Sunday, September 13, 2015

Ynglyn a chamarwain yr etholwyr

Mae'r stori fach a ddatblygodd ar trydar ddoe yn un bach digon diddorol.  Mae'n deillio o drydariad gan ymgeisydd Llafur yn Arfon, y Cyng Sion Jones ei fod yn gynhyrfus iawn ynglyn a buddugoliaeth Jeremy Corbyn yn etholiad arweinyddol y Blaid Lafur, a'i fod wedi cefnogi'r sosialwr o Islington o'r dechrau'n deg.

Cafwyd ymatebion gan y Cyng Dyfrig Jones yn tynnu sylw i Sion ddatgan cefnogaeth i Andy Burnham ym mis Mai.




Ymddengys iddo hefyd wneud yr honiad iddo gefnogi Corbyn o'r cychwyn yn un o'r nifer nid ansylweddol o gyfweliadau mae'n eu cael gan y Bib.



A bod yn deg efo Sion aeth ati i gywirio ei hun yn syth gan ddweud ei fod wedi newid ei feddwl a chefnogi Corbyn yn 'hwyr ym mis Mai'.


Ond mae yna broblem yn aros mae gen i ofn.  Cafwyd datganiad gan Sion bod Burnham wedi colli ei gefnogaeth yn sgil sylwadau a wnaeth ynglyn a'r ffordd roedd Llafur wedi ymateb i bleidlais ar dorri budd daliadau.  Gwnaeth Burnham y sylwadau hynny ar Orffennaf 21 2015.  I'r rhai yn eich plith sydd ddim yn rhy siwr o sut mae'r calendr yn gweithio - mae hynny gryn ddau fis ar ol diwedd Mai.  Roedd y cwn ar y palmentydd yn gwybod mai Corbyn fyddai'n ennill erbyn y dyddiad hwnnw.


Rwan, dydan ni ddim yn son am rhyw gelwydd mawr Carmichaelaidd yma.  Does yna ddim amheuaeth bod Sion yn cefnogi Corbyn erbyn y diwedd.  Does yna ddim amheuaeth chwaith nad oedd yn cefnogi Corbyn o'r cychwyn fel yr honodd.  Ar un olwg mae'n ymgais hanner dealladwy - os naif - i wneud ei gysylltiad efo llwyddiant Corbyn yn gryfach nag oedd mewn gwirionedd.

Ond mae dau beth yn codi o'r stori ryfedd.  I ddechrau mae'n bwydo i mewn i ymdeimlad o anonestrwydd ymysg gwleidyddion.  Mae'n rhesymol i amau y byddai gwleidydd sy'n fodlon dweud celwydd 'golau' bychan, hefyd yn fodlon dweud celwydd mwy sylweddol petai amgylchiadau yn galw am hynny.

Mae yna rhywbeth arall hefyd - rhywbeth sydd yr un mor wir i flogiwr ag yw i wleidydd.  Mae hi bron yn unarddeg mlynedd ers i Flogmenai gychwyn - ac mi fedraf ddweud efo fy llaw ar fy nghalon nad oes yna erioed ymgais wedi ei gwneud i gyflwyno rhywbeth sy'n ffeithiol anghywir.  Peidiwch a cham ddeall - dydw i ddim yn honni am funud i fod ar rhyw ucheldir moesol - penderfyniad ymarferol ydi osgoi camarwain.  Mae'n bwysig i flogiwr bod yr hyn sydd yn ei flog yn gredadwy.  Mae cynnwys stwff sydd ddim yn ffeithiol gywir yn tanseilio hynny yn llwyr.  Mae'r egwyddor yna yr un mor wir i wleidydd - mae i wleidydd tanseilio ei gredinedd ei hun efo man gelwydd yn hurt.

1 comment:

Anonymous said...

Dwi'n meddwl bod chdi'n bod rhy ffeind. Cael ei ddal yn deud celwydd so mae o'n deud celwydd arall. Swnio fatha compulsive liar i fi.