yn ailadrodd y camgymeriad - yn arbennig ag ystyried y bydd yr holl gyfrifoldeb am ddarlledu cyfrwng Cymraeg yn syrthio ar y gorfforaeth maes o law.