Monday, April 26, 2010

O blaid toiledau ond yn erbyn iechyd a diogelwch

Waeth i mi heb a chymryd arnaf ei bod yn fater o syndod i mi bod gohebiaeth etholiadol Louise Hughes - yr aelod o Lais Gwynedd sy'n sefyll yn annibynnol ym Meirion Dwyfor, yn cymryd ffurf rant estynedig yn hytrach na phamffled etholiadol traddodiadol.


Mae yn peri cryn syndod i mi, fodd bynnag, ei bod yn cychwyn y rant gydag ymysodiad ar reoliadau iechyd a diogelwch. Mae'n arfer wrth gwrs gan elfennau o'r Dde Brydeinig eithafol i ymosod ar reoliadau sy'n cael eu cynhyrchu gan y llywodraeth, ond mae'n anarferol i hyd yn oed yr elfennau hynny ymosod ar yr agwedd arbennig yma ar reoliadau llywodraethol.

'Dwi'n gwybod ein bod i gyd o bryd i'w gilydd yn cael ein diflasu gan y gyfundrefn iechyd a diogelwch sydd wedi ei chreu a sydd yn cael ei gweinyddu gan yr HSE (yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch), ond mae'n gyfundrefn bwysig iawn. Os nad ydych yn fy nghredu ystyriwch y ffigyrau canlynol - ym 1974 bu farw 651 (2.9 o pob 100,000) o bobl yn eu man gwaith o ganlyniad i ddamweiniau, erbyn 2008 / 2009 y ffigwr oedd 121 (0.5 o pob 100,000). Y gymhariaeth o ran damweiniau nad oeddynt yn angeuol tros yr un cyfnod oedd 336 701 i 94 790*. Mae'n werth nodi mai record diogelwch yn y gweithle Prydain ydi'r gorau yn Ewrop o ddigon - esiampl prin o Brydain ar ben tabl Ewropiaidd.

Rwan mae'n debyg bod rhan o'r gwelliant syfrdanol yma yn niogelwch y gweithle yn ganlyniad i newidiadau yn y math o waith y bydd pobl yn ei wneud - ond tua chwarter y gwahaniaeth sy'n ganlyniad i hynny. Gellir priodoli'r gweddill i ymyraeth gan asiantaethau'r llywodraeth. Mae diwylliant sicrhau diogelwch mewn mannau gwaith wedi ei drawsnewid tros y degawdau diwethaf, ac er gwaethaf y niwsans mae'r gweithdrefnau sy'n rhaid eu dilyn yn eu hachosi i bobl fel fi, mae'n rhaid ei fod werth y drafferth i arbed bywydau canoedd o bobl yn flynyddol.

Mae'n stori o lwyddiant clodwiw, ond nad ydi Louise yn credu hynny yn ol pob golwg. Ymddengys ei bod eisiau mynd yn ol i rhyw orffennol gwych pan nad oedd y wladwriaeth yn amddiffyn ei dinasyddion yn y gweithle. Dydi hi ddim yn glir os mai eisiau mynd yn ol i'r dyddiau cyn sefydlu'r HSE mae'r ddynas, ynteu ydi hi eisiau mynd a ni yn ol i Oes Fictoria pan roedd miloedd lawer yn cael eu lladd yn y gweithle yn flynyddol a chanoedd o filoedd yn cael eu hanafu.

Mae'n fater o ofid bod rhywun sydd eisiau bod yn Aelod Seneddol yn arddel y fath syniadau adweithiol ac anghyfrifol.

*Ystadegau oll gan yr HSE.

6 comments:

Anonymous said...

Louise Hughes (LLG)= UKIP

Plaid Gwersyllt said...

Huey Long Cymraeg : Populist.
Gaddo popeth a gneud dim!

Anonymous said...

Pob Lwc Louise, mae angen gwaed newydd yn lle ????? sydd yna rwan

Hogyn o Rachub said...

I fod yn onast mae'n arwydd o wendid Llais Gwynedd ei bod hi'n gadael iddi sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn y lle cynta - pa blaid o ddifrif fyddai'n caniatáu hynny wn i ddim

Anonymous said...

Rhaid dweud i mi weld Loise yn canfasio o gwmpas Pen Llyn heno - er mor hurt yw ei safbwyntiau am nifer o bethau, o leiaf roedd hi yma, dwi ddim wedi gweld neb arall.

Anonymous said...

meddai 'anon' olaf - dwi ddim wedi gweld neb arall...

hen ddadl ffol a dwl i drio sgorio pwyntiau gwleidyddol.

Mae'n rhaid dy fod a dy ben yn y pridd i fod wedi methu Elfyn yn mynd o amgylch Penllyn amryw o weithiau, ac mi fydd eto ddydd Sadwrn yma.

Ta waeth, mae Llafur ar goll - dim hyd yn oed anerchiad etholiadol gan Lafur yn Nwyfor Meirionnydd!!!