Yn wahanol i Alwyn mi wnes i eithaf mwynhau y rhaglen Welsh Knot (BBC 1) neithiwr. Cwyn Alwyn ydi bod y rhaglen yn arwynebol, ac iddi fethu a mynd i'r afael a'r cymlethdodau sydd ynghlwm a'r broses y bydd rhai pobl yn mynd trwyddi wrth ddewis pa iaith i'w defnyddio efo gwahanol unigolion.
Mae ganddo bwynt wrth gwrs - gor symleiddio y bydd rhaglenni fel hyn yn aml. Serch hynny roedd gan Welsh Knot neges greiddiol bwysig, sef nad ydi addysg Gymraeg ynddo'i hun am achub y Gymraeg. 'Dydi llawer o'r bobl sydd yn ffurfio polisi ddim yn sylweddoli hyn, ac mae'r ffaith bod y niferoedd o blant sy'n derbyn addysg Gymraeg yn cynyddu'n gyflym yn eu dallu i'r bygythiad mae'r iaith yn ei wynebu o hyd. Os ydi'r rhaglen wedi gwneud ychydig i gywiro'r camargraff yma, mae'n fwy defnyddiol na rhaglen mwy diddorol ond cymhleth ei neges.
Ta waeth, am gymhlethu pethau ydw i fy hun rwan. Grwp na chafodd sylw yn y rhaglen ydi'r bobl hynny sydd wedi mynd trwy'r system addysg Saesneg, mewn ardaloedd Seisnig ond sydd yn siarad Cymraeg. Mae'r wraig, Lyn yn syrthio i'r categori yma, mi gafodd hi ei haddysg Ysgol Landsdowne ac Ysgol Fitzalan yn Nhreganna, Caerdydd yn y chwedegau a'r saithdegau a hi ydi'r unig berson o'i theulu estynedig mawr sy'n siarad yr iaith.
Rhyw ddiwrnod roedd y ddau ohonom yn ceisio meddwl am bobl o'r De Ddwyrain rydym yn eu hadnabod sydd o gartrefi Saesneg, ond sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Roeddem yn gallu meddwl am lawer mwy o bobl oedd wedi mynd trwy'r system addysg Saesneg nag oedd wedi mynd trwy'r un Gymraeg. Does yna ddim byd gwyddonol am y canfyddiad yna wrth gwrs, gallai fod yn fater syml o bwy rydym ni yn digwydd eu hadnabod.
Tra ar wyliau yn Ffrainc rai blynyddoedd yn ol cawsom ein hunain ym mhentref St Emillion, gerllaw Bordeaux. Roedd y lle yn llawn hyd yr ymylon o dwristiaid. Fel sy'n digwydd yn rhyfeddol o aml mewn gwledydd tramor clywsom rhywun ymysg y torfeydd yn siarad Cymraeg. O edrych pwy oeddynt, teulu o Gaerdydd oedd yno - roedd y tad wedi bod yn Fitzalan yr un pryd a'r wraig ac roeddynt yn adnabod ei gilydd - ond doedd o erioed wedi croesi meddwl y naill bod y llall yn gallu siarad Cymraeg. Yn wahanol i Alwyn a'i gydnabod chawson nhw ddim anhawster siarad Cymraeg efo'i gilydd o ddeall bod gwneud hynny'n bosibl.
Un o'r pethau sy'n gwylltio Lyn (mae yna lawer o bethau yn ei gwylltio erbyn meddwl), ydi dod ar draws nifer o bobl penodol (a gaiff aros yn ddi enw) yng Nghaerdydd sy'n ymddangos ar ein sgriniau teledu yn siarad Cymraeg, yn gwneud bywoliaeth fras ar gefn yr iaith, sydd wedi mynd trwy'r system addysg cyfrwng Cymraeg, ond sy'n cyfathrebu efo'u plant trwy gyfrwng y Saesneg. Mae yna un wraig rhyfeddol o gegog sydd ar ein sgriniau dragwyddol, oedd ar un adeg yn defnyddio'r bws o Dreganna i'r dref efo'i hepil yn rheolaidd, sy'n ei chythruddo'n arbennig.
Rwan, mae'n hawdd deall pam bod pobl sydd wedi gorfod mynd i gryn drafferth i ddysgu'r Gymraeg yn fwy tebygol o'i defnyddio, na phobl sydd wedi cael yr iaith wedi ei chyflwyno iddynt yn ddi ofyn. Mae'n hawdd deall hefyd pam bod pobl felly yn cael y myll pan maent yn dod ar draws pobl sydd wedi cael pethau'n haws o lawer na nhw eu hunain ddim yn defnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd pob dydd. Yr hyn sy'n fwy anodd dod i gasgliad ynglyn a fo ydi pa mor gyffredin ydi'r bobl yma. Yn sicr fedra i ddim meddwl am unrhyw ddata sy'n cael ei goledu sy'n debygol o roi ateb i'r cwestiwn. Ac mae hynny'n anffodus - yn fy mhrofiad i o leiaf, dyma'r grwp o Gymry Cymraeg sydd at ei gilydd fwyaf penderfynol o ddefnyddio'r iaith pan mae'r cyfle yn codi.
2 comments:
Arglwydd mawr Cai - mae fy mhen i'n troi wrth geisio deall hynna i gyd.
Touché!
Fel sy'n digwydd yn rhyfeddol o aml mewn gwledydd tramor clywsom rhywun ymysg y torfeydd yn siarad Cymraeg. O edrych pwy oeddynt, teulu o Gaerdydd oedd yno - roedd y tad wedi bod yn Fitzalan yr un pryd a'r wraig ac roeddynt yn adnabod ei gilydd - ond doedd o erioed wedi croesi meddwl y naill bod y llall yn gallu siarad Cymraeg. Yn wahanol i Alwyn a'i gydnabod chawson nhw ddim anhawster siarad Cymraeg efo'i gilydd o ddeall bod gwneud hynny'n bosibl.
Cymhariaeth annheg. Yr wyf yn dod ar draws cyn cyd ddisgyblion ysgol yr oeddwn yn arfer siarad Saesneg a nhw yn yr ysgol hefyd ac wedi "anghofio’r" ffaith mae Saesneg oedd iaith ein cyfathrebu gynt - Bethan Gwanas, Alun Elidir. Gwyndaf Evans a phobl llai amlwg ac yn siarad y Gymraeg yn naturiol a phob un, heb broblem newid iaith.
Dydy problem newid iaith efo rhywun fel Gwanas, hogan rwy'n ei chyfarfod unwaith yn y pedwar amser yn y cnawd, ddim yn anodd o gwbl, a dim i'w cymharu â phroblem newid iaith efo'r tad a magodd i neu'r wraig yr wyf yn byw efo hi
Mae hon yn broblem i lawer o bobl 'dwi'n siwr Alwyn, ond a bod yn onest mae'n broblem cwbl estron i mi. 'Dwi ddim yn meddwl bod yna'r un person sy'n gallu siarad Cymraeg nad ydw i'n siarad Cymraeg efo fo / hi.
Mae pethau'n eithaf syml yn fy myd bach i - ti'n siarad Cymraeg efo rhywun ti'n gwybod neu'n meddwl sy'n gallu siarad Cymraeg, a ti'n siarad Saesneg efo pobl ti'n meddwl sydd methu siarad Cymraeg. Os ti'n darganfod bod person yn siarad Cymraeg er nad oeddet yn sylwi hynny, ti'n newid iaith. Ti'n gwneud yr un peth pan mae rhywun yn dysgu Cymraeg. Efallai bod gwneud hyn yn haws o lawer os ti'n byw mewn ardal lle mae mwyafrif llethol pobl yn rhugl eu Cymraeg.
Paid a fy nghamddeall - 'dwi ddim yn gweld bai. 'Dwi wedi digwydd byw fy mywyd i gyd bron mewn llefydd lle mae'r Gymraeg yn gryf iawn. Nid pawb sydd wedi bod ddigon ffodus. Mae'n debyg bod natur ieithyddol ardal yn effeithio ar sut mae trigolion yr ardaloedd hynny yn rhesymu yn hyn o beth.
Post a Comment