Sunday, March 03, 2024

Pam nad ydi cyfuno hunan hyrwyddo ar lein ac ymgyrchu tros y sector amaeth yn syniad da.

Gwefan ydi StarStat sydd - yn ol y sawl sy’n ei chyhoeddi - yn cofnodi faint o bres mae pobl sydd a sianel ar YouTube yn ei wneud.  Wele’r dudalen ar y ffermwr a’r hunan hyrwyddwr sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar - Gareth Wyn Jones.  

 

Petai syms y wefan yn gywir, byddai Mr Jones yn berson lled gyfoethog yn sgil ei gynnyrch YouTube. Yn ol Mr Jones, fodd bynnag, ‘dydi o ddim yn ennill dim byd tebyg i’r hyn a honnir gan StarStat, ond mae hefyd yn cydnabod ei fod yn ei gwneud hi’n reit dda yn ariannol o’i gynnyrch YouTube. ‘Dwi ddim yn deall sut mae StarStat yn cyfrifo gwerth YouTubwyr ac YouTubewragedd, ‘felly ‘does gen i ddim rheswm arbennig i beidio cymryd gair Mr Jones bod ei enillion gryn dipyn yn is na’r hyn honnir ar StarStat. Ond mae’n amlwg ei fod yn gwneud yn dda yn ariannol o’i YouTubio.  




 

Ydi hyn yn broblem?  Wel ‘dwi ddim yn dilyn sianel YouTube Mr Jones, felly ‘dwi ddim yn gyfarwydd efo’r cynnwys, ond ddim o anghenrhaid.  Mae ffermwyr yn cael eu hannog i arall gyfeirio  ac mae hon yn all gyfeiriad bach anarferol, os proffidiol iawn.  Er - wedi dweud hynny - i mi mae yna rhywbeth digon anghyfforddus mewn cyferbynnu y math o incwm y gellir ei wneud ar gyfryngau cymdeithasol efo’r hyn a wneir trwy amaethu’r tir.

 

Mae cyflogau cyfartalog gweithwyr amaethyddol yng Nghymru yn isel. Adlewyrchiad ydi’r cyflogau isel o’r ffaith bod incwm cyfartalog ffermydd sy’n cynhyrchu cig oen a chig eidion hefyd at ei gilydd yn isel iawn.  




 

Yn amlwg, os nad ydi incwm cyfartalog ffermydd i gynyddu yn y dyfodol canolig mae’r sector am barhau i erydu fel mae wedi gwneud am gyfnod sylweddol.  Erbyn hyn mae llai na 2% o’r gweithlu sy’n gyflogedig mewn amaethyddiaeth. 

 

Asgwrn y gynnen ar hyn o bryd wrth gwrs ydi’r amodau allai ddod efo cymorthdaliadau amaethyddol.  Mae cymorthdaliadau yn hynod bwysig i’r sector - mae’n debyg bod tua 2/3 o incwm y diwydiant yn ei gyfanrwydd yn dod o gymorthdaliadau.  Mae’n bwysig felly bod y diwydiant yn cael cymorthdaliadau ac yn eu cael ar amodau sydd ddim yn niweidiol iawn i incwm ehangach ffermydd.

 

Y broblem  sylfaenol efo cyfuno YouTubio am amaethyddiaeth  tra’n elwa yn ariannol o wneud hynny a chymryd rhan arweiniol mewn ymgyrchu i wella amodau ffermwyr ydi bod y ddwy weithgaredd yn wahanol iawn, ac mae yna wrthdaro rhyngddyn nhw.

 

Mae dwyn perswâd ar y llywodraeth i addasu eu cynlluniau ar gyfer y diwydiant a bod yn rhesymol efo ffermwyr yn gofyn am  ffordd arbennig o fynd ati - adeiladu cefnogaeth wleidyddol a sifil, negodi efo’r llywodraeth mewn modd sydd ddim yn cythruddo, dangos dealltwriaeth o’r materion mae’r llywodraeth yn ceisio eu cyfarch, cyfaddawdu lle mae hynny’n bosibl  a lleddfu’r dyfroedd yn hytrach na’u corddi.

 

Mae gwneud pres arwyddocaol o wefannau cymdeithasol yn ddibynnol ar ddenu ymwelwyr i’r wefan - a ‘dydi mynd ati i wthio agenda mewn modd adeiladol, cynhyrchiol sy’n cydnabod cymhlethdod ac yn wir realiti gwleidyddol ddim yn denu ymwelwyr.  

 

Yr hyn sydd yn denu ymwelwyr ydi deunydd syml, trawiadol, uniongyrchol ac  yn wir ymfflamychol weithiau. Ond dydi deunydd felly ddim am helpu ffermwyr gael y telerau gorau sy’n bosibl gan y llywodraeth. Mae ceisio cymysgu cynnyrch gwefannau cymdeithasol sydd a chymhelliad ariannol ynghlwm a fo a dylanwadu ar bolisi llywodraethol fel ceisio cymysgu olew a finegr mae gen i ofn – dydyn nhw ddim am gymysgu.  


Mae peryglon sylweddol yn wynebu’r sector amaethyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae gan yr undebau amaethyddol safbwyntiau rhesymegol a strategaeth glir o ran amddiffyn ffermydd ac ymateb i ofynion amgylcheddol, ac un cymhelliad yn unig sydd ganddynt - amddiffyn y sector. Gweithio efo’r undebau ydi’r ffordd ymlaen i’r sawl sy’n poeni am y sector.

No comments: