Tuesday, April 06, 2010

Dyma gychwyn y ras o'r diwedd!

Rhywbeth yn ymylu at hysteria ar y cyfryngau gyda'r Bib wedi argyhoeddi eu hunain bod holl symudiadau car Gordon Brown werth eu darlledu.

Mewn gwrthgyferbyniad llwyr mae pethau'n ddistaw ar lawr gwlad. Roeddwn yn rhedeg trwy strydoedd Gorllewin Caerdydd ychydig oriau yn ol, ac roedd ambell i boster Plaid Cymru wedi ymddangos mewn ffenestri, ac roedd yna ddau neu dri o Doriaid ifanc iawn yn rhannu gohebiaeth uniaith Saesneg y tu allan i'r Tesco yng nghanol Treganna (mae'r ohebiaeth 'dwi wedi ei weld gan Lafur a Phlaid Cymru yn yr etholaeth yn barchus ddwyieithog). 'Dwi hefyd wedi derbyn dau e bost, (uniaith Saesneg wrth gwrs) gan Geidwadwyr Arfon.

Mae ychydig yn od i Doriaid Gorllewin Caerdydd roi'r argraff nad oes ganddynt ddiddordeb mewn pleidleisiau Cymry Cymraeg yng Ngorllewin Caerdydd - wedi'r cwbl mae miloedd o Gymry Cymraeg yn byw yn yr etholaeth, ac mae mwy o lawer ohonynt yn defnyddio'r iaith o ddiwrnod i ddiwrnod nag mewn unrhyw etholaeth arall i'r dwyrain o Afon Llychwr.

Mae'n ymylu at fod yn bisar bod Ceidwadwyr Arfon yn rhoi'r argraff nad oes ganddynt ddiddordeb mewn pleidleisiau Cymry Cymraeg - mae tros i 70% o boblogaeth Arfon yn siarad Cymraeg - a'r mwyafrif llethol o'r rheiny yn ei siarad fel mamiaith. Od iawn.


2 comments:

Anonymous said...

Fe roeddwn i'n un o'r "Toris ifanc iawn" y gweloch chi yn dosbarthu taflenni ar bwys Tesco yn Nhreganna. Dw i'n falch bod chi wedi ein gweld ni, ond mae'n rhaid i fi eich cywiro chi ynglyn ag iaith ein gohebiaeth. Fe roedd y cerdyn yn hollol ddwyieithog. Fe ddylwn i wybod, gan taw fi wnaeth ddarparu'r cyfieithiad!

Cai Larsen said...

Diolch.

Yn od iawn mae'r holl ohebiaeth 'dwi wedi ei dderbyn gan Geidwadwyr Gorllewin Caerdydd yn uniaith Saesneg - y cwbl lot.