Friday, September 11, 2015

Dryswch Llafur ynglyn a'r iaith

Mae'r blog yma wedi nodi yn y gorffennol ei bod yn anffodus - a dweud y lleiaf - bod y gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg, Carwyn Jones, yn cyfaddef ei fod yn cael trafferth dwyn perswad ar ei blant ei hun i ddefnyddio'r Gymraeg efo'i gilydd.  Os nad ydym yn gallu perswadio ein plant i wneud rhywbeth, mae'n anodd gweld pam ein bod yn disgwyl gallu dwyn perswad ar unrhyw un arall i wneud yr un peth.  Ymddengys i Carwyn fynd un cam yn well ym Mhatagonia ac annerch cyfarfod gweddol fawr trwy'r Saesneg, a'r Saesneg yn unig.  Go brin y gallai ddod o hyd i dyrfa o oedolion yn unrhyw le yn y Byd lle mae mwy yn deall y Gymraeg na'r Saesneg, ac mae'n cymryd y penderfyniad i'w hannerch yn y Saesneg.  Dydi idiotrwydd ddim yn air digon cryf rhywsut. 



Ond wedyn mae'r Gymraeg yn bwnc sydd wedi bod yn anodd i'r Blaid Lafur erioed. Mae rhai o wleidyddion Llafur yn y gorffennol - 'Arglwydd' Tonypandy a Iorweth Thomas er enghraifft wedi bod ymysg y pobl mwyaf gwrth Gymraeg i droedio'r Ddaear. Yn yr oes sydd ohoni maent i fod yn gefnogol i'r iaith - ond mae hyn yn eu drysu yn lan.  Ychydig iawn o 'u gwleidyddion cenedlaethol neu leol sy'n defnyddio'r Gymraeg wrth eu gwaith.  Dydi pobl fel Gwenda Thomas neu Kevin Madge sy'n ei siarad yn rhugl prin byth yn traddodi ynddi ar lawr y Cynulliad neu Gyngor Caerfyrddin.

A hyd yn oed yma yng Ngwynedd - lle mae nifer o wleidyddion, aelodau a chefnogwyr Llafur yn gwneud defnydd helaeth o'r iaith -  mae'n achosi problemau seicolegol i'r blaid.   Roeddem yn edrych ar ymddygiad rhyfedd un o'u hymgeiswyr Cynulliad yn ddiweddar - lle mae'n ystyried darpariaeth ddwyieithog fel rhywbeth sy'n ymylu ar hiliaeth, ond yn cwestiynu pam bod cyfrif trydar preifat gan berson di Gymraeg sy'n cefnogi'r Blaid ddim trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r dryswch rhyfeddol yma yn ymestyn i gefnogwyr cyffredin ar lawr gwlad.  Ystyrier y trydariad yma gan gefnogwr adnabyddus o'r Blaid Lafur yn Arfon er enghraifft.



Er mwyn osgoi embaras i'r trydarwr, ac i guddio pwy ydyw mi gyfeiriwn ato fel John.  Ymddengys bod John yn meddwl ei bod yn briodol cyfeirio cyfrifon trydar preifat Saesneg i bencampwr iaith Gwynedd.  Ond ar yr un diwrnod roedd wrthi'n cwyno i Gyngor Gwynedd yn gyhoeddus trwy gyfrwng ei gyfri trydar bod rhywun wedi dympio llwyth o sbwriel yn agos at ei gartref.  Yn naturiol ddigon roedd yn cwyno trwy gyfrwng yr iaith fain. 





Mae'n anodd credu'r dryswch rhyfeddol yma rhywsut.

1 comment:

Anonymous said...

Pwy fathodd y gair erchyll "idiotrwydd"?