Sunday, September 13, 2015

Ond tydi hi'n hwyl bod yn aelod o'r Blaid?

Noson wych i lawnsio ymgyrch yn Aberconwy echnos yng nghwmni Trystan Lewis, Meinir Gwilym a Hogiau'r Berfeddwlad a Jacob Elwy neithiwr yng Nghlwb Rygbi Llandudno a'r Clwb Pel Droed yn orlawn neithiwr yng Nghaernarfon yng nghwmni Sian Gwenllian, Celt a Tamarisco i lawnsio'i hymgyrch hithau.  

Nid canfasio a thaflennu ydi gwleidydda i gyd  - ond mae'r gwleidydda yn mynd rhagddo o hyd cofiwch - cafodd Leanne dderbyniad gwych yn Llandudno brynhawn echdoe a dosbarthwyd miloedd lawer o daflenni yn Arfon fore ddoe (er i mi golli hynny - roedd gen i gyfarfod yn Nolgellau yn anffodus).

Mae Pleidwyr y Gogledd Orllewin ar y lon unwaith eto.  








2 comments:

Anonymous said...

Mae rhyw reddf yn deud mai yn Llandudno y tynnwyd y llun uchaf.

Cai Larsen said...

Ia, mae'n siwr bod Llandudno yn fymryn mwy gentile na G/narfon.